BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
BBC CymruMosgito, Pethau personol

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Delio â'r bwli

Delio â'r bwli

Treuliodd Mosgito 10 munud yng nghwmni Aneirin Karadog o'r grŵp Genod Droog i holi am ei brofiadau ef o fwlio.

Barn Aneirin ar fwlio: "Alla i ddim dioddef gweld pobl yn cael eu bwlio. Yr hyn sy'n wir yn aml yw fod gan y bwli broblemau ei hunan a'i fod e'n cymryd hynny allan ar bobl eraill. Dyna pam mae'n rhaid i chi beidio â gadael i fwli eich cael chi i lawr achos dim ond gwneud lan am ei ffaeleddau ef ei hun mae e neu hi drwy fwlian."

Barn Aneirin ar gael dy fwlio: "Ges i fy mwlian achos mod i bach yn wahanol. Yn lwcus i mi, roeddwn i'n teimlo fy mod i'n gallu troi at athrawon. Ond os nad wyt ti am ddweud wrth athro, mae'n bwysig dweud wrth rywun. Yn aml, nes i ti rannu'r peth â phobl eraill, dydyn nhw ddim yn sylweddoli dy fod ti'n cael dy fwlian.

"Roedd y ffaith i fi gael fy mwlian yn dangos fy mod i'n wahanol i'r gweddill. Ond, erbyn i mi gyrraedd y chweched, roeddwn i'n hapus yn fy nghroen fy hun ac roedd y bwli wedi hen adael yr ysgol. Y peth i'w gofio felly ydy hyn. Er bod y cyfnod o gael bwli yn dy hambygio di yn teimlo'n hir, dyw e ddim yn para am byth."

Barn Aneirin ar wahanol fathau o fwlio: "Mae bwlio seicolegol yn boblogaidd yn yr Ysgol Uwchradd. Pobl yn galw enwau arnat ti ac yn tynnu sylw at bethau sy'n wahanol amdanat ti. Mae pawb yn gyfarwydd â'r bwli mewn ffilmiau sy'n gofyn i ti wneud eu gwaith cartref nhw, ond mae'n hawdd delio gyda hynny. Bwlio lle maen nhw'n dweud pethau personol amdanat ti sydd waethaf."

Barn Aneirin am beth i wneud os wyt ti'n cael dy fwlio: "Er ei fod e'n anodd dychmygu hyn nawr, fe fydd y ffaith dy fod ti wedi bod trwy gyfnod anodd yn yr ysgol yn dy wneud di'n gryfach person.

Y peth mwyaf pwysig ydy peidio â dal dim byd i mewn. Rhaid i ti rannu'r peth â phobl eraill. Os na ddwedi di wrth rywun, dim ond dod mas mewn ffyrdd gwaeth fydd e. Un ai trwy drais, neu drwy niweidio dy hunan mewn gwahanol ffyrdd. Ac, o rannu'r profiad, fe fyddi di'n dod i ddeall yn ddigon cyflym fod cymaint o bobl eraill wedi cael yr un profiadau yn union."

Cysylltiadau defnyddiol

Onelife - y ffeithiau i gyd yn blwmp ac yn blaen am bob dim sy'n bwysig i ti.

Slink - ffasiwn a ffeithiau ar gyfer merched (a bechgyn!) yn eu harddegau

Childline Cymru - cymorth a chefnogaeth cyfrinachol ar gyfer plant a phobl ifanc - ar gael yn Saesneg neu Gymraeg.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy