BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
BBC CymruMosgito, Joio

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Creu band

Dwi ishe bod mewn band roc a rôl!

Mae llawer iawn o bobl ifanc eisiau bod mewn band. Ond un peth yw breuddwydio a chanu gyda dy frwsh gwallt yn y 'stafell wely, peth arall yw mynd ati o ddifri'. Mosgito sy'n dangos i ti a dy fand sut mae gwneud - a sut mae peidio â gwneud!

Gwnewch Cofiwch fod angen digon o ymarfer ar fand. Wnaeth 'Mr Huw' na 'My Chemical Romance' ddim codi un bore a mynd ar lwyfan. Mae llawer iawn o waith paratoi yn cael ei wneud y tu ôl i'r llenni.

Peidiwch â gwneud Peidiwch â phenderfynu bod eich band yn wych ar ôl un ymarfer a gwneud cais am ffurflen Brwydr y Bandiau C2 a Radio Cymru.

Barn Dafydd sy'n chwarae ac yn cyfansoddi i'r band CODA:Peidiwch â bod ofn os ydych chi'n fand dibrofiad. Mae ymarfer a chwarae gigs yn eich gwella chi. Mae'n wastad yn help os ydych chi'n ffrindiau cyn dechrau, gan y bydd llai o densiwn yn y band a byddwch chi'n fwy gonest gyda'ch gilydd. Yn olaf, peidiwch â becso dim am bobl sy'n dweud eich bod chi'n rybish. Chi sydd wedi penderfynu perfformio o flaen pobl, felly mae angen i chi fod yn barod i'w gymryd e. Bydd rhai yn eich hoffi chi, ac eraill ddim. Allwch chi byth plesio pawb.

Gwnewch Gwnewch yn siŵr fod gyda chi gwpwl o ganeuon a geiriau da wrth gefn yn barod i'w hymarfer. Er bod jams yn bwysig iawn, mae'n bwysig fod gyda chi ryw syniad am gân cyn mynd ati neu fe fyddwch chi yno am oriau yn troi mewn cylchoedd.

Peidiwch â gwneud Peidiwch â phenderfynu mai'r peth callaf i'w wneud yw copïo caneuon bandiau eraill. Does dim byd llai gwreiddiol a diflas na gwrando ar fand sy'n trio swnio fel rhywun arall, neu'n waeth byth, yn llofruddio cân rhywun arall.

Gwnewch Byddwch yn barod am feirniadaeth. Dydy pawb yn y byd ddim yn mynd i'ch hoffi chi. Er hyn, mae'n bwysig eich bod chi'n gallu anwybyddu beirniadaeth hefyd, a magu croen eliffant. Mae hyder fel band yn hollbwysig.

Peidiwch â gwneud Peidiwch â chymryd beirniadaeth yn rhy galed a newid steil y band yn gyfan gwbl. Mae'n bwysig cymryd sylw o feirniadaeth deg ond mae rhai pobl yn mynd i'ch casáu chi am eich bod chi mewn band a'u bod nhw'n genfigennus. Ar y llaw arall, peidiwch â gadael i eiriau caredig chwyddo eich pennau chi chwaith. Does dim byd yn waeth nag aelod o fand sy'n meddwl mai fe neu hi yw Duw.

Cysylltiadau defnyddiol

C2 - newyddion am gerddoriaeth Cymru

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy