BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
BBC CymruMosgito, Perthyn

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Cusanu

Cusanu

Ma' cusanu rhywun am y tro cynta yn gallu'n gwneud ni'n nerfus iawn. Y peth pwysig i gofio yw bod cusanu yn beth naturiol, felly jyst ymlacia a phaid â meddwl gormod amdano.

Mwa! Yn gynta, gwna'n siŵr bo' nhw'n gwybod beth sy'n dod. Ti ddim ishe dechrau cusanu clust rhywun!

Unwaith bo' nhw'n gwybod be sy ar dy feddwl di pwysa tuag atyn nhw a thro dy ben (fel bo'ch trwynau chi ddim yn bwrw yn erbyn ei gilydd). Agora dy wefusau tamed bach wrth eu gwasgu yn erbyn eu gwefusau nhw. Crycha ac ymlacia dy wefusau, heb golli cysylltiad â'u gwefusau nhw, gan symud tamed bach bob hyn â hyn fel nad yw'r holl beth yn mynd yn ddiflas.

  • Roedd y gusan hira mewn hanes wedi para 30 awr, 59 munud a 27 eiliad.
  • Y Guinness Book of Records

Y tro cynta' i ti gusanu, cadwa fe'n fyr - llai na munud.

Paid â bod yn swil - defnyddia dy dafod!

Pan fyddi di wedi dod i arfer â'r ffordd ma' nhw'n cusanu, galli di roi cynnig ar ddefnyddio dy dafod. Falle bydde dy fam yn galw hwn yn French kiss. Ma hi siŵr o fod yn well osgoi cusanu fel hyn ar ôl bwyta garlleg (garlic) i ginio.

Dechreua trwy gusanu yn y ffordd arferol, yna rho dy dafod yng ngheg y person arall gan bwyll bach. Gwthia dy dafod hanner ffordd mewn gan symud yn araf ac yn bwyllog.

alle bydd hyn yn teimlo'n od ar y dechrau, ond mae e'n siŵr o wella ar ôl i ti gael bach o ymarfer.

Cusanu'n hyderus Nawr bod bach o brofiad 'da ti galli di fod tamed bach yn fwy mentrus wrth gusanu. Tro dy dafod o gwmpas eu tafod nhw, a rhed dy dafod yn ysgafn dros eu dannedd, dros dop eu ceg ac ar hyd blaen eu tafod. Dyw crafu bob twll a chornel ddim yn secsi iawn, felly gofala bo' ti ddim yn procio gormod!

Cofia, sdim rhaid i bob sws droi'n snog. Ma' rhoi sws fach ar y boch, y trwyn neu'r talcen hyd yn oed yn gallu bod yr un mor secsi. Ar y llaw arall, os wyt ti'n dechrau gydag ambell i sws fach fe fydd di'n snogio'n hyderus cyn i ti sylweddoli!

Cysylltiadau defnyddiol

Onelife - Y ffeithiau i gyd yn blwmp ac yn blaen am bob dim

Slink - ffasiwn a ffeithiau ar gyfer merched (a bechgyn!) yn

Gwybodaeth gall a chyngor gyfrinachol am ryw

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy