 | Radio Lux, Ashokan Abertawe, Tach 2004 Alun Rhys Chivers
Lle a phryd Ty Tawe, 26/11/04
Y bandiau Radio Luxemburg, Ashokan, DJ Ian Cottrell
Awyrgylch Dechreuodd y neuadd lenwi'n gynnar, gyda phawb yn aros yn ddisgwylgar. Roedd y dorf yn gymysgedd o fyfyrwyr a phobl ifanc. Roedd hi'n braf gweld nifer o wynebau newydd yno hefyd. Roedd y goleuadau'n isel ar y dechrau, ac roedd yna awyrgylch ymlaciedig. Buan y newidodd hynny! Aeth pawb yn wyllt wrth ddawnsio yn nes ymlaen yn y noson. Doedd dim lle i symud!
Trac y noson Holl ganeuon Radio Luxemburg - roedd y pennau'n nodio i bob un ohonynt!
Disgrifiwch y perfformiadau Roedd Radio Luxembourg yn roc a rôl pur (gydag allweddellau). Roedd ambell gyffyrddiad o SFA yn eu caneuon, ond roeddynt yn debycach i fand metal trwm erbyn y diwedd.Chwaraeodd Ian Cottrell draciau ffynci cyn a rhwng y setiau.Cawsom roc trwm gan Ashokan, roedd eu lleisio'n well o lawer na Radio Luxemburg, ac roeddynt tipyn yn fwy hyderus yn eu perfformiad.
Uchafbwynt y noson Cân olaf Radio Luxembourg - cafwyd lot fawr o hwyl wrth weld dawnsio gwyllt y band!
Y peth gwaethaf am y noson Roedd Radio Luxembourg ychydig yn rhy drwm i'r ystafell fechan. Cafwyd effaith gwael ar y clustiau!
Achlysur Roc a Rol Prif leisydd Radio Luxembourg yn dweud "Nos da. Ni'n shattered!" ar ddiwedd y gân gyntaf. Druan! Hefyd, dawnsio gwyllt Radio Luxembourg.
Beth sy'n aros yn y cof? Gweler uchod!
Talent gorau'r noson Radio Luxembourg, er gwaetha'r ffaith eu bod nhw'n drwm!
Marciau allan o ddeg 8/10
Un gair am y gig Trwm!Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion? Os y'ch chi eisiau noson o gerddoriaeth dawel, nid mewn gig fel hyn y dylech chi fod!
|  |