Sintra
Ebrill 2004
Sioc hyfryd oedd derbyn CD gan fand newydd o'r enw Sintra ychydig wythnosau yn ôl. Ond roedd hi'n fwy o sioc byth i glywed bod y band "newydd" yma wedi ffurfio rhyw ddwy flynedd yn ôl!
Roedd Tom, Paul a Tim yn arfer bod mewn band o'r enw Sleepwalker, oedd yn enwog yn Manceinion, ond nath y prif lesiydd fynd i Bortiwgal at ei gariad a ddoth e byth yn ôl (dy'n ni ddim yn ei feio!). Felly nath y bechgyn wahodd Nia Morgan - nath ganu'r gân 'Llonydd' ar y CD 'Dim Apathy', i fod yn brif leisydd ar y band. Cytunodd Nia - a ganed Sintra.
Er bo Sintra wedi recordio nifer o ganeuon yn annibynnol, dyma'r tro cyntaf i'w caneuon gael eu rhyddhau yn swyddogol. Mae'r EP (sy'n ddi-enw), yn cynnwys y dair cân 'Cysgod', 'Aros am Goelcerth' a 'Man Gwyn fan Draw' ac allan yn y siopau nawr ar label RASP (is-label Fflach).
Daeth Brychan England, o Texas Radio Band ac Alun Owens, y Parchedig Pop, cyn-gyflwynydd ar Radio Cymru, a chyn-aelod o'r grwp Profiad i stiwdios C2 i adolygu'r CD. Ond oedden nhw'n hoffi Sintra, neu a fydde well ganddyn nhw glywed Old Blue Eyes yn canu?
Gwrandewch ar adolygiad o Sintra
Wyt ti'n cytuno neu'n anghytuno gyda Brychan ac Alun? E-bostia unrhyw sylwadau am Sintra at c2@bbc.co.uk.