|  |
  | 
Mastermind Cymru - yr ail raglen S4C, nos Sul, Hydref 15, 8.30 yr hwyr Cystadleuwyr Rhaglen 2: David Collins
Alun Edwards
Euron Walters
Dafydd Roberts
Dewch i'w hadnabod . . . .
David Collins:
Enillydd yr wythnos Pwnc arbenigol: Cerddoriaeth Rhythm and Blues America o'r Chwedegau
Ac yntau wedi ymddiddori yn y gerddoriaeth hon erioed bu darllen y llyfr Sweet Soul Music gan Peter Guralnick yn sbardun iddo ddewis y pwnc ar gyfer Mastermind Cymru.
Pan ar wyliau yn America yn 2001 cafodd gyfle i ymweld â llawer o'r canolfannau pwysicaf yn hanes cerddoriaeth R&B. Dywed fod llawer o'r caneuon yn adlewyrchiad uniongyrchol o'r hinsawdd gymdeithasol a fodolai ar y pryd - yn enwedig brwydr y dyn du ynglŷn â hawliau sifil.
Geni a magu:
Llanelli
Addysg a gyrfa:
Ysgol Gyfun Gymraeg Y Strade, Llanelli.
Prifysgol Caerdydd - Hanes Modern a Gwleidyddiaeth.
Wedi gweithio i gwmni teledu Tinopolis am ychydig, ac yn ohebydd i'r Llanelli Star.
Teulu:
Unig blentyn.
Diddordebau:
Hoff o bob math o chwaraeon - yn enwedig pêl-droed.
Ffan mawr o dîm Yr Eidal.
Dilyn y Sgarlets.
Darllen - yn enwedig llenyddiaeth Americanaidd.
Hanes lleol.
Mae'n canu'r utgorn, y gitâr a'r piano.
Wyddech chi hyn am bwnc arbenigol David?
Bathwyd y term Rhythm and Blues yn yr Unol Daleithiau yn 1949 gan Jerry Wexler tra'n gweithio i gylchgrawn o'r enw, Billboard. Mae'n ymgais i ddisgrifio'r math o gerddoriaeth boblogaidd a berfformiwyd gan Americanwyr Affricanaidd yn cyfuno jazz, gospel a blues. Ymhlith y prif berfformwyr R&B mae Johnny Otis, Fats Domino, Clarence 'Frogman' Henry, Frankie Ford, The Neville Brothers a Dr. John. Erbyn y Saithdegau defnyddiwyd y term i ddisgrifio cerddoriaeth soul a funk hefyd. Mae nifer o genres eraill o gerddoriaeth boblogaidd wedi esgor o R&B gan gynnwys Quiet storm, New jack swing, Hip hop soul a Neo soul.
Alun Edwards:
 Pwnc arbenigol: John Charles - 1931-2004.
Bu John Charles yn arwr i Alun ers ei blentyndod a chred Alun ei fod yn arwr i'r rhan fwyaf o Gymry ei genhedlaeth hefyd ac yn dilyn marwolaeth Charles yn 2004 ail adnewyddwyd ei ddiddordeb ynddo. Ni welodd Alun erioed mohono yn chwarae ond mae wedi gweld digon o raglenni archif arno ac ail ddarllediadau o'i brif gemau.
Geni a magu:
Cafodd Alun ei eni yn Wrecsam ond treuliodd ei blentyndod yn Nyffryn Conwy.
Symudodd i Romford, lle'r oedd ei dad yn athro, a derbyn ei addysg uwchradd yno.
Addysg a gyrfa:
Prifysgol Aberystwyth - Cymraeg a Llyfrgellyddiaeth.
Yn ymgynghorwr ariannol ers rhai blynyddoedd.
Teulu:
Yn briod â Lilian sy'n athrawes ac yn hanu o'r Rhyl.
Un mab, Osian, a raddiodd o Aberystwyth y llynedd a threulio blwyddyn yn teithio o gwmpas America.
Diddordebau:
Dim llawer o amser i ddim ond yn hoff o chwaraeon - golff yn arbennig.
Wyddech hi hyn am bwnc arbenigol Alun? John Charles oedd un o bêl-droedwyr enwocaf Cymru. Ganwyd ef yn Abertawe ac ymunodd â Leeds pan yn 17 oed. Sgoriodd 150 goliau mewn wyth mlynedd. Ymunodd â Juventus yn yr Eidal yn 1957 am £65,00 - y ffi fwyaf a dalwyd erioed ym Mhrydain hyd at hynny. Enillodd y llysenw Il Gigante Buono - Y Cawr Addfwyn - oherwydd ei faint a'r ffaith na chafodd erioed ei rybuddio na'i anfon oddi ar y cae. Gorffennodd ei yrfa gyda Chaerdydd. Bu hefyd yn rheolwr Henffordd a Merthyr Tudful. Anrhydeddwyd â'r CBE yn 2001. Byddai'n mynychu pob gêm gartref yn Leeds hyd ychydig cyn ei farwolaeth yn 2004.
Euron Walters:
 Pwnc arbenigol:
Bywyd ac Emynau Elfed.
Magwyd Euron gymaint yn sŵn emynau Elfed nes teimlo eu bod yn rhan o'i fywyd.
Mae'n cofio clywed sôn am Elfed y "pregethwr a'r emynydd" pan yn blentyn a phan symudodd i Lundain ail daniwyd ei ddiddordeb gan i Elfed fod yn weinidog yng Nghapel yr Annibynwyr King's Cross - er bod Euron yn Fedyddiwr ac yn organydd yng Nghapel Castle Street, Oxford Circus.
Geni a magu:
Yn fab i weinidog gyda'r Bedyddwyr ganed Euron yng Nglyn-nedd ond treuliodd ei flynyddoedd cynnar ym Mhontrhydfendigaid gan symud wedyn i Bontypridd.
Addysg a gyrfa:
Ysgol Ramadeg Pontypridd.
Prifysgol Aberystwyth i astudio Cerddoriaeth, Cymraeg a Ffrangeg.
Bu'n bianydd ar longau am gyfnod.
Bellach yn gyfeilydd mewn ysgol theatr a dawns yn Llundain - Ysgol Italia Conti. Enillodd Dlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith gan gynnwys eleni yn Abertawe.
Teulu:
Yn ddibriod.
Diddordebau:
Cerddoriaeth yn mynd â'r rhan fwyaf o'i amser.
Ffilmiau - yn enwedig ffilmiau Alfred Hitchcock.
Croeseiriau.
Wyddech chi hyn am bwnc arbenigol Euron? Howell Elvet Lewis oedd enw llawn Elfed. Ganwyd ef yn 1860 mewn bwthyn o'r enw Y Gangell ger Cynwyl Elfed, SirGaerfyrddin.
Bu farw yn 1953 yn 93 oed.
Bu'n weinidog ym Mwcle, Hull, Llanelli, Harecourt a King's Cross, Llundain.
Enillodd y Goron yn Eisteddfodau Cenedlaethol 1888 (Wrecsam) ac 1891 (Abertawe) a'r Gadair yn 1894 (Caernarfon).
Cofir amdano fel un o brif emynwyr a phregethwyr Cymru.
Dau o'i emynau mwyaf adnabyddus yw Cofia'n Gwlad, Benllywydd Tirion ac Arglwydd Iesu, Dysg i'm gerdded.
Bu'n briod deirgwaith.
Ymddeolodd i Benarth.
Dafydd Roberts:
 Pwnc arbenigol:
Teithiau'r Llewod o 1950 hyd y presennol.
Bu Dafydd yn dilyn rygbi ers ei blentyndod - er iddo gael ei fagu yn y gogledd lle mae pêl-droed yn fwy poblogaidd na rygbi ond ers symud i Gaerdydd yn 1983 bu'n cefnogi timoedd rygbi mawr y de.
Er yn edmygu rhai o chwaraewyr da y cyfnod presennol dywed nad oes neb i faeddu arwyr y Saithdegau - Gareth Edwards, Barry John a J.P.R. Williams.
Geni a magu:
Cricieth.
Addysg a gyrfa: Addysg Uwchradd ym Mhorthmadog.
Prifysgol Manceinion - (Peirianneg Gemegol)
Dychwelyd i Gricieth a threulio dwy flynedd yn y busnes argraffu teuluol.
Ymuno â'r Gwasanaeth Sifil ac yn gweithio yn y swyddfa Treth ar Werth.
Teulu: Yn ddibriod.
Diddordebau: Pob math o chwaraeon - yn enwedig golff (gwylio a chwarae).
Gwylio rygbi - teithio i Seland Newydd i gefnogi'r daith ddiweddara gyda'r Llewod.
Wyddech chi hyn am bwnc arbenigol Dafydd?
Mae'r "Llewod" yn cynnwys chwaraewyr o Loegr, Yr Alban, Iwerddon a Chymru.
Bu teithiau Llewod er 1888 ond y daith i Dde Affrica yn 1910 a gydnabyddir fel y daith "swyddogol" gyntaf.
Roedd y Pumdegau yn gyfnod aur i'r Llewod.
Gwelwyd adfywiad yn y Saithdegau.
Yn 1993 y bu'r daith amatur olaf.
Ers hynny, bu tair taith broffesiynol.
|  | |
|