BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageMattoidz
Abertawe, Hydref 2004
Alun Rhys Chivers


Llun gan Chris Reynolds

1). Lle a phryd
Ty Tawe, Stryd Christina, Abertawe, Hydref 29ain

2). Y bandiau
Andrew Rhys Lewis a'i fand; Mattoidz.

3). Awyrgylch
Roedd yr ystafell yn llawn am y gig fisol hon, ac roedd cymysgedd o bobl yn y dorf - myfyrwyr, cefnogwyr y bandiau, pobl ifainc Abertawe, ac roedd hyd yn oed ambell un enwog yno, gan gynnwys cyflwynydd C2, Ian Cottrell a'r gwleidydd, Adam Price. Ar nos Wener y Grolsch, Ty Tawe yw'r lle i fod. Pylwyd y goleuadau ar ddechrau'r noson, gan greu naws briodol ar gyfer Calan Gaeaf. Aeth pawb i hwyl y noson a chafwyd sawl un yn dawnsio erbyn set Mattoidz.

4). Trac y noson
Heb os, 'Tan y Tro Nesa', cân Mattoidz. Mae pawb yn gyfarwydd â'r gân ac mae'n adlewyrchu ymweliadau cyson y band â Thy Tawe eleni. Buon nhw yno'n ddiweddar i wneud set acwstig wych i 'Tyrfe Tawe', wrth gwrs.

5). Disgrifiwch y perfformiadau
Cafwyd roc a rôl gan Mattoidz, gyda pherfformiad hynod o fywiog a thrwm o 'Dyn Telesales', eu sengl newydd. Maen nhw'n sicr yn gwybod sut mae diddanu'r dorf! Am gerddorion!!! Roedd Andrew Rhys Lewis yn hyderus iawn o ystyried ei fod yn newydd i'r sîn. Roedd yn berfformiad egnïol a bywiog, os nad ychydig yn drwm. Byddwn i'n hoffi ei glywed yn acwstig, yn enwedig yn yr ystafell fechan hon.

6). Uchafbwynt y noson
Roedd pawb yn barod am barti, a dyna a gafwyd. Roedd yna 'buzz' enfawr yn y lle, a braf gweld bod cerddoriaeth Gymraeg yn Abertawe yn mynd o nerth i nerth.

7). Y peth gwaethaf am y noson
Er gwaethaf perfformiad gwefreiddiol gan Mattoidz, roedd eu cerddoriaeth yn drwm ar adegau, ac roedd hynny'n tynnu rhywbeth i ffwrdd o'r lleisiau.

8). Achlysur Roc a Rôl
Dau beth sy'n dod i feddwl - y cyntaf yw Hefin, canwr Mattoidz, yn dweud 'Nos da. Diolch yn fawr' ar ddiwedd y trac gyntaf - fe barhaon nhw beth bynnag! (maen nhw'n dipyn o jôcars!!). Y llall oedd drymar y band yn taflu'r prennau i'r dorf ar ddiwedd y noson - roc a rôl go iawn!!!

9). Beth sy'n aros yn y cof?
Perfformiad trydanol Mattoidz o'r trac 'Tan y Tro Nesa' - dyma nhw ar eu gorau!

10). Talent gorau'r noson
Andrew Rhys Lewis - cofiwch yr enw!

11) Marciau allan o ddeg
9/10 am y gig
10/10 i Fenter Iaith Abertawe am drefnu'r noson!

12). Un gair am y gig
Ffab!!!

13). Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion?

Da gweld cymaint o wynebau newydd mewn gig Cymraeg yn Abertawe - mae'r sîn ar gynnydd yma. Doedd fawr iawn o le i symud! Peidiwch â methu dwy gig nesaf Gwener y Grolsch - Ashokan ar Dachwedd 26ain a Neil Rosser a'r Band ar Ragfyr 10fed.



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy