BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
BBC CymruMosgito, Newid byd

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Diogelwch arlein

Syrffio'n saff

Darllena'r erthygl 'ma er mwyn cael mwy o wybodaeth am gadw'n saff arlein. Os wnei di ddilyn ein cyngor ni, galli di syrffio'r we heb boeni!

1.Pan fyddi di'n ymuno â gwefan, bydd rhaid i ti fewngofnodi. Galli di wneud yn siŵr bod neb arall yn defnyddio'r wefan yn dy enw di trwy gadw dy fanylion yn gyfrinachol.

Os oes rhaid i ti roi enw arlein neu ffugenw, paid byth rhoi dy enw iawn. Wrth ddewis cyfrineiriau (passwords) paid defnyddio pethau sy'n rhy amlwg fel dy gyfenw, dy gôd post neu enw dy gath.

2.Galli di bostio gwybodaeth bersonol ar y rhan fwya' o wefannau rhwydweithio cymdeithasol (social networking sites). Meddylia'n ofalus am y wybodaeth rwyt ti'n ei phostio. Paid postio gwybodaeth bersonol fel dy enw llawn, dy ddyddiad geni, dy gyfeiriad, enw dy ysgol, dy rif ffôn gartre/rhif ffôn symudol. Os wyt ti'n postio gwybodaeth fel hyn ar wefan, gall unrhyw un gysylltu â ti neu ddefnyddio dy fanylion personol.

Hefyd, paid rhoi cyfeiriad unrhyw bartïon neu gigs rwyt ti'n eu cynnal neu'n mynd iddyn nhw neu gallet ti gael sioc gweld llond lle o bobol dwyt ti ddim yn eu nabod!

3.Bydd yn ofalus wrth bostio lluniau arlein - meddylia am beth mae'r lluniau yn ei ddweud amdanot ti.

Falle bo' ti'n meddwl bod hi'n ocê i ti bostio lluniau ohonot ti a dy ffrindiau yn eich gwisg ysgol, ond gallai rhywun weithio mas pa ysgol rwyt ti'n mynd iddi. Hefyd, gallai rhywun ddod o hyd i ti os yw'r lluniau'n dangos enw stryd, man amlwg ar bwys dy gartre, neu fan amlwg lle rwyt ti'n cwrdd â ffrindiau.

Meddylia'n ofalus am y math o lun rwyt ti am ei bostio arlein. Gall unrhyw lun sy'n rhy bryfoclyd roi'r argraff anghywir.

4. Paid cadw'n dawel os wyt ti'n cael dy fwlio arlein. Os wyt ti'n sgwrsio â rhywun sy'n gwneud i ti deimlo'n anghyfforddus neu sy'n dy fygwth cer i siarad ag oedolyn (gall fod yn athro neu'n berthynas) a phaid sgwrsio â'r person 'na 'to. Os wyt ti'n teimlo bod rhywun wedi siarad â ti'n gas neu wedi trio hala ofn arnot ti, galli di roi gwbod i'r bobol sy'n rhedeg y wefan. Galli di roi gwbod i'r 'Child Exploitation and Online Protection Centre' hefyd - sef gwefan sy'n cael ei rhedeg gan y llywodraeth.

5. Fel arfer, dyw trefnu cwrdd â ffrindiau rwyt ti wedi'u gwneud arlein ddim yn syniad da, hyd yn oed os wyt ti'n meddwl bo' ti'n eu nabod nhw'n dda.

6. Spam. Bydd rhai gwefannau yn defnyddio dy gyfeiriad e-bost i anfon llawer o jync atot ti. Weithiau, bydd rhai o'r negeseuon hyn yn cynnwys firysau a allai wneud niwed i dy gyfrifiadur. Gwna'n siŵr bo' ti'n dileu negeseuon wrth bobol neu gwmnïau dwyt ti ddim yn eu nabod ar unwaith.

Stopio spam. Wrth gofrestru i gael llythyr newyddion newydd neu ddefnyddio gwefan am y tro cynta, darllena'r print mân - fel arfer galli di stopio'r wefan rhag defnyddio dy fanylion neu eu rhoi i rywun arall.

Cysylltiadau defnyddiol

Childline - cymorth a chefnogaeth cyfrinachol ar gyfer plant a phobl ifanc - ar gael yn Saesneg neu Gymraeg.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy