Lizarra
Ionawr 2004
Estella - Lizarra
Ar ôl ennill calonnau cannoedd o ffans mewn gigs anhygoel, recordio clasuron fel 'Saithdegau', 'Tân', 'Dyddiau Yma', pigo fyny Gwobr RAP a rhyddhau 2 CD lwyddianus, mae Estella'n sicr wedi profi eu bod nhw'n un o brif fandiau Cymru. A mae'u poblogrwydd yn siwr o dyfu gyda'u CD newydd, 'Lizarra', sy'n cael ei ryddhau ar label Sain mis yma.
Ar C2 nos Fercher daeth y canwr Brychan Llyr (gynt o Jess ond erbyn hyn yn artist unigol) a'r critic Catrin Dafydd, sy'n golygu'r cylchgrawn Glas ac yn aelod o'r grwp Gilespi, i adolygu'r CD yng nghmwni Huw Stephens. Ymateb cymysglyd gafodd y CD, a dyma beth oedd gan y ddau i'w ddweud....
Catrin: "Mae 'na rhai caneuon hollol beautiful yma, mae'i llais hi (Lauren Bentham) yn cario pethe drwy'r amser achos mae hi mor dalentog - mae'n hyfryd, mae mor hyfryd. Ond weithie dwi'n teimlo bod y caneuon ddim petai nhw'n llifo mewn i'w gilydd, weithie mae 'na rhyw deimlad disjointed i'r albym."
Brychan: "Ddweden i bod e'n CD sydd isie iste lawr a gwrando arno fe a gadel iddo fe dyfu arno chi. Achos ar y gwrandawiad gyntaf dyw'r alawon, i fi, ddim yn anadlu a falle dyn nhw ddim yn rhwydd i gyrraedd atyn nhw. Mae nhw'n safonol, mae lot fowr o syniadau gyda nhw ond dwi hefyd yn teimlo falle bod nhw ddim wedi mynd yn ddigon eang gyda beth bydde nhw di gallu gwneud."
Albym dwyieithog ydy Lizarra gyda 15 o draciau newydd sbon a, fel 'da ni'n disgwyl gyda Estella, mae 'na amrywiaeth eang o ddylanwadau i'w clywed - o pop i jazz, o acwstic i reggae.
Catrin: "Mae offerynwyr talentog ofnadw yma - mae nhw wedi tynnu pobl mewn i'r albym a mae lot fawr o unigolion yn chwarae darnau really cofiadwy. Ond eto i gyd, yn wahanol i Brychan, fi'n credu weithie bod nhw'n mynd yn rhy eang, fi'n credu bod nhw'n trio potsian gyda gormod o genres weithie.... Mae'n anodd dilyn yr albym bron achos bod e mor aml haenog gyda gwahanol steils."
Ond falle bod angen i chi fynd i weld Estella'n fyw i werthfawrogi'n iawn yr hyn mae nhw'n gallu gwneud. Yn ôl Catrin, "mae nhw'n well byth yn fyw achos ti'n cael enaid y peth a fi'n credu mae band byw ar eu gorau yw nhw."
Mae'r CD allan yn y siopau rwan ar label Sain, a mae mwy o fanylion ar wefan y grwp www.estella.org.uk.
Marciau Estella - Lizarra
Brychan: 5/10
Catrin: 6.5/10