 | Pala, Y Cyffro, Frizbee Neuadd Buddug, Y Bala Tachwedd 2004
Lle a phryd : Neuadd Buddug, Y Bala. Nos Wener 19eg o Dachwedd 2004.
Y bandiau : Pala, Y Cyffro, Frizbee
Awyrgylch : Mi oedd y lle'n reit wag fel y disgwyl yn Bala, ond mi lenwodd tua'r diwedd a mi gafwyd chydig o ddawnsio gwirion i Frizbee hefyd [iep, fi nath]. Roedd ymateb y gynulleidfa yn rhyfeddol dda, a'r neuadd digon bach i beidio amlygu'r prinder o bobol oedd yno!
Trac y noson : 'Eglura' gan Pala. Mae'r dryms yn chwarae rhan wych yn y gân, a mae'r rhythms yn cwl. Dyma'r gân orffenodd set Pala, a mi ddangoswyd nhw ar eu gorau.
Disgrifiwch y perfformiadau: Pala ~ Band anghyffredin oherwydd y dewis o offerynau, dryms, allweddellau a llais. [dim gitar!]. Perfformiad hyderus a rhythmig, caneuon swynol a theatrig. Melodig iawn. [och dwi'n swnio fel beirniad steddfod yr urdd]. Wiwer !Y Cyffro ~ Yn anffodus, nath Y Cyffro ddim fy nghyffroi i o gwbwl. Mi oedd y perfformiad yn undonnog ac yn ddiflas, ac yn fy atgoffa i o'r math o fand-gwneud bysa'n chwara mewn priodas neu benblwydd priodas hen anti ac yncyl. Mi chwaraeon nhw gyfyrs o hen ganeuon Cymraeg da fel Draenog Marw ar y ffordd, a mi oedd o'n stincio. Os ydach chi'n darllen hwn, plis rhowch eich gitars yn y tô rwan. Frizbee ~ Perfformiad mor dyn a top pot mango chutney. Roc a Rol go iawn. Roedd pob cân yn wych, y rhai oddi ar yr albym Hirnos yn cael ymateb da, yn enwedig y clasuron 'Dora Gusan' a 'Ti'. Mi chwaraewyd caneuon oddi ar yr EP newydd fydd allan ar y cynta o Ragfyr, Lennonogiaeth, a mi aeth rheini lawr yn dda - edrych 'mlaen i glywed yr EP !
Uchafbwynt y noson : Ymateb y gynulleidfa i 'Dora Gusan' a 'Ti', wiwer!
Y peth gwaethaf am y noson : Bod hi mor wag, er bod gigs yn yr ardal yn brinach 'na ymweliad wiwerod coch i'r cwpwrdd dwr poeth.
Achlysur Roc a Rol : Gwallt Ywain Frizbee ! Neu bod Rhys Mwyn a Gwilym Morus wedi cerdded mewn, yn Bala ! [hmm ella bod hyna'm yn achlysur roc a rol. Yn sicir ddim roc a rol, mwy fel affro-beats...]
Beth sy'n aros yn y cof? : 'Dw i'n falch o gyhoeddi mod i'n cofio bod dim, diolch yn fawr.
Talent gorau'r noson : Osian, drymar ifanc Pala [13]. Yn chwarae'r dryms fel pe bai o wedi bod yn gwneud hynny ers blynyddoedd lawer, gwych!
Marciau allan o ddeg : 6.42
Un gair am y gig : Cnau ! Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion? :
yym, peidiwch byth a cymeryd fferins gan bobol ddiarth...!
|  |