BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageRadio Lux, Little My...
Clwb Ifor Bach - 10.03.07
Dafydd Owen


Adolygydd?
Dafydd Owen

Lle a Phryd?
Clwb Ifor Bach - 10.03.07

Bandiau?
Radio Luxembourg, Spencer McGarry Season (and the Werewolves), Little My

Awyrgylch?
Neshi gyrraedd y gig yn eitha cynnar, ond efo lot wedi ymuno yn y ffansi dress, odd yr awyrgylch yn eitha hwyliog o'r cychwyn. Erbyn Spencer Mc Garry ddod ymlaen roedd y lle yn llawn dop, efo'r tocynnau wedi gwerthu allan cyn i Radio Lux fod yn agos at y llwyfan.

Trac y noson
Tell Me What's Shaking (sydd ar eu MySpace) gan Spencer McGarry Season. Mae hynny achos doedd yna run trac Radio Lux yn sefyll allan yn fwy nag unrhyw un arall.

Disgrifiwch y perfformiadau
Little My
Arcade Fire llac iawn yw'r disgrifiad gora' allai roi i'r band yma. Roedd y band i gyd wedi ymuno yn y fancy dress, chwarae teg iddynt, ond gyda hogyn a hogan yn canu iddynt yn lot rhy ddistaw ac angen creu cyfalawon, a gweddill y band yn newid eu hofferynnau bob yn ail can, a chaneuon nad oedd gan unrhyw 'hook' iddynt roedd hi'n annodd dod i fwynhau'r band. Roedd y teimlad o hwylusdod ond yn para hyn a hyn, a chaneu bod nhw yn eitha llac, doedd y caneuon ddim yn eu cario. Yn anffodus, ni wnaeth y sain eu helpu chwaith, gan fod y lefelau allan ohoni yn llwyr. Ond, ar ol dweud hyn i gyd, gydag amser dwi'n siwr gallai'r band yma wella. Y teimlad cefais wrth wylio'r band oedd "Dwi di gweld gwaeth, ond dwi di gweld lot gwell fyd".

Spencer McGarry Season (and the Werewolves)
Roedd Spencer McGarry a'i fand hefyd wedi gwisgo fyny fel anifeiliaid, gyda'r canwr fel teigr a'r drymar a'r basydd fel Werewolves. O'r gan gynta, roedd hi'n amlwg fod nhw yn fand tyn iawn, gyda set-yp llawer symlach na Little My, a basydd a drymar da iawn i gadw'r band i fynd. Ma nhw'n chwara roc syml, ac yn sgwennu caneuon efo riffs ac alawon caniadwy. Fe wnaeth y band yma argraff arna i a llawer o'r gynilleidfa, ac yn siwr, byddai gen i ddiddordeb mynd i'w gweld eto. Yn anffodus, fe wnaeth gitar y gitarydd dorri yn y gan cyn yr un ola', gyda'r ail gitar yn gweithio tan ddiwedd y gan honno. Ond fe wnaethon nhw gario mlaen, a gorffen hefo can dda iawn.

Radio Luxembourg
O ni di clwad lot o betha da am eu set yn cefnogi Euros Childs ar ei daith yn ddiweddar, ond don i ddim wedi disgwl set mor dda ac y cafwyd. Gyda system sain ffantastig Clwb Ifor Bach, a'r ffaith fod nhw yn fand tyn iawn yn barod, golygodd hyn fod y caneuon yn dod trwodd yn dda iawn. Mae'r band yn sgwennu caneuon newydd yn aml, ond yn cymysgu yr hen gyda'r newydd, gan orffen efo Weapons Gaffey a chanu eu can enwoca hyd yn hyn, Lisa, Magic a Porva yn ail. Fe wnaeth y band ddod ymlaen ar y llwyfan hefyd wedi gwisgo fyny ond ddim fel anifeiliaid. Roedd Gaffey y gitarydd wedi gwisgo dillad llachar a lliwgar gyda "bowler hat" ar ei ben; Meilyr, y canwr a'r basydd, wedi gwisgo jaced ledr, sbectol haul a het ddu; Dylan efo siwt o'r 60'au, ac yn anffodus ni welais yn iawn be oedd Ben y drymar yn wisgo. Gyda'r band yn lawnsio eu EP diweddara, dyma nhw yn cychwyn y set gyda Mostyn & Diego, sef y gan sydd wedi cael ei chwarae ar Radio 6 music a gan Zane Lowe ar ei raglen Radio 1. Yn amlwg, mae'r band yma am lwyddo yn y dyfodol, pa bynnag iaith maent am ddewis canu ynddo.

Uchafbwynt y noson
Set Radio Luxembourg, a Gaffey yn dod ar y llwyfan ar ol pawb weiddi "Mwy, mwy!", ond yna datgan taw "Dim ond dod i nol can fi o ni, dim mwy!"

Y peth gwaethaf am y noson?
Dim digon o CD's ar gael. Odd E.P. Radio Lux di gwerthu allan cyn i'r band cynta' orffan.

Achlysur Roc a Rol
O ni am ddweud taw Dyl Mei yn taflyd ei hyn lawr y grsiau oddo, ond mi natho gwyno fel merch am y peth wedyn, sydd ddim yn roc a rol iawn. Felly mashwr Radio Lux yn cael security i fynd a nhw allan drwy cefn y llwyfan, yn lle gorfod mynd trwy'r gynulleidfa.

Beth sy'n aros yn y cof?
Dillad Gaffey ar y llwyfan.

Talent gorau'r noson?
Radio Luxembourg heb os. Gyda tri chwarter y band dim ond yn 20 oed, dim ond gwella allai'r band. Rhaid rhoid canmoliaeth i Ben y drymar hefyd. Sylwais i ddim o'r blaen mor bwysig ydyw i'r band, gan roi'r pwer iddynt o gefn y llwyfan.

Mariciau allan o ddeg
8/10

Un gair am y gig
Blewog.

Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion?
Dim yn benodol, na.

Linciau Defnyddiol
Radio Luxembourg
Spencer McGarry Season
Little My
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am wefannau allanol

Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy