|  |
 |  |  | Ashokan, Mattoidz Noson Stonc - 24.03.07 Lois Dafydd
Lle a phryd? Clwb Ifor Bach - 24 Mawrth 2007Adolygydd?
Lois Dafydd
Y bandiau?
Mattoidz ac Ashokan
Awyrgylch? Ma Clwb Ifor Bach yn flaenllaw iawn o ran cynnal gigs, ac ro'dd hon yn un arbennig gan mai dyma gig cyntaf Ashokan ers dros flwyddyn. Trueni nag o'dd mwy wedi dod i'w cefnogi nhw, ond ro'dd hi'n amlwg fod y rhai o'dd yn bresennol yn edrych ymlaen at eu perfformiad. Felly'r awyrgylch yn un disgwylgar, ac wrth i'r noson fynd yn ei blaen ro'dd mwy yn cyrraedd a phawb yn amlwg yn mwynhau'r ddau fand.
Trac y noson
'Dim Coes Dim Brêc', Ashokan. Hon oedd y gân gyntaf ac yn gosod y naws ar gyfer gweddill y noson - ma Ashokan nôl!
Disgrifiwch y perfformiadau Ashokan:
Dwi'n cofio tristáu pan benderfynodd Ashokan roi'r gorau iddi llynedd, yn enwedig gan nag o'n i'n gallu mynd i'w gig olaf nhw. Felly ro'n i wrth fy modd pan glywais i am y comeback gig yma! Er eu bod nhw'n edrych yn eithaf nerfus wrth gyrraedd y llwyfan, do'dd dim arwydd o hynny wrth iddyn nhw berfformio, a hynny mor gadarn a nerthol ag erioed. Berfformion nhw gân newydd, felly gobeithio fod hynny'n golygu bod albwm newydd ar y gweill. Erbyn eu cân olaf (y set yn llawer rhy fyr) ro'dd y band a'r gynulleidfa wedi ymlacio'n llwyr, gyda symud gwyllt ar y llwyfan ac ar y llawr dawnsio! Mattoidz:
Mae Mattoidz wedi bod yn dawel yn ddiweddar, ar ôl blwyddyn brysur iawn llynedd. Ond do'dd y tawelwch heb effeithio arnyn nhw o gwbl, gyda'r perfformiad yn un mor egnïol a phroffesiynol ag erioed, ac ro'n i ar bigau'r drain ar ôl clywed suon eu bod nhw'n chwarae caneuon newydd sbon. Fe chwaraeon nhw dair cân newydd, yn gymysgedd o'r araf a'r rocky, ac yn rhoi cyfle i Rhys ddangos ei ddoniau ar y gitâr - gobeithio fod hyn yn golygu albwm newydd i Mattoidz hefyd! Ro'dd y ffans wedi mwynhau'r rhain mas draw, ond do'n nhw ddim yn rhy hoff o'r ffaith i Mattoidz benderfynu peidio â chanu 'Tan y Tro Nesa'. Wedi dweud hynny, ro'dd cloi'r noson gyda 'Sos Coch', sy'n achosi i'r dorf droi'n wyllt yn ddieithriad, yn goron ar noson fendigedig!
Uchafbwynt y noson? Jyst y ffaith bod Ashokan nôl!!
Y peth gwaethaf am y noson? Do'dd set Ashokan ddim yn ddigon hir, o bell ffordd! Felly gethon nhw ddim cyfle i chwarae sawl cân, ac fe wrthododd Mattoidz ganu 'Tan y Tro Nesa'.
Achlysur Roc a Rôl? Slug (drymiwr Ashokan) yn ymuno â Mattoidz ar y llwyfan i roi help llaw gyda'r canu yn 'Cassandra'.
Beth sy'n aros yn y cof?
'Deialu deialu' o'r gân 'Bysedd Guto' gan Ashokan. Yn llythrennol, achos dwi ddim wedi gallu stopio canu'r ddau air ers y gig - ond dyw hynny ddim yn beth drwg!
Talent gorau'r noson?
Hmmm, anodd penderfynu rhwng y ddau. Felly, perfformiad Slug yn 'Cassandra' gan ei fod e'n uno'r ddau fand, yn ogystal â dangos doniau canu Slug!
Marciau allan o ddeg?
9 - colli marc am y caneuon coll!
Un gair am y gig Gwefreiddiol! Gwefannau Defnyddiol: Mattoidz
Ashokan
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
|  |
|