Caerfyrddin - 14.04.07
Alun Rhys Chivers
Lle a phryd?
Clwb y Cwins Caerfyrddin - 14 Ebrill 2007
Rhan o Taith Tafod 2Adolygydd?
Alun Rhys Chivers
Y bandiau?
Cowbois Rhos Botwnnog, Supergene, Mr. Huw, Coda
Awyrgylch?
Roedd gig Cymdeithas yr Iaith yn fwrlwm o ieuenctid o bob cwr o Gymru, gyda'r bandiau'n denu eu criw eu hunain gyda nhw am noson o gerddoriaeth gymysg ei naws gan rai o fandiau ifanc gorau'r sin. Cafwyd digon o gerddoriaeth egnïol i ddawnsio iddi wrth i'r alcohol lifo drwy'r nos. O ystyried bod neuadd y clwb rygbi yn dipyn o faint, doedd hi ddim yn edrych yn wag o bell ffordd diolch i'r dawnsio gwallgo', yn enwedig ar ddiwedd y noson ar ganol set y Cowbois.
Trac y noson
Os oeddwn i'n meddwl o'r blaen fod 'Cymer Fi' yn drac bachog, fe allech chi ddweud y gallai hon fod yn un o draciau'r flwyddyn hyd yn hyn ar ei newydd wedd. Mae'r bois o Landysul yn fwy tyn o ran eu cerddoriaeth ac yn llawer mwy arbrofol gyda'u hofferynnau yn y trac hwn. Mae cael ail lais yn ychwanegu dimensiwn newydd i'r sain.
Disgrifiwch y perfformiadau
Coda:
Pan glywais i'n wreiddiol fod un o fy hoff fandiau wedi penderfynu newid eu math o gerddoriaeth, rhaid i fi gyfaddef 'mod i wedi poeni rhywfaint y bydden nhw'n colli rhywfaint ar eu sain unigryw. Rhyddhad felly oedd gweld bod Coda wedi gallu trawsnewid rhai o'u caneuon ysgafn yn ganeuon roc a chadw eu sain eu hunain ar yr un pryd. Rhaid dweud ei bod hi'n rhyfedd gwrando arnyn nhw ar y dechrau. Mae synau cymharol ysgafn 'Cymer Fi' a 'Cerdded' wedi mynd erbyn hyn, ac mae'r bois o Landysul ar y ffordd i sefydlu eu hunain yn un o fandiau mwyaf disglair y dyfodol ar yr SRG gyda thraciau fel 'Seren-Wib' a 'Beth sy'n bod? Wyt ti'n siŵr?'. Mae Steffan Evans yn canu gyda'i frawd Dafydd ar rai o'r traciau erbyn hyn ac mae hynny'n creu sain fwy cyflawn, ac mae eu sgiliau ar y gitâr yn rhyfeddol.
Mr Huw:
'Morgi Mawr Gwyn' a 'Gwyneb Dod' yw'r unig draciau sydd wir yn sefyll allan o'r set. Nid dyma Mr. Huw ar ei orau yn anffodus. Roedd y sain yn aneglur. System PA gwael oedd yn gyfrifol am hyn, mae'n debyg. Er gwaetha'r PA, gwelwyd ambell fflach o athrylith gerddorol ganddo fan hyn a fan draw. Byddai'r set wedi bod tipyn yn well pe bawn i wedi gallu clywed y cyfan ond doedd hynny ddim am fod. Effeithiwyd yn wael ar naws y set o'r herwydd. Ond roedd ei sbecs haul yn cŵl! A braf gweld Swci Boscawen yn ymuno yn y set hefyd.
Supergene:
Dyma'r tro cyntaf i fi glywed y band cymharol newydd hwn o Gaerfyrddin yn fyw, ac fe greon nhw dipyn o argraff arna i o'r gân gyntaf. Mae bandiau indie yn beth prin ar y sîn ar hyn o bryd ac mae'r gallu ganddyn nhw i gyrraedd y brig yn y dyfodol. Mae 'Jackie Jones' yn barod yn gân adnabyddus er nad yw'r band wedi bod mor flaenllaw â hynny tan yn gymharol ddiweddar yn Gymraeg. Fe gawson ni set o 8 cân gan ddechrau â 'Corden Bels' a gorffen â'r trac llawn angerdd ac awyrgylch, 'Cwsg Nawr'. Mae 'na adleisiau drwyddi draw o U2. Bydd Supergene yn fand gwych ar gyfer gŵyl haf. Dwi'n edrych ymlaen at eu clywed yng Ngŵyl Rainbow Spirit yng Nghas-gwent a Gŵyl Macs, wrth gwrs. Mae sŵn eithaf 'chilled' ganddyn nhw ar hyn o bryd gyda'r gallu i fynd yn drymach ar gyfer nosweithiau fel hyn. Dan arweiniad Greg Haver fel cynhyrchydd (sy'n gynhyrchydd y Manics) ar eu halbwm cyntaf y llynedd, mae'n amlwg bod pethau mawr i ddod ganddyn nhw.
Cowbois Rhos Botwnnog:
Erbyn diwedd y noson, a rhan fwyaf y dorf wedi mynd i hwyliau, fe ddaeth Cowbois Rhos Botwnnog i'r llwyfan yn llawn brwdfrydedd ac egni. Yn syml, dyma'r gorau dw i wedi eu gweld nhw. Y caneuon sy'n sefyll allan o'u set yw 'Musus Glaw' a 'Cyn yr Haf' am y rheswm syml eu bod nhw, ill dau, yn gwneud i'r dorf ddawnsio'n wyllt. I'r rhai ohonon ni nad oeddem yn ddigon anturus i fentro i'r llawr dawnsio, roedd hi'n amhosib gweld y band ar y llwyfan trwy'r bobl oedd yn gwthio'u ffordd tua'r blaen. Dyma set llawn cyffro a ddaeth i ben yn sydyn oherwydd, mae'n debyg, bod rheolwr y clwb wedi penderfynu tynnu'r plwg (yn llythrennol). Mae'n debyg bod hyn yn gor-ymateb i ddigwyddiadau nad oedd yn ymwneud â'r band o gwbl. Byddwn i wedi hoffi clywed tipyn mwy o'r Cowbois Rhos a gobeithio y byddan nhw ar eu gorau unwaith eto yng Nghlwb Ifor Bach ymhen ychydig wythnosau.
Uchafbwynt y noson?
Gweld cymaint o fandiau brwdfrydig a thalentog ar un llwyfan a chael profi digwyddiad mor gyffrous. Llongyfarchiadau i'r Gymdeithas am drefnu gig mor wych.
Y peth gwaethaf am y noson?
Ar y cyfan, roedd hi'n noson llawn hwyl oni bai am y sain ar adegau a'r ffaith fod y gig wedi gorfod gorffen yn sydyn oherwydd gor-frwdfrydedd un neu ddau yn y dorf ac ymateb y rheolwr, twpsyn!
Achlysur Roc a Rôl?
Mae Dafydd Evans, canwr Coda bob amser yn ymddangos fel pe bai'n rocstar - mae ei wylio'n strytio ar y llwyfan yn ychwanegu at y profiad o wrando ar y band.
Beth sy'n aros yn y cof?
Clywed 'Jackie Jones' gan Supergene yn fyw - dyma gân hwyliog a melodig fydd yn siŵr o sicrhau lle i'r band ar y brig rywbryd yn ystod eu gyrfa.
Talent gorau'r noson?
Supergene - dyma gyflwyniad gwych iddyn nhw fel band byw yn Gymraeg.
Marciau allan o ddeg?
8
Un gair am y gig
Afieithus!
Gwefannau Defnyddiol:
Gigs Cymdeithas
Cowbois Rhos Botwnnog
Mr Huw
Supergene
Coda
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.