BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageGwobrau RAP 2007
Llandudno - 17.02.07
Alun Rhys Chivers


Adolygydd?
Alun Rhys Chivers

Lleoliad?
Venue Cymru, Llandudno

Y Bandiau?
Y Genod Droog, Y Ffyrc, Swci Boscawen, Cowbois Rhos Botwnnog

Awyrgylch?
Venue Cymru yn Llandudno oedd lleoliad deniadol y Gwobrau RAP eleni. Yn y gynulleidfa, roedd pobl o bob rhan o'r byd cerddoriaeth yng Nghymru, yn dod at ei gilydd i ddathlu prif noson cerddoriaeth Gymraeg y flwyddyn. O safbwynt rhywun sydd ar bwyllgor Tyrfe Tawe a phanel y Gwobrau, roedd cael y cyfle i gymysgu gyda'r sêr a chael enwebiad yn brofiad bythgofiadwy.

Gyda 14 o wobrau'n cael eu cyflwyno ar y noson, roedd cyfle i ddangos ein gwerthfawrogiad i dalentau gorau'r sin Gymraeg. Braf oedd gweld cymaint o wynebau newydd ar ben yr enwau cyfarwydd yn cael eu gwobrwyo'n gwbl haeddiannol.

Cyflwynwyd y noson gan Dafydd Du a Lisa Gwilym yn eu ffordd unigryw eu hunain.

Y Perfformiadau?
Roedd pedwar set byw hefyd rhwng y gwobrau gan Y Ffyrc, a gafodd wobr yr albym gorau am eu casgliad 'Oes' a'u set nhw ar C2 ddaeth i'r brig yn y categori hwnnw; Swci Boscawen a enillodd Artist Benywaidd y flwyddyn; Cowbois Rhos Botwnnog, y band a ddaeth i amlygrwydd eleni, a'r Genod Droog, a wobrwywyd gan wrandawyr Radio Cymru fel eu hoff fand eleni.

Y Ffyrc
Roedd hi'n braf gweld hen fand fel 'Y Ffyrc' yn dychwelyd i'r sîn ac fe'u gwerthfawrogwyd gan hen ac ifanc. Chwaraeon nhw gasgliad o'u goreuon, gan godi'r to oddi ar yr adeilad! Efallai eu bod nhw'n hen fand erbyn hyn, ond fe ddangoson nhw eu bod nhw'n gallu rocio ymhlith y goreuon.

Cowbois Rhos Botwnnog
Roedd Cowbois Rhos Botwnnog yr un mor egnïol ag arfer, gyda'u math unigryw o ganu gwlad/roc. Er eu bod nhw o hyd yn ifanc, maen nhw wedi creu tipyn o argraff ar y byd cerddoriaeth yng Nghymru eleni, a'u huchafbwynt hyd yma, mae'n deg dweud, yw cael eu gwobrwyo gan Radio Cymru eleni. Mae dyfodol disglair o'u blaenau, mae hynny'n sicr.

Swci Boscawen
Mae Swci Boscawen yn artist sydd wedi blodeuo eleni, a'r trac 'Adar y Nefoedd', heb amheuaeth, yw un o'r caneuon gorau sy'n cael eu chwarae ar Radio Cymru ar hyn o bryd. Mae ei llais yn adnabyddus ac o'r diwedd, mae hi wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei math unigryw o gerddoriaeth. Wrth wrando arni, mae'n bosib dweud bod dylanwad 'Enya' a 'Clannad' ar ei llais hi. Gallwn ni ond gobeithio y bydd hi ar y sin am flynyddoedd i ddod.

Genod Droog
Cafwyd set fywiog eto gan Genod Droog, sy'n mynd o nerth i nerth gyda'u rap/hip-hop. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai'r 'super-band' hwn yn para'n hir pan ddaeth Aneirin Karadog ac Ed Holden at ei gilydd, ond maen nhw wedi fy synnu eleni wrth iddyn nhw ddatblygu i fod yn un o fandiau mwyaf poblogaidd cerddoriaeth Gymraeg y flwyddyn, ac fe gawson nhw eu hanrhydeddu gyda gwobr 'Band Byw y Flwyddyn'. Gyda gig yn Llundain eleni, maen nhw wedi ehangu eu gorwelion, ond gobeithio na fyddan nhw'n dilyn trywydd cymaint o fandiau eraill wrth droi i'r Saesneg i hel eu ffortiwn. Byddai hynny'n golled fawr i'r sin pe bai'n digwydd.

Y Gwobrwyo?
Ymhlith y gwobrau eraill roedd Cynhyrchydd y flwyddyn a aeth i David Wrench (Swci Boscawen, Dyfrig Evans, Euros Childs), Bandit 247 am wefan orau'r flwyddyn, Radio Luxembourg am EP/Sengl/Lawrlwythiad y flwyddyn sef 'Os Chi'n Lladd Cindy' ac Euros Childs fel Artist Gwrywaidd y flwyddyn.

Gwobr gyntaf y noson oedd Digwyddiad Byw y flwyddyn, y wobr fawr i ni fel criw Tyrfe Tawe. Fe gyrhaeddon ni'r rhestr fer ond doedd hi ddim am fod. Doedd neb wir yn meddwl y byddem ni wedi gallu cystadlu gyda Sesiwn Fawr Dolgellau a gigs Maes B, ond braf gweld ein bod ni wedi derbyn cydnabyddiaeth am ein hymdrechion unwaith eto eleni. Mae'r daith flynyddol i'r Gogledd yn rhywbeth i edrych ymlaen ato erbyn hyn, a gobeithio y byddwn ni'n parhau i greu digwyddiad sydd yn denu sylw Cymru gyfan dros y blynyddoedd nesaf. Roedd y noson yn gyfle i ni ddathlu llwyddiant rhai o'r artistiaid ymddangosodd yn yr ŵyl llynedd a rhai o'r artistiaid fydd o bosib yn ymddangos ar ein llwyfan ni yn y dyfodol. Cawn weld.

Fyddai'r un noson wobrwyo'n gyflawn heb wobrwyo cyfraniad arbennig i'r sin. Fel dywedodd enillydd y wobr eleni, Caryl Parry Jones, mae'r wobr yn gwneud i chi sylweddoli cystal yrfa rydych chi wedi ei chael. Fe gyfaddefodd hi ei hun ei bod hi'n teimlo'n hen ar y sin erbyn hyn, ond mae'r ffaith ei bod hi'n dal i ganu a pherfformio ar amryw lwyfannau yn profi ei bod hi wir yn un o artistiaid mwyaf poblogaidd Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf a mwy.

Y peth gwaethaf am y noson
Un siom oedd bod Frizbee wedi cael noson aflwyddiannus heb ennill yr un wobr. O ystyried eu bod nhw'n un o'r ychydig fandiau sydd wedi cyrraedd y brig ac wedi cael y cyfle i gyflawni pob uchelgais posib ar y sin, mae'n drueni mawr na chawson nhw gydnabyddiaeth. Wedi iddyn nhw ymddangos fel prif fand y Sesiwn Fawr, does fawr ar ôl iddyn nhw i'w gyflawni, ac mae peryg nad oes cyfeiriad newydd iddynt fynd iddo erbyn hyn. Byddai'n drueni mawr eu colli ac fe ddylai'r sefydliad eu hannog i barhau fel band cyhyd ag sy'n bosib. Gobeithio na welon ni mo'u diwedd nhw.

Uchafbwynt y noson?
Uchafbwynt personol i fi oedd cael y cyfle i gwrdd â Glyn Big Brother. Roedd y seren ifanc yn edrych ar goll ymhlith yr holl enwogion, ac roedd yn gwbl ddiymhongar wrth fynd o un bwrdd i'r llall yn siarad â phawb. Gyda pheth gwaith cyflwyno i Radio Cymru hefyd, mae'r stiwdant a oedd unwaith yn gwbl anhysbys i'r genedl yn prysur ddod yn arwr.

Y parti
Roedd cyfle i gymdeithasu ar ddiwedd y seremoni cyn symud ymlaen i westy'r Imperial ar gyfer y parti. Os oedd y seremoni'n fawreddog, roedd y parti'n well fyth. Gyda'r holl ffurfioldeb ar ben, gallai pawb ymlacio yng nghwmni ei gilydd dros ambell beint neu botel. Roedd yn gyfle i gwrdd â hen ffrindiau a dod i adnabod pobl newydd. I ni fel criw Tyrfe Tawe, roedd hi hefyd yn golygu mynd at artistiaid a bandiau'n barod ar gyfer mis Hydref (a diota yng nghwmni rhai o gyfeillion yr ŵyl). Fe ddaeth y cyfan i ben yn oriau mân y bore, ac fe grwydron ni i'n gwelyau a'n traed yn dioddef wedi'r holl ddawnsio (neu dim ond fi all ddweud hynny?!)

Fe ddaethon ni adref yn waglaw, ond yn llawn atgofion am benwythnos gwych a diolch i Radio Cymru am roi'r cyfle i ni rannu yn yr hwyl. Gobeithio y cawn ni wahoddiad yr un mor wresog y flwyddyn nesaf.

Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy