BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
BBC CymruMosgito, Joio

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Celf Connie

Crefft Connie

Ers o'n i'n blentyn, ma' dad wedi casglu fy holl luniau. Y cyntaf oedd llun bach 'match stick men' ohonof i, mam, dad a'r gath.

Enillais y fedal gelf rhwng 12-17 yn Eisteddfod yr Urdd 2006. Roedd rhaid creu gwaith ar rywbeth oedd gennych farn arno. Gan fy mod yn erbyn erthyliad, dyna be oedd fy newis. Mae o'n help i godi fy mhroffil, ond dydw i ddim eisiau cael fy nghysylltu gyda'r darn yna o waith am weddill fy oes!

Fy hoff waith i hyd yn hyn ydy fy nghymeriad swreal. Creais wisg ddu, gwyn a choch ac es i gerdded i'r parc a thu allan i Tesco, Abergele. Roedd o'n wych cael gweld ymateb bobl.

Dewis ydy mynd i ymweld ag oriel, ond os ydy celf yn cael ei arddangos yn yr awyr agored does gan neb ddewis.

Mae gen i ddychymyg eithaf hurt.

YsbrydoliFy arwr ydy'r arlunydd Bedwyr Williams. Does neb arall yn agos. Mae o wedi profi imi fod bob dim yn bosib, ac rwyf yn gobeithio dilyn ei lwybr, gan fod o hefyd yn gyn-ddisgybl Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn. Fy arwres yw fy athrawes celf, Mrs. Anwen Williams gan ei bod hi yn fodlon dweud ei gwir barn wrtha i, wedi delio gyda fy nhantryms ac wedi fy annog ymlaen.

Y byd ydy fy ysbrydoliaeth - dyna lle mae pob dim yn digwydd. Fel arfer, rwyf yn gweld rhyw gymeriad ar fws neu ar drên ac mae hynny yn arwain at feddwl am hanes a chefndir iddyn nhw. Mae gen i ddychymyg eithaf hurt.

Gwyliwch allan amdana i! Fy nharged mwyaf mewn bywyd ydy cael arddangosfa fy hun a chael y cyfle i egluro fy ngwaith i bobl. Rwyf eisiau mynd allan i gyfarfod pobl wahanol a gwrando ar eu barn. A gwerthu llyfr celf hefyd.

Cysylltiadau defnyddiol

Clic - syniadau am beth i wneud yn dy amser hamdden

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy