BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageDrymbago, Saizmundo
Miri Madog '04 (Gwener)
Lowri Johnston



Lle a phryd
Clwb Chwaraeon Porthmadog, nos Wener Awst 13, 2004

Y bandiau
Bechdan Jam, MC Saizmundo, Drymbago a Meic Stevens

Awyrgylch
Dydy'r lle ddim yn orlawn i ddechrau, ond mae'n llenwi erbyn i Meic Stevens ymddangos. Mae'r llwyfan mewn marquee sydd wedi ei gysylltu â bar y Clwb Chwaraeon - handi! Ymateb y gynulleidfa i'r bandiau yn iawn - pobl yn dechrau dawnsio erbyn Drumbago - ond mae'n anodd peidio wrth wrando ar y band yma!

Trac y noson
Y Brawd Hwdini gan Meic Stevens. Wrth iddo orffen ei set, mae'r gynulleidfa yn dechrau canu'r gân yma, a'r basydd yn ymuno mewn, cyn i'r dyn ei hun ddod yn ôl. Gwych!

Disgrifiwch y perfformiadau
Nes i fethu Bechdan Jam yn anffodus achos traffic! Sori! Mc Saizmundo agorodd y noson i mi felly, a perfformiad digon egniol, gyda'r MC dawnus yn defnyddio pob cornel o'r llwyfan wrth iddo rantio am hyn a'r llall! Drumbago nesaf a mae rhain yn hollol ffantastig fel arfer. Does dim band tebyg iddynt ar hyn o bryd yng Nghymru a dwi'n mwynhau eu perfformiad cymaint a bob tro arall dwi wedi eu gweld nhw.

Mae nhw'n cael pawb i ddawnsio wrth i'r bîts African-funk/drum'n'bass lenwi'r babell a phawb wrth eu bodd. Peidiwch a cholli rhain ar unrhyw gyfri'! Gellir lawrlwytho ffeiliau mp3 Drumbago ar www.unarddeg.com.
Meic Stevens sy'n cloi'r noson, ac wedi un strop bach sy'n para tua pum munud, mae'r Brawd Hwdini yn ddigon hwylus. Mae'n chwarae llawer o'r ffefrynnau - Mynd i ffwrdd fel hyn, Ysbryd Solfa ac Erwanyn uchafbwynt i mi. Perfformiad da, ond mae cleber y gynulleidfa yn ei foddi ar adegau. Dwi wedi mwynhau pob perfformiad, ac yn edrych ymlaen i weld mwy o fandiau gwych yfory!

Uchafbwynt y noson
Dawnsio fel ffwl i Drumbago!

Peth gwaethaf am y noson
Dwi wir ddim yn gallu meddwl am ddim byd negyddol! Pris y diodydd wrth y bar efallai?!

Beth sy'n aros yn y cof?
Pawb yn bloeddio canu Y Brawd Hwdini

Talent gorau'r noson
Drymbago yn sicr.

Marciau allan o ddeg
9

Un gair am y gig
Taclus.

Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybyddion?
Peidiwch gwisgo bŵts swêd i le sy'n debygol o gynnwys sawl pwll dŵr!

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy