
Hunan-ddelwedd ydy'r ffordd rŷn ni'n gweld ein hunain
Ni gyd yn becso bach am sut rŷn ni'n edrych. A byddai'r rhan fwya ohonon ni'n hoffi newid rhyw ran o'n corff. Sneb yn edrych yn y drych ac yn meddwl: O ie. Fi'n berffaith!
Ond ma' gan lawer ohonon ni ddelwedd negyddol iawn o'n hunain. Ni'n beirniadu'n hunain a phobol eraill yn ôl sut ma' nhw'n edrych. Ni'n hala llawer o amser yn meddwl am sut rŷn ni'n edrych.
- Pam ma' hyn yn digwydd? Dyw e ddim jyst i wneud â ffansïo dy hun. Mae e i wneud â theimlo'n ansicr ac yn dda i ddim. A dyw lluniau o selebs perffaith ym mhob magasîn ddim yn helpu.
- Ma' 36% o fenywod yn ystyried cael llawfeddygaeth blastig (plastic surgery) achos bo' nhw'n anhapus â sut ma' nhw'n edrych.
- *Dywedodd 90% o fenywod bod y ffordd ma' nhw'n edrych yn gwneud iddyn nhw deimlo'n isel a bo' nhw'n meddwl am y peth bob dydd.(*Awst 2001 -arolwg Top Santé/Telegraph)
- Dywedodd 50% o ferched ysgol bo' nhw ar ddeiet.
Ma' selebs ym mhobman. Jyst pan rôt ti'n meddwl bod hi'n ddiogel i ti agor y papur - dyna un arall. Yn wên o glust i glust, gyda chorff perffaith, croen perffaith a dannedd perffaith. Ma' astudiaethau wedi dangos bo' ni'n teimlo'n llai bodlon â'n cyrff ar ôl i ni weld hysbysebion teledu sy'n dangos pobol denau a phrydferth.
Ma'r un peth yn wir am ddarllen magasîns ffasiwn. Ma' arbrofion wedi dangos bod ffotograffau o fodels tenau iawn mewn magasîns yn gwneud i ni deimlo'n isel, yn stressed, yn euog, yn ansicr ac yn anfodlon â'n corff.
Ond pam bo' ni'n prynu'r hen fagasîns ma' te!? Pam bo' ni'n gwneud hyn i'n hunain? Allwn ni ddim gweld bod y lluniau hyn wedi cael eu gwella gan gyfrifiadur? Bod y lliw haul, yr ewinedd, y dannedd, y gwallt, y bŵbs yn ffug? A'r ffaith bod 'da nhw hyfforddwr ffitrwydd a chynllunydd ffasiwn llawn amser yn gweithio iddyn nhw. Ma' nhw fel doliau bach plastig.
Dim ond tua 1% ohonon ni sy'n gallu bod mor denau â seleb siwper slim ta beth. Ar gyfartaledd ma' menywod Prydain yn gwisgo dillad maint 14/16. Meddylia am hynna, a phasia Kit Kat arall i fi.
Mae'n bryd i ni stopio codi'n trwyn wrth edrych ar ein hunain yn y drych, a theimlo'n ych jyst achos bod dim six pack 'da ni.
Ni gyd yn grêt yn ein ffordd ein hunain. Sdim rhaid edrych fel Catherine Jenkins neu Ioan Gruffydd. Cysylltiadau defnyddiol
Onelife - y ffeithiau I gyd yn blwmp ac yn blaen am bob dim sy'n bwysig i ti.
Slink - ffasiwn a ffeithiau ar gyfer merched (a bechgyn!) yn eu harddegauNid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.


