
1. Dawnsio yn y glaw. 2. Lliwio dy wallt. 3. Mynd i barti ond dweud wrth dy rieni dy fod ti'n mynd i wneud gwaith cartref. 4. Gwneud gwaith cartref! 5. Aros yn effro drwy'r nos a gweld y wawr yn torri. 6. Coginio pryd o fwyd bwytadwy i dy deulu. 7. Gwneud gwaith gwirfoddol. 8. Dysgu iaith dramor. 9. Teithio i un wlad dramor o leiaf. 10. Cwympo mewn cariad. 11. Dysgu holl eiriau dy hoff gân yn y byd. 12. Cyfarfod â rhywun mwy enwog na Denzil o Bobl y Cwm. 13. Gwenu ar y postmon. 14. Rhoi carden Nadolig i'r hen fenyw drws nesaf. 15. Cael swydd ran-amser dros yr haf. 16. Ailgylchu. 17. Cydnabod wrth bawb fod gen ti dedi bêr oddi ar i ti fod yn blentyn. 18. Deall fod mam a dad yn bobl o gig a gwaed a'u bod nhw wedi bod dy oed di unwaith! 19. Derbyn dy fod ti'n gallu bod yn anghywir mewn dadl. 20. Dysgu o gamgymeriad. 21. Anfon neges destun at rywun ar ddamwain. 22. Teithio ar y Traws Cambria. 23. Aros yn Llangrannog a Glan-llyn. 24. Prynu blodau i Mam am ddim rheswm. 25. Dweud rhywbeth caredig wrth dy frawd neu chwaer. 26. Canu yn y gawod. 27. Smwddio. 28. Gwrthod dilyn y dorf. 29. Ffeindio 'party trick' effeithiol. 30. Rhechu mewn gwasanaeth ysgol ar ddamwain.
Cysylltiadau defnyddiol
Clic - syniadau am beth i wneud yn dy amser hamdden
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.


