|  |
 |  |  | Jakokoyak, Cate Timothy Aberystwyth, Mai 2004 Gruff Prys
Lle a phryd Clwb Pêl-droed Aberystwyth, Aberystwyth, Mai 14fed.
Y bandiau Sweet Baboo, Cate Timothy, Jakokoyak a Ian Cottrell, Bethan Elfyn a Huw Stephens yn Djio.
Awyrgylch Syfrdanol o feddwl fod y Ffwti yn dwll du di-awyrgylch fel arfer. Mae'n syndod be mae mymryn o Feng Shue gyda' byrddau a chadeiriau'n gallu ei gyflawni. Digon o gynulleidfa, er nad oedd yna lawer o fyfyrwyr Aber yn bresennol (rhy brysur yn smalio adolygu i ddod, debyg).
Trac y noson 'I'm a Loser baby, I come from Llangefni gan Jakokoyak (ac yn ddyledus iawn i Beck). Trac y noson am ei fod yn (rhannol) wir. Pa ran? Dyfalwch chi!
Disgrifiwch y perfformiadau Sweet Baboo: Ei ganeuon direidus o ddrwg yn cyferbynnu gyda'r ddelwedd hogyn-bach-diniwed-mewn-tanc-top. Nid bod unrhywun mewn tanc-top yn ddiniwed. Deuawd o gân Westlife gyda Cate Timothy yn brawf o hynny. Athrylith gwyrdroedig.
Cate Timothy: Treuliodd ormod o amser yn ein gwahanu ni oddi wrth soniarus sain ei llais gan nad ydi hi wedi dysgu tiwnio ei gitâr ei hunan eto. Disgwyl pethau mawr gan hon (unwaith iddi brynu fforc diwnio).
Jakokyak: Set arbrofol un-dyn-â'i-gyfrifiadur; lwyddodd o ddim i blesio pawb, ond roedd athrylith yn ei set. Efallai fod angen presenoldeb y band llawn i ddal diddordeb y gynulleidfa trwy'r darnau hiraf?
Uchafbwynt y noson Gweld pobl yn cael amser da mewn gig yn y Ffwti!
Y peth gwaethaf am y noson Diffyg myfyrwyr.
Achlysur Roc a Rôl Aelodau Ashokan yn darparu bathodynnau metel-trwmaidd yr olwg gyda enw eu band arnyn nhw. Nifer o ddigwyddiadau yn cynnwys staff Radio'r BBC sydd yn rhy erchyll i'w printio.
Beth sy'n aros yn y cof? Ar noson feddw fel hon? Dim llawer. Llunwyd yr adolygiadau yma o dystiolaeth ffotograffaidd a'r nodiadau o'n i wedi sgriblo hyd fy mreichiau.
Talent gorau'r noson Cate Timothy. Mae'n well gen i genod.
Marciau allan o ddeg Wyth.
Un gair am y gig Taaaacsi!
Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion? Hufen Haul Ffactor 15!
Lincs gwefan Newyddion Jakokoyak Label Peski
Mwy o gigs ar safle'r canolbarth
|  |
|