Cleishie
Chwefror 2004
Cleishie yw pumed albym MC Mabon, aka Gruff Meredith. Yn dilyn llwyddiant a phoblogrwydd ei albyms blaenorol Mr Blaidd, Nia Non, The Hunt For Meaning a Pryna Hwn Rwan..., ma 'na ddisgwyl mawr i'r diweddara blesio yn yr un modd.
Ond 'nath y casgliad diweddara blesio Rhodri Morgan - prif lesiydd Cerrig Melys a Curig Huws - y gwr sy'n rhoi'r Lo Cut yn Lo Cut a Sleifar? Dyna ofynnodd Huw Stephens wrthyn nhw pan ddethon nhw mewn i stiwdios 'moethus' C2.
"Fi di mwynhau albyms eraill MC Mabon - ma rhai o'i dracs e yn glasuron, ond fi'n teimlo bod yr albym yma fel ei ganlyniadau TGAU - bach yn siomedig!" yn ôl Curig.
"Ie - angen bach mwy o oriau adolygu i mewn!" ategodd Rhodri.
Aeth Curig yn ei flaen, "Be sy gen ti yw 10 cân mewn 26 munud - ma na lot o instrumentals - ma'r caneuon yn 2 funud o hyd a ma rhai caneuon fel B4334, wel yr unig lyric ynddi yn "B4334" - yr holl ffordd drwyddo. A ma' Gruff yn wych am sgwennu lyrics, ond ar yr albym yma ma fel bod e 'di sgwennu'r lyrics ar gefn beer mat yn y pub cyn mynd i'r stiwdio."
Roedd Rhodri, ar y llaw arall, yn fwy cadarnhaol, "O ran geiriau - ma na ddiffyg gwaith yma - ond dwi'n meddwl bo 'na uffar o lot o ysbrydoliaeth yma hefyd. Mae'r albym yma yn atgoffa fi o yrfa y Pixies, oherwydd ma 'na glasuron, a wedyn ma 'na gyfnod lle ma nhw di laru, wedyn ar y diwedd ma nhw'n ail-gydio yn y roc a roll."
"Fel y Pixies - ond heb y dynamics," yn ôl Curig.
"Dwi'n anghytuno! Yn 'Ein Lliw Cynta' - fy hoff gân ar yr albym - ma 'na lot o ddynamic yna."
"Ok - ond mewn un gân yn unig!
Cytuno i anghytuno oedd y consensws ar ddiwedd y noson.....
Marciau allan o 10
Rhodri: 12/10 - Mabon yw Beck Cymru - mae'n medru sgwennu pob math o ganeuon
Curig: 2/10 - Nid da lle gellir gwell...
Wyt ti'n cytuno neu'n anghytuno? E-bostia unrhyw sylwadau am MC Mabon - Cleishie at c2@bbc.co.uk