Dinas Mawddwy - 30.06.07
Branwen Haf Williams
Lle a phryd?
Gwyl Cân ar Dân, Llew Coch, Dinas Mawddwy - 30ain o FehefinAdolygydd?
Branwen Haf Williams
Y bandiau?
Batala Bermo, PMT, Mike Jones, Pala, Gwibdaith Hen Fran, Vanta, Rallion, Y Cyffro, Gola Ola
Awyrgylch?
Yn anffodus roedd hi'n pistillio glawio o'r nodyn cyntaf hyd at yr olaf, ond doedd y tywydd ddim yn mynd i rwystro torf sylweddol rhag dod i fwynhau Cân ar Dân. Roedd y trefnwyr wedi sicrhau fod amrywiaeth o gerddoriaeth ar y llwyfan a gwych oedd gweld fod pobl o bob oedran yn y gynulleidfa.
Trac y noson
'Curry' gan Gwibdaith Hen Fran - gwneud i bawb wenu!
Disgrifiwch y perfformiadau
Batala Bermo:
Band samba gwych a ddechreuodd y diwrnod hefo bang go iawn a dod a naws carnifal i Ddinas Mawddwy.
Pryd Ma' Tê:
Grwp gafodd ei atgyfodi'n arbennig ar gyfer y digwyddiad! Mair Tomos Ifans a thair arall o ferched yn dod a atgofion nol i'r rhai hyn yn ein plith!
Mike Jones:
Set acwstig o ganeuon swynol - llais unigryw iawn. Dipyn o newid ar ol caneuon roc a rôl PMT!
Pala:
Fel aelod o'r band, `fyswn i'n disgrifio ein cerddoriaeth fel pop/gwerin hefo chydig bach mwy o gic! Yr hyn sy'n gwneud ni'n wahanol ydi'r diffyg gitar. Natho ni lwyddo i roi taw ar y glaw yn ystod ein cân olaf!
Gwibdaith Hen Fran:
Dyma fand ddoth a gwen i wyneb pawb, a hyd yn oed y gwlypaf ohono ni'n gorfod siglo nol a mlaen i'r caneuon hapus! Awyrgylch 'laid-back' i'r set oedd yn gweddu i'r dim hefo teimlad pawb!
Vanta:
Roedd set egniol y band prysur yma'n ddigon i ddenu criw i'r blaen i ddawnsio. Roedd fersiwn y band o gan Y Killers, 'Mr Brightside' yn gweithio'n dda hefyd.
Rallion:
Grwp gwerin pedwar aelod o'r Alban. Eto, daeth y band talentog ag amrywiaeth i'r Wyl. Ar ol chwarae'n Nhy Siamas y noson flaenorol, mae'r band yn gadael eu marc ar Ogledd Cymru.
Y Cyffro:
Band o'r 70au a ailffurfiwyd tua'r flwyddyn 2000 sy'n perfformio caneuon gwerieddiol yn ogystal a chlasuron Cymraeg megis caneuon Meic Stevens. Roedd y caneuon roc a rol yn cael criw mawr i ddanwsio ac yn addas ar gyfer yr ystod eang o oedran!
Gola Ola:
Does dim angen cyflwyno'r band yma ac yn sicr, does ond angen sylwi ar eu prysurdeb i ddweud eu bod yn llawn haeddu cloi llwyfan Cân ar Dân. O'r gân gyntaf, roedd pawb wedi llwyr anghofio am y glaw ac yn dawnsio i'w hoff draciau oddi ar yr albwm 'Rhwng Oriau a Munudau'.
Uchafbwynt y noson?
Alex a Rich Gola Ola yn chwarae deuawd dryms!
Y peth gwaethaf am y noson?
Yn ddi-os, y glaw!
Achlysur Roc a Rôl?
Pawb yn anghofio am y glaw, os oedde ni am wlychu, wel dyna ni, ac awe i ddawnsio!
Beth sy'n aros yn y cof?
Pa mor dda y trefnwyd yr Wyl e.e. Pa mor galed y gweithiodd y trefnwyr i sicrhau fod pebyll bach i bawb fochel rhag y glaw! Fyddai sawl gwyl ddim wedi mynd i'r drafferth!
Talent gorau'r noson?
Talent gorau'r gig, ac yn fwy na hynny, talent gorau Cymru ar hyn o bryd yn sicr, ydi aelodau Gola Ola. Dw'i ddim yn siwr os ydi pobl yn sylweddoli llawn faint gallu'r tri yma.
Marciau allan o ddeg?
8/10
Un gair am y gig
Laff!
Gwefannau Defnyddiol:
Gwefan Gwyl Cân ar Dân
Gwefan Gwibdaith Hen Fran
Gwefan Y Cyffro
Gwefan Gola Ola
Gwefan Vanta
Gwefan Batala Bermo
Gwefan Pala
Gwefan Rallion
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.