BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageGafyn Buckland...
Ty Newydd - 13.01.07
Dafydd Owen


Adolygydd?
Dafydd Owen

Lle?
Ty Newydd Sarn - 13/01/07

Y Bandiau?
Gafyn Buckland/Eitha Tal Ffranco/Caswallon ap Cranc

Awyrgylch?
Roedd y gig yn y bar y tro yma yn hytrach na'r stafall gigs a gan fod y bandiau yn rhai newydd, dodd Ty Newydd ddim yn orlawn. Ond rodd na ddal hwyl i'w gael.

Trac y noson?
Heb os nag oni bai, "Tafarn Di Hwn" gan Gafyn Buckland.

Disgrifiwch y Perfformiadau?
Caswallon ap Cranc
Dau foi eitha ifanc o Aberystwyth ydi "Caswallon ap Cranc". Gyda'u caneuon syml a melodic, mae Caswallon ap Cranc yn ddau lais a gitar, ac o hynny cewn ganeuon sydd yn eitha syml ond yn eitha hawdd gwrando arnynt. Aeth eu set ymlaen yn hir iawn, a pan mae eich caneuon yn cychwyn efo cân am gael codiad yn y bora, mae'n rhaid cadw'r cysondeb o gadw sylw i fynd, ac yn anffodus ni wnaeth CaC wneud hyn. Ddim o reidrwydd eu bai nhw, ond pan dachi'n canu gyda dim ond tri 'offeryn' mae creu amrywiaeth yn anodd. Dwi ddim yn meddwl fod CaC yn "cac" o gwbwl, ond gan eu bod nhw yn fand newydd fyswn i'n awgrymu cael bâs a dryms efo chi, os nad yn fyw, yna ar 'backing track'. Mae'r gwahaniaeth mae hynny yn gallu gwneud i fand o'r fath yn enfawr. Fel arall, roedd hi'n set bach neis gan y band. Un peth arall, os am gael dau lais yn canu, byswn ni yn ceisio gwneud rhyw fath o harmoneiddio. Mae harmoneiddio yn hen cliche, ond mae cliche's yn cliche's am reswm.

Eitha Tal Ffranco
Gyda'u band arall, Zootechnics, yn fuddugol ym Mrwydr y Bandiau Maes B y llynedd, fy nhybiad i yw y byddai'r ddau unigolyn yma yn brysur gyda'r band yna, ond rhywsut mae'r ddau wedi cael amser i wneud set cyfan i'w band alter-ego, Eitha Tal Ffranco. Yn wahanol i Caswallon ap Cranc, roedd gan ETFf synth oedd hefo swn dryms arno. Fe wnaeth hyn a'r synth weithio yn dda i'r band, ac mae'n dangos gymaint o wahaniaeth mae hyn yn ei wneud. Er fod y set yn hynod fler, ac angen mawr am dynhau, mae hyn yn rhywbeth sydd i'w ddisgwyl o fand newydd, felly byddai rhoi hynny fel beirniadaeth am eu set yn anheg. Be sy'n dda am y band yma, yw eu bod nhw'n barod i drio pethau gwahanol a defnyddio synnau gwahanol. Oes, ma na lot yn ei neud o, ond mae rhan fwya o fandiau/artistiaid yn defnyddio samplau. Peth da oedd gweld ETFf yn defnyddio offerynnau go iawn. Dwi'n meddwl gyda ychydig o dynhau ar y set, a canu octave yn uwch i'r canwr, byddai modd i alter-ego'r Zootechnincs wneud set bach da.

Gafyn Buckland
Dwi wedi chwarae chydig o gigs gyda Gafyn Buckland yn y gorffennol, felly roeddwn i'n ymwybodol o'i set cyn y gig. Mae ganddo declyn sydd wedi ei blygio mewn i'r P.A. sydd yn golygu fod o yn gallu recordio be ma'n chwarae ar y llwyfan a chwarae nhw yn ôl trwy'r P.A., sy'n golygu allith o fod yn sefyll i ffwrdd o'r meic a cymeryd llymad o'i beint tra ma na gitar a llais yn canu trwy'r P.A. Wrth gwrs, mae Gafyn Buckland yn ei ddefnyddio (mwy na teclyn i allu bod yn ddiog) i greu llais neu lleisiau cefndir i'w ganeuon ac i greu cyfalawon ar y gitar, ac ma hynny yn cynnig rhywbeth ychwanegol yn ei set sydd yn eu wahaniaethu rhwng cantorion acwstig eraill. Mae hiwmor llwyfan Gafyn Buckland yn mynd yn wych gyda'i ganeuon hafaidd. Yr unig beth oedd yn bod ar set heno oedd fod P.A. Ty Newydd yn diffodd weithiau hanner ffordd trwy'i set, ac yn amlwg nath hyn amharu ar y set, ond fel arall roedd y set yn dda iawn, ac roedd y gân Saesneg na yn hynod catchy

Y peth gwaethaf am y noson
Y P.A. yn chwara fyny.

Achlysur Roc a Rol
Gafyn Buckland yn cyhoeddi ei gariad tuag at Sion Porn, gyda rhan fwya' o Dy Newydd yn cytuno.

Beth sy'n aros yn y cof?
'Tafarn Di Hwn!' gan Gafyn Buckland

Talent gorau'r noson
Gafyn Buckland. Yr artist cynta i mi glywed yn canu cân Saesneg yn Nhy Newydd, ac odd hi'n gân wych.

Marciau allan o ddeg
7/10

Un gair am y gig?
"Di". (Di-staw, Di-gyfeiliant, Tafarn Di hwn).

Gwefannau Defnyddiol?
Gafyn Buckland
Eitha Tal Ffranco
Caswallon ap Cranc

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy