
Betsan Powys
03 Medi 2009
Y newyddiadurwraig Betsan Powys a ddewiswyd i ddilyn yn ôl troed John Humphrys a Magnus Magnusson fel cyflwynydd Mastermind Cymru pan lansiwyd y gyfres am y tro cyntaf yn y Gymraeg yn 2006.
"Mae'r ymateb dwi wedi ei gael gan y gwylwyr wedi bod yn anhygoel. Mae'n gyfres sy'n dal y dychymyg ac mae Mastermind Cymru yn dilyn traddodiad sydd wedi hen ennill ei blwyf gan osod stamp a safon arbennig," meddai.
"Mae wedi bod yn wych i allu cyfarfod cymaint o gystadleuwyr deallus a gwybodus o bob cwr o Gymru ac o wahanol alwedigaethau a chefndiroedd.
"Rwyf wedi dysgu llawer wrth holi'r cwestiynau - ond yr unig drafferth yw fy mod yn tueddu i anghofio'r ffeithiau yn fuan wedyn. Dyna pam mai y fi yw'r un sy'n holi ac nid yr un sy'n eistedd yn y gadair ddu enwog!"
"Cystadlwch - dyna fy nghyngor i bawb," meddai. "A does dim rhaid i'r pwnc dewisol fod yn bwnc llyfrau trymion - gall fod yn bwnc ysgafn dim ond bod digon o swmp ynddo a'ch bod chi'n gwybod eich stwff," ychwanegodd.
Dros y byd
Gyda'i phrofiad helaeth o ohebu yn Gymraeg a Saesneg ar bob math o bynciau llosg ac ar draws y byd, fyddai Betsan ei hun ddim yn brin o bynciau arbenigol i ddewis ohonynt.
Dychwelodd i weithio i BBC Cymru yn 2005 er mwyn gallu magu ei phlant drwy gyfrwng y Gymraeg wedi cyfnod yn byw yn Llundain yn gohebu i raglen Panorama.
Ymunodd ag adran newyddion y BBC dan hyfforddiant yn 1989 cyn dechrau gweithio fel gohebydd. Ers hynny mae wedi gohebu o dros 20 o wledydd i'r BBC.
Blogio
Mae wedi ennill gwobrau Darlledwr Cymreig y Flwyddyn a Newyddiadurwr Cymreig y Flwyddyn BT.
Mae hi bellach yn olygydd gwleidyddol BBC Cymru ac wedi ymgartrefu yn ei thref enedigol, Caerdydd, gyda'i phartner, Dylan, a'u dau blentyn bach. Mae'n blogio'n gyson am hynt a helynt gwleidyddiaeth Bae Caerdydd ar wefan y BBC.
Meddai am ei rôl fel cyflwynydd Mastermind Cymru: "Dwi'n siŵr fod merch yn cyflwyno yn gwneud gwahaniaeth i naws y rhaglen".
"Dwi'n bownd o fod fymryn yn wahanol i gyflwynwyr fel Magnus Magnusson a John Humphrys. Ond dydy dyletswydd y cyflwynydd byth yn newid - sef, canolbwyntio ar y cystadleuwyr a'u helpu nhw i wneud eu gorau. Gobeithio, gyda merch yn cyflwyno, y gwnawn ni annog mwy o ferched i eistedd yn y gadair," meddai.



