
Beth yw alcohol? Mae'r alcohol rydyn ni'n ei yfed yn cael ei wneud trwy ffermentio neu stilio ffrwythau, llysiau a grawn. Dyna pam ei fod e'n blasu mor wahanol. Mae alcohol pur neu 'ethyl alcohol' yn glir fel dŵr.
O'r holl gyffuriau mae pobol yn eu defnyddio heddi i newid eu hwyliau a'u tymer, alcohol yw un o'r rhai cryfa sydd ar gael.
Sut mae alcohol yn gwneud i ti deimlo? Mae alcohol yn gwneud i ti ymlacio, ac mae'n gwneud i ti deimlo'n hapus ac yn hyderus hefyd.
Dyw yfed gormod ddim yn brofiad pleserus. Ma'r stafell yn troi, ti'n teimlo'n sâl, ti'n methu siarad yn glir, a ti'n methu cofio pethau. Mae rhai pobol yn mynd yn gecrus ac yn gas ar ôl yfed.
Y diwrnod ar ôl sesiwn yfed fawr, mae'n debyg y bydd 'da ti ben tost neu 'hangover'. Falle byddi di'n teimlo'n sâl, yn sychedig, yn flinedig ac ychydig yn isel.
- Mae dros 5% o bobol ifanc rhwng 14 a 15 oed ac ychydig llai na 10% o bobol ifanc rhwng 15 ac 16 oed yn Lloegr yn yfed mwy na'r lefel o alcohol sy'n ddiogel i oedolion. (Sefydliad Astudiaethau Alcohol, 2002)
Mae 1 uned yr un peth â hanner peint o gwrw gwan, ac mae 2 uned yr un peth â photel o alcopop.
Os byddi di'n yfed alcohol, mae'n fwy tebygol y byddi di'n cael damwain o ryw fath neu'n gwneud rhywbeth y byddi di'n ei ddifaru y diwrnod wedyn. Arhosa gyda ffrindiau fydd yn cadw llygad arnot ti.
Alcohol yw'r cyffur mwya cyffredin sy'n cael ei ddefnyddio mewn achosion o 'date rape'. Paid meddwi gyda rhywun dwyt ti ddim yn ei nabod yn dda. Mae rhai pobol yn mynd yn gaeth (addicted) i alcohol. Os wyt ti'n yfed yn aml, bydd yr alcohol yn cael llai o effaith arnot ti, ac felly bydd angen i ti yfed mwy a mwy i feddwi.
Mae yfed llawer o alcohol dros gyfnod hir yn gallu gwneud niwed i'r galon a'r afu (liver), heb sôn am yr effaith mae'n ei chael ar dy ben.
Y gyfraith Mae alcohol yn gyffur cyfreithlon (legal), ond does dim hawl 'da pobol dan 18 oed i'w brynu.
Cysylltiadau defnyddiol
Gacu - cyngor a gwybodaeth am oryfed achlysurol cyflym mewn un noson
Frank - gwybodaeth diflewyn ar dafod am gyffuriau o bob math
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.


