 | G. Glyn, Pep le Pew Miri Madog '04 (Sadwrn) Gan Lowri Johnston
Lle a phryd Clwb Chwaraeon Porthmadog, Nos Sadwrn 14eg o Awst.
Y bandiau Sam Mozz, Gwyneth Glyn, Cate Timothy, King 'Biwt, Winebago, Kentucky AFC, Pep Le Pew, The Keys, Anweledig. Llwyfan DJs: Kim De Bills, Guto Brychan, Y Lladron, DJ Lambchop, Ian Cottrell, Bethan Elfyn a Huw Stephens.
Awyrgylch Prynhawn heulog dydd Sadwrn, ac mae'r awyrgylch yn hyfryd. Pawb yn eistedd tu allan wrth y llwyfan acwstig, a pawb yn chilled ac yn ymlacio gyda ffrindiau. Dydy'r dorf ddim yn cyrraedd nes yn hwyrach ymlaen yn y nos, felly dydy hi ddim rhy llawn i ddechrau, a pawb yn stocio fyny ar ddiodydd cyn i'r niferoedd gyrraedd!
Trac y noson Gormod o lawer i ddewis ohono! Cae yn Nefyn, Anweledig, efallai -' achos mae pawb yn mynd yn hollol wallgof!
Disgrifiwch y perfformiadau Wel, am wledd o gerddoriaeth! Gwyneth Glyn sy'n chwarae wrth i mi gyrraedd yn y prynhawn, ac mae ei dawn fel llenor yn amlwg yng ngeiriau gwych ei chaneuon. Mae'n edrych yn cŵl iawn yn ei het gowboi hefyd! Set acwstig hyfryd, sy'n grêt i wrando arno wrth ymlacio yn yr haul. Cate Timothy sy'n dilyn, ac mae ei llais unigryw yn swynol. Mae ganddi'r talent, ond dwi ddim yn siŵr os ydy hi'n ei ddefnyddio i'w botensial eto -' gobeithio y daw ei gwir gallu i'r amlwg cyn hir.
Mae King 'Biwt hefyd yn chwarae caneuon chilled sy'n berffaith ar gyfer y ffordd mae pawb yn teimlo! Winebago sy'n ymddangos gyntaf ar y prif lwyfan, band lleol sydd â llawer o ganeuon catchy. Mae'r gân Unarddeg Dyn i Lawr yn wych, ac mae nhw'n fand sy'n hawdd iawn i wrando arnynt, ond dim mewn ffordd Meinir-'Gwilym-'aidd, ond yn hytrach fel band roc hafaidd. Yr unig feirniadaeth sydd gen i yw bod angen i'r canwr gael mwy o hyder wrth berfformio, ond daw hyn gyda mwy o brofiad, ac mae hefyd angen iddyn nhw edrych fel eu bod yn mwynhau'r profiad o fod ar lwyfan yn fwy. Os bydd y band yn edrych fel eu bod yn mwynhau, bydd y gynulleidfa yn gwneud hefyd.
Kentucky AFC nesaf -' set grêt, Unarddeg yn ffefryn personol. Pep le Pew sy'n dilyn, a cawn flas o'r hyn sydd i ddod o'r albwm newydd -' a popeth yn swnio'n wych. Mae Aron ar ei orau heno, a'r band yn cyfathrebu'n dda gyda'r gynulleidfa gan eu annog i ddod yn nes at y llwyfan. Pawb yn dawnsio'n wyllt! I orffen, mae'r band yn rapio dros bootleg o Daft Punk a Michael Jakson -' ac mae'n ffantastig. Un o'r perfformiadau gorau dwi wedi ei weld gan Pep le Pew o bosib.
Allan wedyn i'r llwyfan DJ's a gweld llawer o'r DJs yno -' gan ddawnsio fel ffyliaid i set Ian Cottrell, sy'n llawn o ganeuon ffynci! Joio! Dwi'n colli'r Keys yn anffodus oherwydd hyn, ond yn ymlwybro nol mewn i'r babell i weld Anweledig. Mae'r lle yn orlawn erbyn hyn, pawb yn mynd yn wallgof pan ddaw Anweledig i'r llwyfan. Cae yn Nefyn yn uchafbwynt gyda pawb yn mynd yn hollol nyts -' pobl yn dechrau dringo ar y llwyfan hyd yn oed! Ffantastig! Ffordd gwych o orffen penwythnos hyd yn oed yn well!
Uchafbwynt y noson Ymlacio yn yr haul wrth y llwyfan acwstig cyn dawnsio nes bod gen i stitch wrth y prif lwyfan!
Peth gwaethaf am y noson Yr holl gacwn oedd yn mynnu cael eu siâr nhw o'n diodydd ni!
Talent gorau'r noson Pob band wedi bod yn wych, ond roedd Pep le Pew yn arbennig o wych heno.
Digwyddiad roc a rôl Ceri C o Anweledig yn crowd syrffio!
Beth sy'n aros yn y cof? Dawnsio yn y glaw man i set Ian Cottrell.
Un gair am y gig Tew (Iawn iawn iawn)
Unrhyw sylwadau eraill? Llongyfarchiadau mawr i'r trefnwyr, roedd hi'n benwythnos llwyddiannus, cyfeillgar, proffesiynol ac yn llawer iawn o hwyl. Edrych ymlaen at flwyddyn nesaf yn barod!
|  |