BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
BBC CymruMosgito, Joio

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Rhys - dyn y drymiau

Cadw rhythm gyda Rhys

Dechreuais chwarae'r drymiau yn yr ysgol tua chwe blynedd yn ôl. Rwy' hefyd yn chwarae ychydig o gitâr ac allweddellau (keyboard).

Mae'r amser rwy'n ymarfer yn amrywio o 10 munud i sawl awr ar y tro.

Rwy'n ymarfer yn fy 'stafell wely. Weithiau, mae'r sŵn yn mynd ar nerfau gweddill y teulu - a'n cymdogion hefyd! Ond maen nhw'n gwybod mai dyma beth dwi eisiau ei wneud yn y dyfodol, felly rwy'n cael pob cefnogaeth.

Mae angen dipyn o arian i gael cit. Mae cit dechreuwyr fel arfer yn costio o gwmpas £200 i £300. Ond wrth symud i fyny mae'r gost yn medru codi i'r miloedd.

Fy uchelgais ydy chwarae mewn band llwyddiannus

Dyfal donc Mae'n llawer o hwyl chwarae'r drymiau - dim ots pa lefel ydych chi. Mae'n bwysig ymarfer yn gyson a dal i drio dim ots pa mor anodd a rhwystredig mae'n medru bod. Dwi bob amser yn awyddus i ddysgu pethau newydd.

Y sgil pennaf sydd ei angen ar ddrymiwr yw bod gennych chi 'gyd-drefniant' (co-ordination) da, fel eich bod chi'n medru dod i arfer gwneud pethau gwahanol gyda'ch traed a'ch dwylo ar yr un pryd.

Rwy'n hoffi llawer o fathau o fiwsig - roc, metel, pync, emo - a llawer mwy.

Rhai o fy hoff fandiau yw Iron Maiden, Led Zeppelin, Metallica, Biffy Clyro, InMe, Bring Me the Horizon, Foo Fighters, Johnny Truant, Nirvana, Still Remains, Enter Shikari a Dragonforce i enwi rhai.

Fy uchelgais ydy chwarae mewn band llwyddiannus.

Dyma'r cit sydd ei angen i gychwyn chwarae'r drymiau:

Drym bas (bass drum) - sŵn isel a dwfn. Mae wedi'i leoli ar y llawr felly mae'n rhaid defnyddio'r droed i'w chwarae. Tom bach, tom canolig, tom llawr (small tom, middle tom, floor tom) - yn debyg iawn i'r drym bas ond yn llai. Mae'r rhain yn cael eu chwarae gyda'r ffyn drymio. Mae pob un yn rhoi traw gwahanol, y small tom yn rhoi traw uwch a'r floor tom yn rhoi traw isel. Drym snare (snare drum) - mae hwn yn rhoi sŵn mwy caled. Hi hat - yn gyfuniad o ddau beth - tebyg i symbalau sy'n rhoi'r dewis o fod ar agor neu ar gau, y ddau'n rhoi sŵn gwahanol. I gau ac agor yr hi hat mae'n rhaid defnyddio'r droed. Mae'n cael ei chwarae wrth ddefnyddio'r ffyn. Symbal crash (crash cymbal) - mae'r symbal yma'n rhoi sŵn uchel er mwyn rhoi acen ar y chwarae. Symbal ride (ride cymbal) - mae'r symbal yma'n rhoi sŵn sydd yn debyg i gloch. Mae fel arfer yn cael ei ddefnyddio mewn cerddoriaeth fel jazz.

Cysylltiadau defnyddiol

C2 - newyddion am gerddoriaeth Cymru

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy