In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Gyda'r 'gadair ddu' enwog yn un o sêr y sioe, mae Mastermind yn un o raglenni cwis mwyaf adnabyddus teledu ym Mhrydain ac ar ôl 35 mlynedd mae wedi profi i fod yn un o'r rhai mwyaf hirhoedlog hefyd.
Mastermind Cymru a Mastermind Plant Cymru
Dechreuodd Mastermind Cymru yn 2006 gyda'r newyddiadurwraig Betsan Powys yn holi'r cwestiynau.
Yr enillydd cyntaf oedd heddwas o Langefni, Ynys Môn, Emyr Rhys Jones, a ddaeth i'r brig gyda'r pwnc arbenigol, Hanes yr Eurovision Song Contest o 1956-1990.

Dywedodd ei fod wedi mwynhau'r profiad o gystadlu ac ennill bri ac anrhydedd y teitl: "Ro'n i'n nerfus wrth gwrs wrth eistedd yn y gadair ond mae Betsan yn arbennig o dda am eich gwneud chi'n gartrefol ac yn gyfforddus. Dyw e ddim mor frawychus ag y mae'n edrych.
"Mae'n llawer o hwyl ac mae ennill y teitl yn brofiad arbennig iawn."
Ei gyngor i unrhyw yn sy'n eistedd yn y gadair am y tro cyntaf ydy canolbwyntio: "Anghofiwch am bawb o'ch cwmpas a chanolbwyntiwch ar y cwestiynau. Peidiwch â chael panic os na fedrwch chi ateb cwestiwn. Dwedwch 'nesaf' yn syth ac ewch ymlaen drwy'r cwestiynau."
Ers hynny, mae pedair cyfres wedi bod: Sion Aled Owen o Wrecsam oedd enillydd 2007 a Gary Slaymaker (2006), Branwen Gwyn (2007) a Dafydd Du (2008) gurodd y selebs eraill yn y ddwy raglen Nadolig arbennig ar gyfer enwogion.
Cyfres 2008 o Mastermind Plant Cymru oedd y gyntaf yn y Gymraeg ar gyfer plant, gyda Seren o Gastell Nedd yn ennill y gyfres gyntaf. Yr un yw'r drefn ag ar gyfer oedolion - mae pedwar cystadleuydd ym mhob rownd ac mae enillydd pob rownd yn mynd ymlaen i'r ornest derfynol er mwyn cystadlu am dlws Mastermind Plant Cymru.
Darlledir y gyfres nesaf o Mastermind Plant Cymru fis Medi 2009. Ewch i'n tudalen cystadleuwyr i ddilyn hynt y plant o bob cwr o Gymru sy'n cystadlu a dysgu mwy am eu pynciau arbenigol.
Hanes Mastermind
Syniad cynhyrchydd teledu o'r enw Bill Wright - cyn filwr gyda'r Llu Awyr - oedd Mastermind yn wreiddiol. Defnyddiodd ei brofiad fel carcharor rhyfel yn yr Almaen o orfod ateb tri chwestiwn - enw, rheng a rhif - fel sail i'r rhaglen gyda chystadleuwyr yn gorfod rhoi eu henw, gwaith a'u pwnc arbenigol ar ddechrau eu rownd.
Recordiwyd y rhaglen gyntaf erioed o Mastermind yn Saesneg ym Mhrifysgol Lerpwl a chafodd ei darlledu ar BBC1 yn 1972. Y cyflwynydd a'r holwr oedd y newyddiadurwr Magnuss Magnusson - Albanwr oedd â'i deulu'n wreiddiol o Wlad yr Iâ.
Wedi 57,000 o gwestiynau, gadawodd Mastermind y BBC yn 1997 ond dychwelodd unwaith eto gyda John Humphrys wrth y llyw yn 2003.
Dydy patrwm syml y rhaglen ddim wedi newid ers 1972: mae'r cystadleuwyr yn cael eu galw i eistedd yn y 'gadair ddu' enwog i gystadlu yn erbyn ei gilydd drwy ateb dwy rownd o gwestiynau - un am eu pwnc arbenigol ac un am eu gwybodaeth gyffredinol. Mae pob rownd yn ddau funud o hyd.
Yn wahanol i nifer fawr o gwisiau modern does dim gwobr ariannol yn Mastermind. Yn hytrach, mae'r ddrama yn cael ei chreu gyda'r goleuo dramatig yn y stiwdio ac awyrgylch ddifrifol y rowndiau holi ac ateb. Meddai'r cyflwynydd Betsan Powys: "Mae'n chwa o awyr iach yn fy marn i fod ennill teitl Mastermind Cymru yn ddigon o anrhydedd ynddo ei hun."
Y Cyflwynydd

Betsan Powys
Gwleidyddiaeth yw pwnc arbenigol Betsan Powys tu allan i stiwdio Mastermind.




