 | Jarman, Mim Twm Llai Gŵyl Car Gwyllt 2004 Leusa Fflur
Lle a phryd Sgwâr Diffwys, Blaenau Ffestiniog. 12 Mehefin 2004
Y bandiau Frizbee, Vates, Mim Twm Llai, Estella, Anweledig, Kentucky AFC, Geraint Jarman
Awyrgylch Roedd o'n lle addas i gynnal gŵyl o'r fath, roedd o'n debyg iawn i'r Sesiynau Fawr Dolgellau cynnar efo cynulleidfa o bob oed dan haul yn mwynhau'r gerddoriaeth, y cwrw a'r tywydd braf gwyrthiol yn Mlaena' Ffestiniog! Roedd 'na lot o ddawnsio, a roedd na ddealltwriaeth amlwg rhwng y gynulleidfa a'r bandiau ar y llwyfan. Roedd 'na deimlad cymunedol clos iawn yno, a roedd hynny'n beth braf. (anwybyddwch y pyn!!)
Trac y noson 'Dawns y Glaw' gan Anweledig, am y rheswm bod y geiriau yn dweud y gwir am unwaith "Pawb yn deud fod hi'n bwrw glaw yn Blaena Ffestiniog, wir i chi mae hi'n braf o hyd yn Mlaena' Ffestiniog"! Roedd côr cymysg enfawr yn canu o dan y llwyfan gyda'r band, a hefo sŵn y 'trwmpeda' a'r gynulleidfa yn bloeddio canu, mi roedd hi'n wych, a mi chwaraewyd hi ddwywaith - hwre!
Disgrifiwch y perfformiadau
Frizbee - nes i'w methu nhw... bysus hwyr! Vates - hanner y band wedi'u ddwyn o fandiau eraill o Blaena! Sŵn newydd, ryw ymylu ar fod yn reggae/ska gitarllyd, digon o fynd iddyn nhw. Llais Prysor yn unigryw, yn enwedig y nodau uchel(!!) rhythms da! Mim Twm Llai - Mor booming ag erioed! Yr hen glasuron dal i fod yn arbennig o sbeshal. Estella - Cerddorol iawn, perfformio lot o'r albwm Lizarra, ond yr ymateb i 'Saithdegau' a 'Tân' dal i brofi bod Estella wedi bod ar gopa eu gyrfa gerddorol a'u bod nhw bellach yn sgipio linc-di-lonc i lawr. (barn bersonol efallai!) Anweledig - Dwy set anhygoel!! Mae'n neis eu cael nhw'n ôl ar lwyfan. Mae'r gallu i wneud i bawb ddawnsio dal genyn nhw. Presenoldeb gwych, a roedden nhw'n cyfathrebu'n dda efo'r gynulleidfa drwy'r adeg. Caneuon newydd canadwy, gobeithio bod hyn yn golygu bod Anweledig am ddychwelyd i'r Sin Roc Gymraeg hefo Bang! Kentucky AFC - Waw! Yn doedden nhw'n wych? Yn ôl eu arfer, roedd Kentucky yn rocio, ac yn neud i mi edrych ymlaen yn ofnadwy i'r albwm newydd gael ei rhyddhau. (gwyliwch amdani yn fuan!) Geraint Jarman - Roedd o mewn tracsiwt gwyrdd. Hmmm! Mae 'na rhywbeth yn dda mewn clywed y clasuron yn cael eu canu yn fyw. Ar y llaw arall, bydde'n lot gwell gen i fod wedi clywed un o'r bandiau amlwg ifanc sydd yn y sîn heddiw yn hedlainio. Yn fy marn i, roedd y perfformiad yn enghraifft dda o'r ffaith fod dyddiau gigio Jarman yn dechrau dod i ben.
Uchafbwynt y noson Caneuon newydd Anweledig, gath Ceri C pawb i ganu ryw gân na glywish i erioed mohoni o'r blaen, dyna chi be ydi talent cyfansoddi!
Y peth gwaethaf am y noson Y gwybed. Ddosh i o Blaena hanner stôn yn ysgafnach 'na ddoish i yno...!
Achlysur Roc a Rôl Mae cael Kentucky ar y llwyfan yn ddigon o achlysur roc am wn i! Doniol oedd gweld dau ffan ifanc yn neidio i ben y llwyfan a dechrau dawnsio cân Unarddeg!!
Beth sy'n aros yn y cof? Sbio fyny, sbio lawr, canolbwyntio ar y llawr, mynd i'r chwith, mynd i'r dde, edrych allan ar y sêr a sylweddoli bod 'na lechi yn mhobman, fel ryw fyd tylwyth teg.
Talent gorau'r noson Titch Gwilym wrth gwrs! Mi gawsom ni'r clasur solo gitâr o Hen Wlad Fy Nhadau i gloi'r noson.
Marciau allan o ddeg 8/10. Mae un marc yn cael ei golli am y gwybed, a'r ail am absenoldeb Texas Radio Band!
Un gair am y gig Taclus
Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion? Tro nesa, 'dw i am feddwl am gynllwyn i gael gwared o'r gwybed, ffeindio rhywle gwell na car i aros ynddo, peidio mentro i Flaena ar fysus hwyr, a landio yno nos Iau yn hytrach na dydd Sadwrn! Fel arall, mi oedd hi'n ŵyl anhygoel!
Lincs gwefan www.friz-b.co.uk www.estella.org.uk www.anweledig.co.uk www.kentuckyafc.com
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
|  |