BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cymru'r Byd - Mastermind Cymru

BBC Homepage
Hafan Cymru
Mastermind Cymru
»Mastermind Cymru 2006

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


Mastermind Cymru - Rhaglen 3
S4C, nos Sul, Hydref 22, 8.30 yr hwyr

Tlws y gystadleuaethCystadleuwyr Rhaglen 3:

  • Emryr Rhys Jones
  • Iago Griffith
  • Rolant Ellis
  • Gethin While
    Dewch i'w hadnabod . . . .

  • Emyr Rhys Jones

  • Emryr Rhys JonesYr ymgeisydd buddugol
    Pwnc arbenigol:
    Cyfres Deledu y Simpsons

    Mae Rhys yn cyfaddef ei hun ei fod yn 'nyts' am y Simpsons ac yn gwylio o leiaf un pennod y dydd - weithiau mwy!
    Does dim hoff gymeriad ganddo fel y cyfryw ond mae'n hoffi pob un ohonynt am resymau gwahanol. Mae wedi gwylio pob pennod a ddarlledwyd erioed.

  • Geni a magu:

  • Ganed Rhys yn Llanfihangel Glyn Myfyr - rhwng Cerrigydrudion a Rhuthun.

  • Addysg a gyrfa:

  • Addysg uwchradd yn Rhuthun. Aeth yn syth i'r Heddlu a bu'n heddwas ers 23 o flynyddoedd bellach. Yn aelod o'r Senior Assessor Crime Management Unit sy'n goruchwylio gwaith ac ymddygiad cyd heddweision.

  • Teulu:

  • Yn briod ag Eleri sy'n gogydd yn Ysbyty Gwynedd. Byw yn Llangefni.

  • Diddordebau:

  • Yn aelod ffyddlon o barti gwerin Lobscows.
    Rhys sy'n gyfrifol am drefnu teithiau tramor y parti ac yn cael ei adnabod fel 'Trust me Tours'.
    Wedi bod ym Mharis ac Iwerddon ac yn gobeithio mynd i'r America y flwyddyn nesaf.
    Mae'r parti yn cynnal nifer o nosweithiau llawen a chyngherddau ledled y gogledd.

  • Hanesyn diddorol:

  • Stopiodd jaguar du yn gyrru o gwmpas Castell Caernarfon un tro. Roedd Jackie ac Edward Kennedy yn y cefn, wedi bod yn angladd Arglwydd Harlech!

    Wyddech chi hyn am bwnc arbenigol Emyr?

  • Crëwyd gan Matt Groening.
  • Darlledwyd am y tro cyntaf ar Ragfyr 17, 1989, er ei fod yn seiliedig ar gyfres o shorts a ddarlledwyd ar y Tracy Ullman Show yn 1987.
  • Wedi rhedeg yn hirach nag unrhyw raglen arall o'i bath.
  • Mae'r sioe wedi cael ei chomisiynu am y pedwerydd tymor ar bymtheg ac i'w darlledu yn 2007 a 2008.
  • Bydd y sioe yn dathlu ei 400 rhifyn ym mis Mai 2007.
  • Y cymeriadau yw - Homer, Marge, Maggie, Bart a Lisa - heb anghofio'r anifeiliaid anwes, Santa's Little Helper (y gath) a Snowball II (y ci).

  • Iago Griffith:

  • Iago Griffith Pwnc arbenigol: Ellis Wynne o'r Lasynys gan ganolbwyntio ar Gweledigaethau y Bardd Cwsc Mae cartref Iago ym Morth-y-gest yn edrych dros y Lasynys, cartref Ellis Wynne.
    Fe'i magwyd yn sŵn Ellis Wynne ac mae e wedi ymddiddori yn ei hanes erioed.
    Mae diddordeb ganddo yn hanes llenyddiaeth y cyfnod yn gyffredinol a dywed fod y themâu a gyflwynir o fewn y Gweledigaethau yn rhai oesol, perthnasol i'n dyddiau ni.

