|  |
  | 
Mastermind Cymru - Rhaglen 4 Cystadleuwyr Rhaglen 4: Lona Jones
David Thomas
Huw Thomas
Gareth Wyn Jones - yr enillydd.
Dewch i'w hadnabod . . . .
Lona Jones:
Pwnc arbenigol:
Llenyddiaeth Gymraeg yn y ddeunawfed Ganrif.
Mae Lorna wedi ymddiddori mewn Llenyddiaeth Gymraeg erioed - yn enwedig ers dyddiau coleg. Gwell ganddi y beirdd anghyfarwydd a llai amlwg fel Dafydd Manuel a Siôn Rhydderch sy'n gymeriadau gwyllt a lliwgar, meddai! Mae'n hoff iawn o'r cyfnod am iddo bontio'r canol oesoedd â'r cyfoes.
Geni a magu:
Machynlleth.
Addysg a gyrfa:
Addysg Uwchradd ym Machynlleth.
Prifysgol Aberystwyth - astudio'r Gymraeg.
Dilyn cwrs ôl radd mewn Llyfrgellyddiaeth.
Gweithio gyda thîm ymholiadau y Llyfrgell Genedlaethol.
Hefyd yn ddarllenydd lleyg gyda'r Eglwys yng Nghymru, yn arwain gwasanaethau ar y Sul ac yn ystyried hynny fel ail swydd.
Teulu:
Yn briod â Meirion - wedi rhannol ymddeol.
Diddordebau:
Garddio.
Darllen - pob math o bethau.
'Scuba diving' tra ar ei gwyliau yn Nhwrci - er bod ofn dŵr arni!
Wyddech chi hyn am bwnc arbenigol Lona?
Llenyddiaeth y ddeunawfed ganrif oedd dechrau'r cyfnod modern yng Nghymru gyda dechreuadau'r oes ddiwydiannol.
Dechreuodd pobl ymddiddori o'r newydd yn hanes y wlad a phethau Celtaidd yn gyffredinol.
Dyma adeg sefydlu Gorsedd y Beirdd gan Iolo Morganwg yn 1792 mewn seremoni ar Primrose Hill yn Llundain.
Sefydlu Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion gan y Morysiaid o Fôn (Lewis a Richard Morris) yn Llundain yn 1751.
Beirdd amlycaf y cyfnod oedd Ellis Wynne, Ieuan Brydydd Hir, Goronwy Owen, William Morris, Iolo Morganwg a'r emynwyr Ann Griffiths a William Williams Pantycelyn.
David Thomas:
Pwnc arbenigol: Blynyddoedd Prif Weinidogaeth Harold Wilson 1964-76.
Roedd David yn blentyn yn ystod blynyddoedd prif weinidogaeth Harold Wilson, felly roedd yn ffigwr amlwg yn ei fywyd cynnar. Mae'n hoff o ddarllen bywgraffiadau gwleidyddol yn gyffredinol, ac mae'n edmygu'r ffordd y cadwodd Harold Wilson y wlad gyda'i gilydd mewn cyfnod anodd. Ar wahân i hynny, does dim rheswm syfrdanol dros ddewis Harold Wilson fel pwnc arbenigol - 'dyw e ddim yn arwr ei fywyd!
Geni a magu:
Cas-gwent.
Addysg a gyrfa:
Addysg Uwchradd yn Nhrefynwy.
Prifysgol Aberystwyth - Bioleg.
Athro Bioleg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydfelen.
Athro Bioleg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Dyffryn Teifi.
Teulu:
Yn briod â Siân sy'n gynghorydd gyda'r awdurdod lleol.
Dim plant.
Diddordebau:
Cadw'n heini.
Wedi rhedeg Marathon Llundain ddwywaith - '97 a '99 at achosion da (ymchwil arennau a canser).
Cerdded mynyddoedd - wedi bod cyn belled â Slovenia i gerdded mynyddoedd.
Cadeirydd pwyllgor y papur bro lleol, Papur y Cwm.
Wyddech chi hyn am bwnc arbenigol David?
James Harold Wilson oedd ei enw llawn.
Fe'i dyrchafwyd yn Farwn Wilson o Rievaulx.
Ganed yn Huddersfield ar Fawrth 11, 1916.
Addysgwyd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.
Yn cael ei gyfrif fel un o wleidyddion amlycaf a mwyaf galluog yr ugeinfed ganrif.
Enillodd fwy o etholiadau cyffredinol nag unrhyw brif weinidog arall yn ystod yr 20fed ganrif.
Yn 1963 cafodd ei gyhuddo o fod yn aelod o'r KGB.
