 | Rasputin, Eryr, Nar Aberystwyth, Tach 2004 Lowri Johnston
Lle a phryd? Gig Naws yn y Cwps, Aberystwyth, 5ed o Dachwedd '04.
Y bandiau Rasputin o Landysul, Eryr a Nar o Benllyn.
Awyrgylch Dwi'n cyrraedd y Cwps yng nghanol set Rasputin, y band cyntaf i ymddangos ac mae'r lle yn llawn dop yn barod. Braf gweld cymaint o bobl yno i weld y band agoriadol - rhywbeth sydd ddim yn digwydd yn aml iawn mewn gigs Cymraeg. Mae'r awyrglych yn dda iawn, fel mae bob tro yn y Cwps.
Trac y noson Gofod Garwyr - NAR. Pawb yn dawnsio ar y seddi!
Disgrifiwch y perfformiadau Roedden nhw'n addo noson o 'roc gwyllt' a dyna yn bendant a gafwyd ar noson oer o Dachwedd yng nghynesrwydd y Cwps. Rasputin oedd yn agor y noson - band ifanc o Landysul. Fe welais i nhw yn gig Herio'r Welsh Not yng Nghaerfyrddin nol ym Mis Medi. Roedden nhw'n dda iawn ar y pryd - sypreis neis achos on i heb weld nhw o'r blaen. Ond roedden nhw llawer tynach yn y gig yma yn Aberystwyth na yng Nghaerfyrddin, ac fe fwynheiais eu perfformiad. Eryr oedd i ddilyn - band o Benllyn ond sydd â hanner eu aelodau yn fyfyrwyr yma yn Aberystwyth. Does dim dwywaith bod y band yma ddim yn cael hanner digon o sylw - efallai bod hyn achos nad oes dim wedi cael ei ryddhau yn swyddogol, er eu bod wedi ffurfio tua 5 mlynedd yn ôl. Perfformiad da iawn - yn enwedig gan y gitarydd sydd yn hollol wych. Ac yn ystod 'Chwarae teg', cafwyd drym solo ffantastig gyda llygaid pawb wedi eu hoelio ar y llwyfan. Dyma fand llawn egni sy'n rhoi popeth mewn i'w perfformiad. Gwennu ar Dduw i orffen y set fel arfer - uchafbwynt y set i mi yn bendant. Hen bryd i bobl ddechrau cymryd sylw go-iawn o'r band yma - ac iddynt ryddhau rhywbeth! Ewch i weld Eryr yn y ryng-gol (13eg o Dachwedd yn Aberystwyth) ac ar y 15fed o Ragfyr yng Nghlwb Pêl-droed Aberystwyth. Nar sy'n cloi'r noson, band poblogaidd gyda'r gynulleidfa yn amlwg. Perfformiad gwych - dwi ddim yn gyfarwydd iawn â caneuon Nar ond fe fwynheuais yn fawr iawn. Mae'r band yn dod yn ôl am encore gyda Gofod Garwyr - pawb yn dawnsio - diwedd gret i noson dda iawn.
Uchafbwynt y noson Sawl peth i'r dod i'r meddwl... solo gitarydd a drymiwr Eryr... Symudiadau Nar i gyd fynd â geiriau'r caneuon.... Sbectol haul Math o Eryr... dawnsio meddwol myfyrwyr Aberystywth ar y cadeiriau... ayyb!
Y peth gwaethaf am y noson Er bod y Cwps yn lle gret, mae'n anioddefol o boeth yna!
Achlysur Roc a Rol Gwallt gitarydd Rasputin. Waw!
Beth sy'n aros yn y cof? Drum solo Dafydd, drymiwr Eryr. Gwych.
Talent gorau'r noson Gitarydd Eryr. Mae'r boi yn anhygoelMarciau allan o ddeg: 9
Un gair am y gig Meh.
Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion? Gwnewch yn siwr bod chi'n cyrraedd yn gynnar i unrhywun o gigs Naws er mwyn cael sedd! Mae'n gwneud llawer o wahaniaeth! Da iawn i griw Naws hefyd - chi'n gwneud gwaith gwych - cadwch ati!
|  |