  • Geni a magu:

  • Cafodd Iago ei eni yn Stevenville, Newfoundland lle'r oedd ei dad yn anesthetydd mewn Ysbyty yno.
    Symudodd i Borth-y-gest pan yn flwydd oed - ei dad yn dod oddi yno yn wreiddiol.

  • Addysg a gyrfa:

  • Ysgol Eifionydd a Choleg Meirion Dwyfor.
    Prifysgol Keele, Stoke-on-Trent - yn astudio Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
    Gweithio mewn amgueddfa yn ardal Besancon, ger y ffin â'r Swistir yn Ffrainc, am chwe mis.
    Symudodd i Lundain i weithio i gymdeithas tai cyn cychwyn ar ei swydd bresennol gyda chwmni adfer busnes Park Royal Partnership.

  • Teulu:

  • Mae ganddo frawd, Ianto, sy'n byw yn Llundain hefyd.

  • Diddordebau:

  • Yn ymddiddori'n fawr ym mywyd a gwaith Cymry Llundain.
    Yn mynychu Capel Jewin ac yn gefnogol i weithgareddau yng Nghlwb Cymry Llundain, Gray's Inn Road.
    Yn hoff o sgïo a yoga ac yn mynd i'r gampfa yn rheolaidd.

  • Hanesyn diddorol:

  • Mae'n gweld Boris Johnston a Lowri Turner yn loncian bob bore o gwmpas parc Highbury Fields ger ei gartref yn Islington.

    Yn rhyfedd iawn, mae wyth o gyn ddisgyblion Ysgol Eifionydd - sy'n ysgol fach o 500 o ddisgyblion -yn byw yn Llundain ar hyn o bryd ac yn cadw cysylltiad agos ac yn cymdeithasu'n gyson â'i gilydd.

    Wyddech chi hyn am bwnc arbenigol Iago?

  • Ganwyd Ellis Wynne yn 1671 a u farw yn 1734)
  • Yr oedd yn un o feirdd amlycaf Cymru ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg a dechrau'r ddeunawfed.
  • Yr oedd yn offeiriad gyda'r Eglwys Wladol.
  • Addysgwyd ef yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.
  • Bu'n offeiriad yn Llandanwg, Llanbedr a Llanfair (Harlech).
  • Cofir amdano yn bennaf am ei waith gorchestol ac un o glasuron y Gymraeg, Gweledigaethau Y Bardd Cwsc.
  • Cyhoeddwyd y gwaith am y tro cyntaf yn Llundain yn 1703.

  • Rolant Ellis

  • Rolant Ellis Pwnc arbenigol:
    Muhammad Ali.
    Dechreuodd ei ddiddordeb ym Muhammad Ali tra yn yr ysgol gynradd.
    Fe'i gwelai fel cymeriad "hoffus" a "chegog".
    Cred iddo ddylanwadu'n fawr ar bobl yn ystod ei yrfa - yn enwedig ei safbwyntiau a'i ddaliadau ynglŷn â phynciau fel Rhyfel Vietnam a hawliau sifil pobl ddu yn gyffredinol.
    Er na welodd Muhammad Ali yn ymladd yn fyw mae wedi gweld ail ddarllediadau o'i brif ornestau ar y teledu.

  • Geni a magu:

  • Ganwyd a magwyd Rolant yn Aberystwyth lle mae wedi byw gydol ei oes.

  • Addysg a Gyrfa:

  • Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth, a Choleg Llyfrgellwyr Cymru, Aberystwyth.
    Ar ôl treulio ychydig o amser yng Nghaerdydd, dychwelodd i Lyfrgell y Dref yn Aberystwyth gan weithio yno ers tua 30 mlynedd bellach.
    Mae'n Llyfrgellydd Cynorthwyol.

  • Teulu:

  • Rolant yn dod o deulu adnabyddus yr Ellisiaid yn Aberystwyth. Roedd ei dad yn amlwg ym mudiad Cymru Fydd a'i fam, Mari, a'i chwaer, Meg, yn adnabyddus ac yn weithgar y myd y Pethe yn gyffredinol. Ymddangosodd Meg ar Mastermind Saesneg ychydig o flynyddoedd yn ôl.

  • Diddordebau:

  • Cwisiau yn gyffredinol.
    Wedi ysgrifennu llyfr o gwestiynau cwis yn y Gymraeg.
    Colofn o gwestiynau cwis yn Y Cymro.
    Pêl-droed ac yn gefnogwr brwd o Everton gan fynychu naw allan o bob deg o'r gemau cartref.
    Ysgrifennydd cynghrair bêl-droed leol yn Aberystwyth.

    Wyddech chi hyn am bwnc arbenigol Rolant?

  • Ei enw'n wreiddiol oedd Cassius Marcellus Clay Jr.
  • Ganwyd yn Louisville, Kentucky, Ionawr 17, 1942.
  • Cafodd ei lysenwi The Greatest.
  • Cael ei gydnabod gan lawer fel y paffiwr gorau erioed.
  • Ei ornest gyntaf am deitl yn erbyn Sonny Liston ar Chwefror 25, 1964
  • Ei ornest olaf; yn erbyn Trevor Berbick yn Nassau yn y Bahamas ar Ragfyr 11, 1981.
  • Wedi priodi bedair gwaith a chanddo saith merch a dau fab.

  • Gethin While:

  • Gethin While: Pwnc arbenigol:
    Siapan yng nghyfnod Ieyasu Tokugawa rhwng 1543 a 1616.
    Deillia ei ddiddordeb o'i gyfnod yn athro a myfyriwr yn ardal Hokkaido yn Siapan lle'r aeth fel rhan o gynllun JET - Japan.English.Teach.
    Gwnaeth ymchwil ym mhrifysgol Hokkaido.
    Mae'n edmygydd mawr o waith Ieyasu Tokugawa fel y shogun a lwyddodd i uno a threfnu y Siapan gyfoes.
    Cafodd gyfle i ymweld â beddrod Tokugawa yn Nikko - lle hudolus, arallfydol sy'n parhau yn gyrchfan pererinion.

  • Geni a magu:

  • Ganed a magwyd Gethin yn ardal y Llwydcoed, Aberdâr.

  • Addysg a gyrfa:

  • Ysgol Gyfun Rhydfelen.
    Coleg yr Iesu, Rhydychen (B.A. Hanes).
    Coleg Sant Ioan, Caergrawnt (M.Phil. Astudiaethau America Ladin).
    Gyrfa amrywiol gan gynnwys Cyfarwyddwr BAFTA Cymru a Swyddog Ewropeaidd Sgrîn.
    Ar hyn o bryd, mae'n Swyddog Prosiect yn gweithio ar brosiectau economaidd o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

  • Teulu:

  • Unig blentyn ac yn ddibriod.

  • Diddordebau:

  • Cadw'n heini.
    Cerdded mynyddoedd ac arfordiroedd.
    Actiwr amatur brwd ac yn aelod o Theatr Gymunedol The Gate yn y Rhath, Caerdydd.

    Wyddech chi hyn am bwnc arbenigol Gethin?

  • Ganwyd Ieyasu Tokugawa yn1543 a bu farw yn 1616.
  • Ef oedd sylfaenydd a shogun cyntaf teyrnasiad y Tokugawa.
  • Adwaenir y cyfnod fel cyfnod "Edo".
  • Dechreuodd y cyfnod gyda rhyfel Sekigahara yn 1600 gan barhau hyd at ail sefydliad y Meiji yn 1868.
  • Cydnabyddir Ieyasu Tokugawa fel sefydlydd a lluniwr y Siapan gyfoes.
  • Bu 15 aelod o'r teulu Tokugawa yn Shoguns yn eu tro.
  • Yn ôl yr hanes, roedd Ieyasu yn hoff iawn o gathod!



  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy