 | Goldie Lookin' Chain Bangor, Mehefin 2004 Megan Jones
Lle a phryd Neuadd Hendre, Tal-y-Bont, yn ymyl Bangor. 23 Mehefin 2004
Y bandiau Pep Le Pew, John the White Rapper, Goldie Lookin' Chain
Disgrifiwch yr awyrgylch a'r perfformiad Wel, roedd 'na powercut felly roedd hi'n hir yn dechrau a roedd rhai pobl yn dechrau diflasu, ond ar ôl disgwyl cymaint roedd hi'n well byth pan ddaeth y bandiau ymlaen, roedd pawb yn barod i gael hwyl. Hefyd, roedd hi'n bwrw hen wragedd a ffyn, felly roedd y lle'n llawn, a neb tu allan! Er hynny, roedd hi'n bwrw ychydig tu mewn hefyd, roedd na dyllau ar hyd y to! I fi, trac y noson oedd "21 ounces" gan y Goldie Lookin' Chain, oherwydd roedd hi'n llawn egni, a'r lle'n gwbwl llawn erbyn iddyn nhw ei chware fo, neu efallai "Your Mother..." gan ei fod yn un o uchafbwyntiau'r noson, roedd pawb wedi bod yn disgwyl cael ei glywed, a fe orffenon nhw ar uchafbwynt, gyda pawb yn fodlon. Fe wnaeth Pep le Pew y gorau y gallen nhw o sefyllfa eithaf anodd yn fy marn i, doedd bob dim dal heb ddod at ei gilydd ers y powercut ond roedden nhw'n benderfynol o roi set dda i'r bobl oedd wedi bod yn disgwyl am oriau i rywbeth ddigwydd, ac fe aeth hi i lawr yn wych, oherwydd fod pawb wedi bod yn disgwyl am mor hir. Roedd rhan fwyaf o'r pobl yna yn gyfarwydd â cherddoriaeth Pep le Pew a Goldie Lookin' Chain, ond dydw i ddim yn meddwl bod cymaint o bobl yno i weld John the White Rapper. Er hyn, chwaraeodd set eithaf byr, ac fe aeth i lawr yn dda gyda'r gynulleidfa, un gân oedd yn sefyll allan oedd "Girls Don't Like Me", rap ddoniol oedd yn fy atgoffa o waith cynnar Mike Skinner. Roedd perfformiad y Goldie Lookin Chain braidd yn fyr, ond roedden nhw wedi dechrau'n hwyrach na roedden nhw'n disgwyl, felly does dim bai i roi yn fan'na. Chwaraeon nhw'r ffefrynnau i gyd, a chawsom glywed banter arferol a doniol y criw rhwng y caneuon. Fyddai byth yn gallu gwrando ar acen Casnewydd yn yr un ffordd eto!
Uchafbwynt y noson Uchafbwynt y noson oedd diweddglo gwych y Goldie Lookin Chain, wrth iddyn nhw orffen gyda un o'u caneuon mwyaf poblogaidd, "Your Mother has a p*nis", cân roedd pawb wedi bod yn disgwyl ei chlywed am oriau! Dim ond un peth drwg am y noson - sef y powercut. Roedd hi'n golygu bod yn rhaid i bobl aros o tua wyth o gloch tan o amgylch deg cyn clywed unrhyw beth, a hefyd bod dim amser i glywed y bandiau cefnogaeth i gyd, oedd yn biti. Rhywbeth sy'n aros yn y cof yw trio gwneud yn siŵr fod fy nhrowsus ddim yn cael eu rhoi ar dân gan y canhwyllau oedd ym mhobman!
Talent gorau'r noson Goldie Lookin Chain heb amheuaeth
Marciau allan o ddeg 8/10
Un gair am y gig Rhyfeddod
Unrhyw gyngor Fy nghyngor i i unrhyw un sydd yn mynd i Neuadd Hendre mewn tywydd drwg fyddai, efallai y byddai'n syniad da i ddod a torch ac ymbarel! Ond er hyn, mae'r awyrgylch yno yn wych bob amser.
Lincs gwefan www.ffarout.com www.slacyr.co.uk Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
|  |