BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageFrizbee, Brigyn...
Rhyng-gol 2004
Alun Rhys Chivers


Lle a phryd
Gig Ryng-gol Prifysgol Cymru Aberystwyth, Mawrth 5ed, 2004

Y bandiau
Frizbee, Brigyn, Radio Luxembourg

Awyrgylch
Roedd y lle'n llawn ar gyfer uchafbwynt calendr cymdeithasol Prifysgol Cymru, gyda disgwyliadau'n uchel am noson gofiadwy. Cynheswyd y dorf gan seiniau 'Radio Luxembourg' - roedd digon o fynd ynddyn nhw ac yn y dorf mewn ychydig iawn o amser. Pan ddaeth 'Brigyn' ymlaen, fe aeth pawb yn wyllt gan ganu i bob un gân - roedd y swn yn fyddarol! Roedd yn anodd peidio symud i'w seiniau nhw. Cyrhaeddwyd uchafbwynt gydag ymddangosiad 'Frizbee' i'r llwyfan. Aeth y dorf yn hollol wyllt wrth i'r band daro nodyn cyntaf 'Blew'. Rociodd y dorf go iawn!

Trac y noson
'Lleisiau yn y Gwynt' gan 'Brigyn'. Roedd yr awyrgylch yn drydanol. Dwi'n siwr nad fi oedd yr unig un i deimlo ias wrth glywed y trac hwn. Hollol wefreiddiol!

Disgrifiwch y perfformiadau
Mae 'Radio Luxembourg', band ifanc o Aberystwyth yn gwella gydag amser. Roc a rôl a gafwyd ganddyn nhw trwy gydol eu set. Roedd y dorf yn dawnsio i 'Pwer y Fflwer', 'Pobl y Piws' a'r encôr, 'Pacio Rhai Gwers'. Mae hanner y band yn gyn-aelodau o 'Mozz' ac roedd eu holion i'w gweld arnyn nhw.Daeth bois 'Epitaff', Eurig ac Ynyr nol dan eu hail enw, 'Brigyn', ac mae'n nhw'n profi i fod yr un mor boblogaidd ag erioed. Seiniau Celtaidd sydd i'r rhan fwyaf o'u caneuon - y mwyafrif yn faledi. Maen nhw'n eitha' gwerinol, gyda'u cymysgedd o gitarau ac allweddellau. Fe gawson nhw'r gorau allan o'u cynulleidfa!

Wrth i 'Frizbee' daro nodyn cyntaf 'Blew', roedd hi'n argoeli i fod yn set i'w fwynhau. Daeth y bois o Flaenau Ffestiniog i'r llwyfan gan ddangos eu bod nhw'n haeddu bod yn brif fand y noson. Erbyn hyn, maen nhw'n enillwyr dwbl yng Ngwobrau RAP Radio Cymru ac yn un o fandiau mwyaf llwyddiannus y flwyddyn. Roedd eu set yn gymysgedd o ganeuon 'Hirnos' a 'Lennonogiaeth' - cawson ni faledi a chaneuon roc wedi'u plethu'n effeithiol. Roedd hi'n anodd peidio dawnsio iddyn nhw! Cafwyd y dorf yn galw am ragor erbyn diwedd y set, a daeth y bois i'r llwyfan eto i orffen gyda 'Da Ni Nol' (ffefryn personol gen i!). Roedd pawb yn bopio i hon! Roedd cyfeiliant gitâr Ywain i'r anthem yn wych - diweddglo perffaith i noson berffaith!



Uchafbwynt y noson
Yn ddi-os, fersiwn unigryw Ywain Gwynedd Frizbee o'r anthem genedlaethol. Roedd hi'n ddiweddglo addas iawn ar gyfer noson wych!

Y peth gwaethaf am y noson
Roedd hi'n siomedig fod 'Brigyn' wedi cael gymaint o broblemau technegol ar ddechrau'r set, ond fe ddaethon nhw drwyddi gyda pherfformiad gwych!

Achlysur Roc a Rôl
Bois 'Frizbee' yn rhoi llofnodion ar ddiwedd y noson y tu cefn i'r llwyfan i fyfyrwyr benywaidd golygus - i'w rhoi i'w rhieni!!!

Beth sy'n aros yn y cof?
Sylweddoliad Ywain Gwynedd ar ôl y gig bod 'Frizbee' wedi sefydlu eu hunain yn gadarn ar y sîn a'u bod nhw yma i aros!

Talent gorau'r noson
Mae'n anodd gwahaniaethu rhwng y bandiau - cafwyd perfformiad gwych gan bob un! Yn bersonol, rhaid dweud 'mod i'n ffan enfawr o 'Frizbee' (mae'n nhw 'di mynd o nerth i nerth yn gyflym iawn!).

Marciau allan o ddeg
10

Un gair am y gig
Rhyng-gol Rhagorol (ocê, dau air!!)

Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion?
Mae gigs y ryng-gol yn Aber yn wych - manteisiwch ar y cyfle i fynd i'r un nesa', da chi!

Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!

Cysylltiadau Perthnasol
http://www.brigyn.com/
http://www.friz-b.co.uk/
http://www.aber.ac.uk/en/visitor/

Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy