|  |
  | 
Mastermind Nadolig 2006 S4C, nos Sul, Rhagfyr 24, 8.00. Ymgiprys y sêr: Llinor ap Gwynedd
Rod Richards
Gary Slaymaker (Buddugol)
Meinir Gwilym
Bydd rhifyn arbennig o Mastermind Cymru ar S4C noswyl Nadolig 2006 gydag actores, gwleidydd, darlledwr a chantores yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.
Yr holwraig fydd Betsan Powys sydd wedi hen ennill ei phlwyf fel cwisfeistres y fersiwn Gymraeg o'r gystadleuaeth wybodaeth boblogaidd hon.
Llinor ap Gwynedd
Llinor ap Gwynedd sy'n chware rhan Gwyneth yn Pobol y Cwm a'i phwnc dewisol ar gyfer y rhaglen yw cerddoriaeth y canwr a'r cyfansoddwr James Taylor.
Dywedodd ei bod yn edmygydd mawr o Taylor ers i'w brawd, Rheinallt ap Gwynedd, sydd hefyd yn gyfansoddwr, ddod ag un o'i recordiau adref pan oedd hi'n 16 oed.
"Rwy' wedi bod yn hoff iawn o gerddoriaeth James Taylor byth oddi ar hynny", meddai Llinor sy'n dod o Grymych.
"Yn ddiweddar, rwy' wedi syrthio mewn cariad unwaith eto â'i ganeuon - ei albwm diweddaraf October Road yw fy ffefryn. Dwi wedi bod mewn pedwar o'i gyngherddau ac o'dd paratoi ar gyfer y rhaglen yn esgus da i ail-fwynhau'r gerddoriaeth." Rod Richards
Ateb cwestiynau ar hanes Clwb Rygbi Llanelli er 1950 fydd Rod Richards - un o wleidyddion mwyaf dadleuol Cymru a cholofnydd yn Golwg ar hyn o bryd.
Ond dywedodd iddo benderfynu troi ei gefn ar ei briod faes ar gyfer Mastermind.
"Do'n i ddim yn siŵr faint o adloniant fydde rhes o gwestiynau am wleidyddiaeth ar Noswyl Nadolig felly benderfynes i ganolbwyntio ar fy niddordeb arall sef clwb rygbi'r Sgarlets. Dwi wedi bod yn ffan o'r clwb erioed felly roedd hi'n bleser cael edrych mewn i'r cefndir yn fanylach," meddai. Gary Slaymaker
Ni fydd yn syndod i neb mai rhywbeth o fyd ffilmiau yw pwnc dewisol Gary Slaymaker, yr adolygydd ffilm o Gwmann ger Llambed.
"Trioleg Star Wars feddylies i amdano gyntaf tan i fi sylweddoli fod 'na lot o waith i ddysgu am fydysawd cyfan.
"Dwi'n ffan masif o ffilmau Rocky felly'r ffilmiau yna aeth â hi.
"Dwi 'di gorfod ymddiheuro i fy nghymydog sydd wedi blino clywed y miwsig teitl wrth i fi wylio'r ffilmiau drosodd a throsodd.
"Dwi'n gystadleuol iawn felly dwi'n 'neud llawer o waith ymchwil.
"Mi faswn i wrth ym modd yn maeddu Rod Richards!" ychwanega Gary sydd wedi bod yn ffan o Mastermind erioed.
"Dwi'n cofio gweld Magnus Magnusson yn cyflwyno'r rhaglen pan o'n i'n fach a dwi'n teimlo fod e'n real pluen yn fy nghap i gymryd rhan yn y cwis enwocaf ar deledu Prydeinig," meddai. Meinir Gwilym
Nofel fawr Caradog Prichard, Un Nos Ola' Leuad yw prif bwnc Meinir Gwilym y gantores o Langristiolus.
Dywed iddi ddarllen y nofel droeon.
"Mae'n garreg filltir yn hanes y nofel Gymraeg ac wedi dylanwadu ar lot fawr o lenorion - ac arna i," meddai.
Er y gall y cystadleuwyr baratoi'n drwyadl ar gyfer eu pynciau dewisol wrth gwrs does wybod pa gwestiynau gwybodaeth gyffredinol gaiff eu taflu atynt gan Betsan Powys.
Yn hynny o beth dydi Meinir ddim yn rhy hyderus: "Mae fy ngwybodaeth gyffredinol i'n dipyn o jôc gyda nheulu a'n ffrindie gan mod i'n dueddol o wybod pethe hollol wirion. Hon felly yw'r rownd dwi fwya' nerfus amdani," meddai.
Dyw hyn, serch hynny, ddim yn tynnu oddi ar y cyffro mae Meinir yn ei deimlo wrth edrych ymlaen at y sialens.
"Dwi mor nerfus wrth feddwl amdano ond dwi'n methu aros chwaith. Dwi jyst yn falch mod i'n mynd i gael y profiad - nid pawb sy'n gallu dweud eu bod nhw 'di ateb cwestiynau yng nghadair enwog Mastermind," meddai.p Mastermind Cymru - Nos Sul, Rhagfyr 24, 8.00. Isdeitlau Saesneg ar gael.
|  | |
|