Ymddiswyddodd yn hollol annisgwyl yn 1976 - ond deallir bellach fod ganddo arwyddion cynnar Alzheimers.
Bu farw'n 79 oed yn 1995.
Huw Thomas:
Pwnc arbenigol: Cyfresi Teledu Alan Partridge.
Pan welodd y rhaglen gyntaf, doedd hiwmor Alan Partridge ddim yn apelio at Huw ond tyfodd apêl yr hiwmor a'r arddull arno'n raddol. Bellach mae'n ffan enfawr. Geni a magu:
Mae tad Huw yn offeiriad gyda'r Eglwys yng Nghymru, felly symudodd o gwmpas gryn dipyn yn ystod ei flynyddoedd cynnar gan fyw yng Nghaerdydd, Porthmadog, Llanegryn a Chaernarfon.
Addysg a gyrfa:
Ysgol Syr Huw Owen, Caernarfon.
Prifysgol Warwick - Cyfraith Ewrop.
Gweithio gyda'r Post Brenhinol yn Rhydychen ar ôl graddio.
Gweithio gyda Blackwell's (siop lyfrau a chwmni cyhoeddi) yn Rhydychen.
Gweithio i gwmni Menter a Busnes yn Aberystwyth.
Sefydlu ei gwmni ei hun, Sglein o fewn maes menter a busnes, hyfforddiant busnes, hyrwyddo'r Gymraeg yn y gweithle.
Teulu:
Un chwaer hŷn - Nia.
Diddordebau:
Darllen - amrywiaeth o bethau.
Teithio pan yn cael cyfle.
Gwylio Rygbi ond nid yw'n chwarae.
Wyddech chi hyn am bwnc arbenigol Huw?
Alan Partridge - cymeriad yn cael ei bortreadu gan Steve Coogan.
Mae'r cymeriad yn gyflwynydd radio a theledu - wedi cyflwyno dwy gyfres radio a thair cyfres deledu yn ystod ei "yrfa" ddychmygol.
Ganwyd yn Norwich yn 1955.
Ei fwlio yn yr ysgol gan Stephen McCoombe oedd yn ei alw'n "Smelly Alan Fartridge"!
Ymddangosodd am y tro cyntaf yn 1991 ar raglen BBC Radio 4 On the Hour.Gareth Wyn Jones Yr enillydd:
Pwnc arbenigol: Efeilliaid y Krays
Bu Gareth gyda'r Heddlu cyn mynd yn nyrs seiciatryddol felly mae ganddo ddiddordeb 'proffesiynol' yn hanes yr efeilliaid - eu bywydau ym myd trosedd a thrais; hefyd y meddylfryd seicolegol y tu ôl i'r hyn a wnaethant.
Er bod eu hanes wedi ei ramanteiddio braidd, dywed Gareth eu bod yn droseddwyr o'r radd flaenaf ac yn gymeriadau creulon iawn yn y bôn.
Geni a magu:
Cafodd Gareth ei eni yn Wrecsam.
Yn byw yn Llanfairfechan yr 20 mlynedd diwethaf.
Addysg a gyrfa:
Ysgol Morgan Llwyd Wrecsam.
Nyrsio am bum mlynedd yn Ninbych.
Gyda'r Heddlu am 19 mlynedd.
Nyrs seiciatryddol ers tair blynedd.
Teulu:
Yn briod â Susan (ei ail briodas).
Pump o blant rhwng y ddwy briodas.
Diddordebau:
CerddoriaethCountry and Western.
Yn ganwr ei hun gan berfformio dan yr enwau Gareth Wyn a Garry Martin.
Wedi ymddangos ar Wedi 7.
Wedi rhedeg marathon Llundain deirgwaith a rhedeg rasys marathon yn Sbaen ddwywaith.
Wyddech chi hyn am bwnc arbenigol Gareth? Ganed y ddau yn Hoxton yn East End Llundain, 1933.
Ffodd eu tad o'r fyddin yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, a bu ar ffo am 12 mlynedd.
Yn debyg i'w tad, ffodd y ddau ohonynt o'u Gwasanaeth Cenedlaethol hefyd.
Cawsant eu cyhuddo o saethu Jack "The Hat" McVitie, Frank "Mad Axeman" Mitchell a George Cornell. Saethwyd Cornell am 8.30yh gerbron llond tafarn yn y Blind Beggar, Whitechapel Road.
Ni ddaethpwyd erioed o hyd i gyrff McVitie na Mitchell.
Bu farw Ronnie yn 1995 a Reggie yn 2000.
|  | |
|