BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
BBC CymruMosgito, Newid byd

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Creu cynnwys

Digilabs

Sgen ti allu creadigol - ond heb yr offer addas? Well, ma' na le i ti fynd er mwyn rhoi dy sgiliau ar waith a gwneud y gorau o'r holl declau technegol diweddara'.

Beth ydy Digilab? Labordy digidol neu ganolfan tech-wyb yn llawn dop o'r holl offer diweddara' yn rhad ac am ddim i ti ddefnyddio.

Os wyt ti eisiau creu ffilm, recordio cerddoriaeth, dylunio neu ddysgu sut i animeiddio - dyma'r lle i ddod.

Ma' staff profiadol wrth law i dy helpu di ddatblygu dy sgiliau. Neu ma' croeso i ti glatcho bant ar dy liwt dy hun.

Ble mae'r Digilab agosa'? Mae 'na 112 Digilab ar hyd a lled Cymru. Maent wedi eu lleoli mewn mannau cyfleus fel canolfannau ieuenctid neu golegau cymunedol.

Clicia yma i syrffio gwefan CREDU a chwilio am dy digilab agosa'.

Oes unrhywun yn cael defnyddio Digilab? Mae'r prosiect yn targedu pobl rhwng 16-25, ond ma' croeso cynnes iawn i bawb - yn enwedig ffans Mosgito!

Ma' Mosgito a Digilabs wedi dod at ei gilydd i wneud yn siŵr bod unrhyw un sydd am gyfrannu cynnwys at Mosgito yn medru gwneud hynny trwy ddefnyddio Digilab.

Cyfan sydd angen i ti neud ydy llenwi ffurflen gofrestru - a bant â ti!

Pa offer sydd ar gael? Ma' 'na bob math o bethau bendigedig ar gael i ti e.e cyfrifiaduron â chysylltiad cyflym â'r rhyngrwyd, camerâu digidol, camerâu fideo, argraffwyr a sganwyr lliw, cyfrifiaduron llaw a chliniaduron symudol (laptops) yn ogystal â'r meddalwed diweddara'.

Does dim esgus felly! Bydd yn greadigol ac anfon dy gynnwys at Mosgito - nawr!

Cysylltiadau defnyddiol

CREDU

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy