BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cymru'r Byd - Mastermind Cymru

BBC Homepage
Hafan Cymru
Mastermind Cymru
»Mastermind Cymru 2006

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


Mastermind Cymru - y rhaglen gyntaf
S4C, nos Sul, Hydref 8, 8.30 yr hwyr

Tlws y gystadleuaethCystadleuwyr Rhaglen 1:

  • Dewi Wyn Jones
  • David Roberts
  • Rhys ab Owen
  • Phil Higginson
    Dewch i'w hadnabod . . . .

  • Dewi Wyn Jones:

  • Dewi Wyn JonesEnillydd yr wythnos
    Pwnc arbenigol:
    Hanes Clwb Pêl-droed Caerdydd

    Daeth Dewi'n ffan o dîm pêl-droed Caerdydd tra'n byw yn y ddinas tua deng mlynedd yn ôl ac er ei fod wedi symud nôl i'r gogledd, mae'n parhau i gefnogi'r tîm gan fynychu cymaint o gemau oddi cartref â phosib.
    Roedd yn hoff iawn o'r chwaraewyr Danny Gabbidon a Jason Bowen - ond dywed fod pob chwaraewr da yn dueddol o symud ymlaen yn gyflym!

  • Geni a magu:
    Treffynnon.
    Wedi byw mewn amryw o leoedd gan gynnwys Caerdydd, Bangor a Llundain.

  • Addysg a gyrfa:
    Ysgol Uwchradd Glan Clwyd. Wedi gweithio i fentrau iaith, gweithio mewn ffatri, rhedeg clybiau a barau. Bellach yn ddyn cloeon - locksmith. Wedi cwympo i'r gwaith ar hap a damwain, meddai.

  • Teulu: Yn ddibriod.
    Dwy chwaer.

  • Diddordebau:
    Pêl-droed - yn enwedig Caerdydd a Chymru.
    Hoff o wyddbwyll ac wedi sefydlu clwb gwyddbwyll i Gymry a dysgwyr yn ardal Treffynnon.
    Hoff o deithio -yn enwedig, Romania.

    Wyddech chi hyn am bwnc arbenigol Dewi?
  • Sefydlwyd y clwb yn 1899 fel Riverside AFC.
  • Llysenw - The Bluebirds.
  • Maes - Parc Ninian.
  • Bu'r Dauddegau yn gyfnod euraidd i'r clwb ac enillwyd cwpan yr FA yn 1927 yn erbyn Arsenal.
  • Mae Ivor Allchurch, John Charles, Brian Flynn, John Toshack a Robert Earnshaw yn gyn chwaraewyr.
  • Roedd y tîm yn unfed ar ddeg yn y Championship League yn nhymor 2005-6.
  • Y cadeirydd yw Sam Hammam.
  • Y rheolwr yw Dave Jones.

  • David Roberts:

  • David Roberts Pwnc arbenigol:
    Comics Spider-Man o 1962 i 1969.

    Bu David yn ffan mawr o Spider-Man ers yn blentyn gan brynu'r comics erioed. Er bod nifer o'r ôl rifynnau ganddo dywed nad yw'n gasglwr 'eithafol' o bopeth Spider-Man ond mae ganddo hen deganau ac ati. Mae'n cofio gwisgo gwisg ffansi Spider-Man ar gyfer dathliadau Calan Gaeaf un tro!

  • Geni a magu:

  • Pwllheli.
  • Addysg a gyrfa:

  • Ysgol Glan-y-môr Pwllheli / Coleg Meirion Dwyfor.
    Prifysgol Abertawe - Saesneg a Hanes (B.A.).
    Prifysgol Abertawe - M.A. Saesneg.
    Ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer ei ddoethuriaeth yn Abertawe.

  • Teulu:

  • Unig blentyn.

  • Diddordebau:

  • Yn amlwg, yn hoff o gomics!
    Hoffi pob math o ffuglen wyddonol.
    Hoff o wrando ar gerddoriaeth Roc a cherddoriaeth y Beatles.
    Cefnogwr brwd tîm pêl-droed Lerpwl ond heb eu gweld yn chwarae'n fyw.
    Wyddech chi hyn am bwnc arbenigol David?

  • Enw iawn Spider-Man ydi Peter Benjamin Parker.
  • Crëwyd ef gan Stan Lee a'r arlunydd, Steve Ditko.
  • Ymddangosodd am y tro cyntaf yn Amazing Fantasy fis Awst, 1962.
  • Mae Peter Parker yn gweithio i'r papur newydd y Daily Bugle.
  • Rhai o'i elynion pennaf yw: Green Goblin, Doctor Octopus a Venom.
  • Tyfodd poblogrwydd Spider-Man yn gyson ers ei ymddangosiad cyntaf.
  • Heb amheuaeth, mae Spider-Man ymhlith prif "arwyr dychmygol" y byd.
  • Bydd trydedd ffilm Spider-Man yn 2007.

  • Rhys ab Owen:

  • Rhys ab Owen Pwnc arbenigol:
    Is-etholiadau yng Nghymru er 1966.

    Magwyd Rhys mewn cartref ag iddo awyrgylch gwleidyddol gyda'i dad, Owen John Thomas, yn aelod o'r Cynulliad dros Ganol De Cymru i Blaid Cymru.

    Mae'r teulu cyfan yn hoff o drafod pynciau gwleidyddol, ac mae'r dylanwad hwn yn drwm ar Rhys.

    Ond er bod ganddo ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, does ganddo ddim dyhead i fentro i fyd gwleidyddiaeth - ar hyn o bryd beth bynnag!

    Mae'n astudio'r Gyfraith yn Rhydychen, ond yn cadw ei opsiynau'n agored o ran gyrfa.

  • Geni a magu:

  • Caerdydd.

  • Addysg a gyrfa:

  • Ysgol Gyfun Gymraeg Glantâf.
    Ar hyn o bryd, yn fyfyriwr yng Ngholeg Regent's Park, Rhydychen yn astudio'r Gyfraith.
    Dim syniad ganddo beth mae am wneud yn y dyfodol - pa un ai parhau ym myd y gyfraith neu ddilyn gyrfa arall.

  • Teulu:

  • Yn un o efeilliaid - mae'i efaill, Rhodri, yn astudio'r Gymraeg a Gwleidyddiaeth yn Aberystwyth.
    Pedwar brawd ac un chwaer hefyd.

  • Diddordebau:

  • Yn aelod brwd o Gymdeithas Dafydd ap Gwilym yn Rhydychen.
    Hoff o fywyd cymdeithasol y myfyrwyr yn gyffredinol yn Rhydychen ond yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Gaerdydd bob cyfle gaiff.

    Wyddech chi hyn am bwnc arbenigol Rhys?

  • Heb amheuaeth, bu diwedd yr ugeinfed a dechrau'r unfed ganrif ar hugain yn gyfnod cyffrous yn hanes gwleidyddiaeth Cymru.
  • Dyma rai o'r cerrig milltir:
  • Ad-drefnu sirol yn 1972.
  • Refferendwm Ewrop 1975.
  • Refferenda ar ddatganoli yn 1979 a 1997.
  • Sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999.

  • Phil Higginson:

  • Phil Higginson Pwnc arbenigol:
    Nofelau Narnia C.S. Lewis.
    Mae Phil yn cofio darllen a chael ei swyno gan chwedlau Narnia pan yn blentyn a chan fod C.S. Lewis o dras Gymreig ar ochr ei dad ychwanegwyd at ddiddordeb Phil ynddo.
    Fel athro, mae Phil yn rhyfeddu at ymateb amrywiol y disgyblion tuag at waith C.S. Lewis. Mae'r elfen ddiwinyddol o fewn gwaith C.S. Lewis yn apelio'n fawr ato hefyd.

  • Geni a magu:

  • Ganwyd yn Llundain a magwyd yn Sanclêr.

  • Addysg a gyrfa:

  • Addysg Ramadeg yn Hendy-gwyn-ar-daf.
    Coleg Keble, Rhydychen (Saesneg).
    Athro Saesneg - Ysgol Gyfun Y Strade, Llanelli.
    Athro Saesneg - Ysgol Gyfun Y Preseli, Crymych.

  • Teulu:

  • Yn briod â Julie sy'n bennaeth Ysgol Gynradd Clydau, Sir Benfro.
    Tri o blant - Cai (19) yn astudio Gwleidyddiaeth yn Aberystwyth;
    Gwenllian (16) yn chweched dosbarth y Preseli;
    Brynach (14) ym mlwyddyn 10 yn y Preseli.

  • Diddordebau:

  • Cerddoriaeth - yn enwedig cerddoriaeth draddodiadol. Mae'n canu'r tenor banjo, mandolin a'r gitâr ac yn aelod o'r grŵp gwerin Bysedd Main. Darllen.
    Warden yn ei eglwys leol.

    Wyddech chi hyn am bwnc arbenigol Phil?

  • Enw llawn C.S.Lewis oedd Clive Staples Lewis (1898 - 1963).
  • Ganwyd ym Melffast, 1898.
  • Astudiodd yn University College, Rhydychen.
  • Daeth yn amlwg o fewn grŵp llenyddol The Inklings yn Rhydychen ynghyd â J.R.R. Tolkien.
  • Bu'n ddarlithydd yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, ac yng Nghaergrawnt hefyd.
  • Er iddo 'sgrifennu'n doreithiog, cofir amdano'n bennaf am The Chronicles of Narnia - cyfres o saith nofel a gyhoeddwyd rhwng 1950 a 1957.




  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy