 | Winabego, Kentucky AFC Bangor, Tach 2004 Leusa Fflur
Lle a phryd Clwb y Rheilffordd, Bangor. Nos Sadwrn yr 20fed o Dachwedd 2004.
Y Bandiau : Y Cysgodion, Wondergrundies, L.B.K, Winabego, Kentucky AFC a Pep le Pew
Awyrgylch : Mi oedd hi jyst fel un o gigs yr haf, y lle yn llawn a pawb yn ymateb yn wych i'r bands o'r cychwyn un. Mi oedd 'na lot o ddawnsio a chanu hefo'r criw ar y llwyfan. Ond yn anffodus roedd y ciw i'r bar yn rhy hir!
Trac y noson : Sori, dydw i'm yn gyfarwydd hefo enwa caneuon y tri band cychwynol! Ond mi oedd cân wych gan Y Cysgodion lle rhoddodd Amlyn Parry ei gitar lawr, a'i hwd am ei ben, a nath hyna hoelio sylw pawb! Cân wych arall - Y Werin Bobol gan PLP. Pawb yn neidio fyny a lawr ac yn canu!
Disgrifiwch y perfformiadau : Mi gychwynodd y noson hefo tri band ifanc, newydd a chwaraeodd set fyr bob un, mi lwyddodd pob un i'm mhlesio i yn arw!Y Cysgodion : Mi chwaraeon nhw gyfyr o gan Ffa Coffi Pawb, a mi roedd dylanwad roc-ish y band yn amlwg ar y cysgodion. Roedd y caneuon yn syml, ond yn effeithiol iawn! Wondergrundies: Weeeel! Son am hefi metal! Miwisg gitars trwm hefo'r symud i gyd-fynd [jympio fyny a lawr fel nytars]. Er bod o'm y math o fiwsig swni fel arfer yn licio, mi nesh i rili mwynhau'r set. L.B.K - Y band gwana o'r tri yn fy marn i. Ella bo nhw wedi pechu achos y cyfyr gwael o un o ganeuon Red Hot Chili Peppers, dwnim! Ond eto, steil roc [meddalach na wondergrunies!]. Tri band newydd addawol iawn ar y cyfan, gobeithio newn nhw sticio ati.Winabego: Band cymharol newydd i'r Sin Gerddoriaeth Gymraeg, ac yn barod mae nhw'n cael lot o sylw am eu tiwns bachog. Perfformiad da sy'n bendant am fod yn help i werthiant yr EP newydd, Hyder Bregus sydd allan ar hyn o bryd. Roc gitars meddal, sy'n swnio'n eitha tebyg i Ffa Coffi Pawb [eto!]. Hoff gân, Unarddeg Dyn Lawr, sy'n cwl! Kentucky AFC: Unwaith eto, roc a rol hollol wych! Caneuon yn gyfarwydd iawn bellach oherwydd yr holl gigio, ac wrth gwrs yr albym gynta sydd allan ers Steddfod. Mi wrthodon nhw chwarae Unarddeg er ein bd ni'n tynnu sylw i'r ffaith bod hi'n unarddeg o'r gloch...ond mi chwaraeon nhw hi tua diwedd y set, a mi ddawnsiodd pawb i ddathlu! [sbio fyny sbio lawr, canolbwyntio ar y llawr, mynd i'r chwith mynd i'r dde, edrych allan ar y ser!]. Mae'n hen bryd cael mwy o ganeuon newydd!Pep le Pew: Ersrhyddhau un o albyms gorau'r flwyddyn, 'Un Tro yn y Gorllewin', yn gynharach eleni, yn ddiweddar mae PLP wedi bod yn eithaf tawel. Mae hyn oherwydd bod Dyl Mei, un o'r aelodau fyny at ei glustiau mewn projectau cerddorol eraill o bob math! Ond mi roedd y set yma yn y relwe yn un gofiadwy.Roedd y perfformiad yn dyn, a'r gynulleidfa yn ymateb yn dda. Roedd y rapio yn daclus a'r offerynau byw yn ychwanegu rhywbeth sbeshal iawn i'r caneuon. Mi chwaraeon nhw hen glasuron fel Y Da, y Drwg ac yr Hyll heblaw am y rhai newydd fel Smociwch y Bush a Y Werin Bobol. Mae nhw wedi profi bod nhw heb golli'r ddawn o fod yn un o fands byw gorau'r Sin. Tew!
Uchafbwynt y noson : Set Pep le Pew ; pawb yn y ffrynt yn gweiddi a chanu, a Dyl Mei yn taflu pethau o gwmpas y lle ar y llwyfan...dim poen yn y byd!
Y peth gwaethaf am y noson : Bod hi'n oer. A bod y bar yn anodd iawn i'w gyrraedd achos y ciw hir.
Achlysur Roc a Rôl : Gwalltiau'r Wondergrundies! Mi oedd y drymar hefo stwmps dreadlocks, y ffryntman efo gwallt hir-ish wedi ei ludo i'w ben efo jel mewn siap trionglog. A Roedd y gitarydd arall hefo andros o mohican uchel. Difyr dros ben!
Beth sy'n aros yn y cof: Y bownsars...waaa mi oeddan nhw'n sgeri!
Talent gorau'r noson : Aron PLP, mi oedd o'n gallu rapio a chwara bass run pryd a neud o i edrych mor hawdd!
Marciau allan o ddeg: 8
Un gair am y gig : symudol !Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion? : Peidiwch methu PLP yn chwara yn fyw os fedrwch chi. Cadwch olwg am y Cysgodion yn y dyfodol. A prynwch EP newydd Winabego!
|  |