Ctrl-S
Mawrth 2004
Ar ôl dal sylw ffans cerddoriaeth Cymru gyda'i 'hip-hop' melodic ar yr EP Bingo a'r albym Static, mae'r grwp Skep yn ôl gyda CD newydd sbon. Mae'r albym, Ctrl-S, yn gweld Skep yn symud i ffwrdd o'r synau hip-hop trymach tuag at ganeuon fwy ysgafn, 'catchy', sy'n berffaith i ymlacio iddyn nhw.
Prif leisydd y grwp ydy Dai Lloyd, sydd hefyd yn rheoli'r label recordiau Dockrad sy'n rhyddhau'r albym, ac mae'n wir i ddweud bod Dai yn canu llawer mwy ar yr albym yma na wnaeth e o'r blaen. Mae 'na hefyd gyfraniadau gan aelodau bandiau gwych fel The Keys, Rocketgoldstar a Culprit One, y telynor Carwyn Fowler a Bobbi Singh, sy'n un o artistiaid mwyaf blaenllaw y sîn Asiaidd yng Nghymru.
Ond beth oedd barn adolygwyr yr wythnos ddaeth i fewn i stiwdios C2 at Huw Stephens? Gareth Potter, aelod o'r grwp dawns Ty Gwydr, ac Iwan England, colofnydd gyda Big Issue Cymru a Tu Chwith, roddodd Skep o dan y gyllell. Oedden nhw eisiau safio'r albym neu ei daflu i'r bin ail-gylchu?
Gwrandewch ar adolygiad o Skep
Wyt ti'n cytuno neu'n anghytuno gyda Gareth ac Iwan? E-bostia unrhyw sylwadau am Skep - Ctrl-S at c2@bbc.co.uk. Am fanylion llawn gigs lansio'r albym, cliciwch yma.