
Alergedd yw pan ma'r corff yn adweithio (react) yn wael i rywbeth ry' ni'n dod i gysylltiad ag e. Ma'r rhywbeth hwnnw'n cael ei alw'n alergen. Fel arfer dyw e ddim yn gwneud drwg i bobol eraill. Y pethau mwya cyffredin sy'n achosi alergedd yw paill (pollen), cnau, anifeiliaid anwes a dwst neu lwch. Bob tro ry' ni'n dod i gysylltiad â'r peth sy'n effeithio arnon ni, ry' ni'n cael yr un adwaith (reaction) bob tro yn fuan wedi hynny.
Ma' gan tua 25% ohonon ni alergedd. I'r rhan fwya ohonon ni dyw'r alergedd yn ddim byd mwy na niwsans. Ma'n rhaid i ni osgoi rhai pethau - dyw e ddim yn ddiwedd y byd.
Ond ma' rhai pobol yn cael symptomau gwael iawn. Ma' nhw'n gorfod bod yn ofalus iawn i osgoi beth bynnag sy'n achosi'r alergedd. Ma' rhai pobol yn gorfod cario moddion gyda nhw i'w ddefnyddio mewn argyfwng.
Pam ry' ni'n cael alergedd? Does neb yn gwybod yn iawn. Ond dy' ni ddim wedi ei ddal e oddi wrth rywun arall a dim ni sydd wedi achosi iddo ddigwydd. Ry' ni'n fwy tebygol o gael alergedd os oes alergedd gan bobol eraill yn ein teulu, neu os oes gyda ni ecsema, clefyd y gwair (hay fever) neu asthma.
Mae e fel petai'n corff ni'n strancio am ddim rheswm
- Llygaid yn cosi ac yn llawn dagrau
- Tisian a'r trwyn yn rhedeg
- Peswch
- 'Chest' yn dynn ac yn gwneud sŵn uchel wrth anadlu allan
- 'Rash' (cochni neu lympiau bach coch fel arfer)
- Chwydu a/neu ddolur rhydd (diarrhoea)
- Os wyt ti'n meddwl bod rhyw fath o alergedd 'da ti, cer i weld y doctor
Sut bydd y doctor yn gwybod bod alergedd 'da fi? Bydd y doctor yn gofyn cwestiynau i ti. Bydd angen iddo wybod cymaint ag sy'n bosib am y ffordd ma'n cyrff ni'n adweithio i'r alergedd ac am ein hiechyd yn gyffredinol.
Wedyn, falle byddwn ni'n cael prawf alergedd. Bydd hynny'n golygu cael prawf gwaed neu brawf croen. Bydd y profion hyn yn dweud beth sy'n achosi'r alergedd. A beth sydd ddim yn achosi'r alergedd. Wedyn bydd y doctor yn gallu rhoi cyngor i ni ar sut i ddelio â'r alergedd.
Dwi'n cael bola tost pan dwi'n bwyta bara gwyn. Oes alergedd 'da fi? Dyw hynny ddim yn debygol. Dwi'n cael cramp jyst wrth feddwl am gorn-bîff - mae e'n beth digon cyffredin i bobol ymateb yn wahanol i wahanol fwydydd. Ond, fel arfer does dim dal ar y symptomau ac ma' nhw'n llai difrifol na symptomau alergedd go iawn. Cer i weld y doctor os nad wyt ti'n siŵr.
Ma' angen i ni wybod os oes alergedd go iawn 'da ni. Yn benna er mwyn i ni fod yn saff. Ond hefyd fel bo' ni ddim yn osgoi pethau heb angen. Ma' llawer o bobol yn stopio bwyta pethau â gwenith (wheat) neu laeth ynddyn nhw (siocled hyd yn oed!) heb fod angen iddyn nhw.
Ma'r dyn 'ma lawr yr hewl yn dweud ei fod e'n gallu dweud pa alergedd sydd 'da fi trwy edrych ar fy nhafod... Paid â'i gredu e. A dal dy afael ar y £50 'na. Ma' llawer o bobol yn dweud bo' nhw'n gallu diagnosio gwahanol fathau o alergedd a'u trin nhw. Ond bach iawn o'r bobol 'ma sy'n gallu profi hynny.
Cysylltiadau defnyddiol
Galw Iechyd Cymru - amrywiaeth eang o wybodaeth iechyd
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.


