|  |
  | 
Emyr Rhys Jones - Mastermind Cymru 2006 S4C, nos Sul, Tachwedd 5, 8.30 yr hwyr Cystadleuwyr yr Ornest Derfynol: Emyr Rhys Jones - yr enillydd David Collins Gareth Wyn Jones Dewi Wyn Jones Cliciwch i ddarllen am y canlyniad . . .
Emyr Rhys Jones - Mastermind Cymru 2006 gydag 20 pwynt:
Pwnc arbenigol: Hanes yr Eurovision Song Contest o 1956-1990.
Roedd e'n mwynhau y gystadleuaeth yn blentyn ond collodd ddiddordeb wedi 1990 gan gredu i'r gystadleuaeth fynd yn wirion wedi hynny. Erbyn hyn dywed ei bod yn rhy wleidyddol.
Profiad Mastermind:
Grêt. Wedi mwynhau drwy beidio â chymryd ei hun yn ormod o ddifri. Wedi cael laff meddai.
Cyrraedd y Ffeinal:
Hollol annisgwyl. Nid yw'n ffyddiog y bydd yn ennill.
Sgoriodd:
19 yn y rownd gyntaf.
Wyddech chi hyn am bwnc arbenigol Rhys?
San Remo ysbrydolodd y gystadleuaeth. Daeth y syniad i'r amlwg mewn cyfarfod ym Monaco yn 1955. Cynhaliwyd y gystadleuaeth am y tro cyntaf yn Lugano yn y Swistir yn 1956.
Mae'r gystadleuaeth wedi ei chyfyngu i wledydd sydd yn aelodau o'r EBU (European Broadcasting Union). Mae pob gwlad yn ymgeisio am y gystadleuaeth drwy un o'u sianeli teledu. Bu'r ffigurau gwylio yn uchel dros y blynyddoedd diwethaf gyda rhwng 100 miliwn a 600 miliwn o wylwyr ledled Ewrop.
Ydych chi'n cofio hyn am Rhys? Pwnc arbenigol blaenorol:
Y Simpsons.
Geni a magu:
Ganed Rhys yn Llanfihangel Glyn Myfyr - rhwng Cerrigydrudion a Rhuthun.
Addysg a gyrfa:
Addysg uwchradd yn Rhuthun.
Aeth yn syth i'r Heddlu a bu'n heddwas ers 23 o flynyddoedd bellach.
Yn aelod o'r Senior Assessor Crime Management Unit sy'n goruchwylio gwaith ac ymddygiad cyd heddweision.
Teulu:
Yn briod ag Eleri sy'n gogydd yn Ysbyty Gwynedd. Byw yn Llangefni.
Diddordebau:
Yn aelod ffyddlon o barti gwerin Lobscows.
Rhys sy'n gyfrifol am drefnu teithiau tramor y parti ac yn cael ei adnabod fel 'Trust me Tours'.
Wedi bod ym Mharis ac Iwerddon ac yn gobeithio mynd i'r America y flwyddyn nesaf.
Mae'r parti yn cynnal nifer o nosweithiau llawen a chyngherddau ledled y gogledd.
Hanesyn diddorol:
Stopiodd jaguar du yn gyrru o gwmpas Castell Caernarfon un tro - roedd Jackie ac Edward Kennedy yn y cefn, wedi bod yn angladd Arglwydd Harlech!
David Collins - 13 pwynt
David Collins Pwnc arbenigol: Y Rhyfel Oer o 1945-1970.
Dewisodd David y pwnc hwn gan ei fod yn teimlo fod cyfnod y Rhyfel Oer yn un mor arwyddocaol yn ein hanes. Mae'n syfrdanu pa mor agos ddaeth y byd at ryfel niwclear. Ond nid yw wedi astudio'r pwnc fel y cyfryw ers iddo wneud TGAU mewn Hanes ond roedd yn hapus i ail gydio yn rhywbeth oedd e'n meddwl oedd yn ddiddorol ac yn rhywbeth yr oedd eisiau dysgu mwy amdano.
Profiad Mastermind
Yn un "arbennig o fuddiol a diddorol". Wedi mwynhau y rownd gyntaf oherwydd iddo ennill! Yn teimlo bod yn rhaglen yn eiconig a'i bod yn fraint cael bod arni ac eistedd yn y gadair.
Cyrraedd y Ffeinal:
Wedi cymryd rhan fel her bersonol ac o ystyried ei fod wedi cyrraedd yr ornest derfynol mae'n teimlo ei fod wedi llwyddo.
Sgoriodd:
18 yn y rownd gyntaf.
Wyddech chi hyn am bwnc arbenigol David?
Cychwynnodd ar ôl yr Ail Rhyfel Byd gan barhau o tua 1945 hyd at 1990. Yn ganlyniad i gwymp yr Undeb Sofietaidd. Roedd yn "oer" oherwydd na fu brwydro "poeth" rhwng y gwledydd
Roedd y rhyfel rhwng yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd/Rwsia. Roedd Rhyfel Korea, Rhyfel Fietnam ac Ymosodiad yr Undeb Sofietaidd ar Afghanistan o ganlyniad i'r Rhyfel Oer. Daeth Wal Berlin a oedd yn gwahanu gorllewin a dwyrain y ddinas yn symbol o'r Rhyfel Oer. Rhyfel rhwng cyfalafiaeth a chomiwnyddiaeth oedd hwn yn bennaf.
Bu llawer o gystadlu rhwng y ddau. Ymysg y rhain yr oedd y ras niwclear a'r ras ofod.
Ydych chi'n cofio hyn am David? Pwnc arbenigol blaenorol:
Cerddoriaeth R&B.
Geni a magu:
Llanelli
Addysg a gyrfa:
Ysgol Gyfun Gymraeg Y Strade, Llanelli.
Prifysgol Caerdydd - Hanes Modern a Gwleidyddiaeth.
Wedi gweithio i gwmni teledu Tinopolis am ychydig, ac yn ohebydd i'r Llanelli Star.
Teulu:
Unig blentyn.
Diddordebau:
Hoff o bob math o chwaraeon - yn enwedig pêl-droed.
Ffan mawr o dîm Yr Eidal.
Dilyn y Sgarlets.
Darllen - yn enwedig llenyddiaeth Americanaidd.
Hanes lleol.
Mae'n canu'r utgorn, y gitâr a'r piano.
Gareth Wyn Jones - 19 pwynt
Pwnc arbenigol: Bywyd ac amseroedd Ruth Ellis.
Gan i Gareth fod yn yr Heddlu cyn dod yn nyrs seiciatrig mae ganddo ddiddordeb 'proffesiynol' o ddau safbwynt yn Ruth Ellis - ei bywyd ym myd trosedd a thrais ond hefyd ei meddylfryd seicolegol. Roedd diddordeb arbennig ganddo yn Ruth fel Cymraes. Mae Gareth yn hoff o ddarllen am droseddwyr ac mae ganddo ddiddordeb yn y ffordd mae eu meddyliau yn gweithio.
Profiad Mastermind:
Diddorol dros ben. Bu'r eistedd yn y gadair yn hwylusach na'r disgwyl! Dywed iddo wneud llawer o waith ymchwil i'w bwnc arbenigol yn y rownd gynta - ond dim o gwbl ar gyfer y cwestiynau gwybodaeth gyffredinol. A chan na wnaeth yn rhy dda bu'n 'swotio' ychydig yn fwy y tro hwn! Yn byw mewn gobaith!
Cyrraedd y Ffeinal:
Hapus Iawn gan nad oedd yn disgwyl cyflawni hynny. Wedi'r 'gwrandawiad' yng Nghaernarfon ni chredai iddo wneud yn ddigon da nes cael galwad ei fod wedi ennill ei le. Y teulu'n hapus ac yn falch iawn iddo gyrraedd y safon yma.
Dyw e ddim yn siŵr a fyddai'n cystadlu eto yn y dyfodol oherwydd yr holl waith adolygu.
Sgoriodd:
19 yn y rownd gyntaf.
Wyddech chi hyn am bwnc arbenigol Gareth?
Ruth Ellis oedd y ddynes olaf i gael ei chrogi ym Mhrydain - yn 1955
Ganed hi yn Y Rhyl yn 1927 ond magwyd hi ym Manceinion. Roedd ganddi ddau o blant.
Milwr o Ganada oedd tad y cyntaf a anwyd pan oedd hi'n 17. Daeth yr ail o'i phriodas â George Ellis yn 1951- ond roedd e'n gwrthod derbyn mai ef oedd tad y plentyn a chwalodd y briodas.
Roedd Ruth Ellis yn rheoli clwb nos ac yn butain pan gyfarfu David Blakely - gŵr a oedd yn rasio ceir.
Roedd perthynas Blakely a Ruth yn llawn cenfigen a cheisiodd Ruth ei adael sawl tro. Er i Blakely ymddwyn yn dreisgar tuag ati arhosodd y ddau gyda'i gilydd ac yn ystod y berthynas erthylodd Ruth blentyn. Y gred yw iddi ddioddef o rhyw fath o iselder wedi'r digwyddiad hwn. Darganfu Ruth fod Blakely yn cael perthynas gyda dynes arall. Sul y Pasg, 1955 fe'i saethodd pan adawodd dŷ tafarn. Rhedodd ato a thanio bedair gwaith eto cyn iddi gael ei harestio.
Ydych chi'n cofio hyn am Gareth? Pwnc arbenigol blaenorol:
Y Krays.
Geni a magu:
Cafodd Gareth ei eni yn Wrecsam.
Yn byw yn Llanfairfechan yr 20 mlynedd diwethaf.
Addysg a gyrfa:
Ysgol Morgan Llwyd Wrecsam.
Nyrsio am bum mlynedd yn Ninbych.
Gyda'r Heddlu am 19 mlynedd.
Nyrs seiciatryddol ers tair blynedd.
Teulu:
Yn briod â Susan (ei ail briodas).
Pump o blant rhwng y ddwy briodas.
Diddordebau:
CerddoriaethCountry and Western.
Yn ganwr ei hun gan berfformio dan yr enwau Gareth Wyn a Garry Martin.
Wedi ymddangos ar Wedi 7.
Wedi rhedeg marathon Llundain deirgwaith a rhedeg rasys marathon yn Sbaen ddwywaith.
Dewi Wyn Jones - 11 pwynt
Pwnc arbenigol: Y Rhyfel Cartref yn Sbaen.
Mae gan Ddewi ddiddordeb yn hanes gwleidyddiaeth y chwith ond nid yw wedi astudio'r rhyfel cartref yn Sbaen o'r blaen er bod ganddo ddiddordeb yn y pwnc. Bu hyn yn rheswm da dros wneud hynny.
Profiad Mastermind:
Mwynhad aruthrol - er iddo gymryd rhan fel bet/ dare.
Cyrraedd y Ffeinal:
Eithaf balch.
Yn dilyn ei raglen gyntaf derbyniodd 60 neges testun yn ei longyfarch. Ni ddywedodd wrth neb y byddai ar y rhaglen ond mae llond bws o gefnogwyr y tro hwn!
Sgoriodd:
22 yn y rownd gyntaf.
Wyddech chi hyn am bwnc arbenigol Dewi?
Dechreuodd Rhyfel Cartref Sbaen yn 1936 wedi i'r Cenedlaetholwyr Radical, a gefnogai'r Cadfridog Franco, godi yn erbyn y weriniaeth a oedd wedi ei sefydlu yn Sbaen yn 1931.
Daeth y rhyfel i ben yn 1939 gyda buddugoliaeth Franco. Bu'r rhyfel cartref hwn yn ymrafael byd-eang rhwng y chwith a'r dde. Yr oedd yno Frigâd Ryngwladol o wledydd eraill i helpu yn y brwydro. Ymladdodd 177 o Gymry - a bu farw 33 ohonynt.
Ydych chi'n cofio hyn am Dewi? Pwnc arbenigol blaenorol:
Clwb Pêl-droed Caerdydd.
Geni a magu:
Treffynnon.
Wedi byw mewn amryw o leoedd gan gynnwys Caerdydd, Bangor a Llundain.
Addysg a gyrfa:
Ysgol Uwchradd Glan Clwyd.
Wedi gweithio i fentrau iaith, gweithio mewn ffatri, rhedeg clybiau a barau.
Bellach yn ddyn cloeon - locksmith. Wedi cwympo i'r gwaith ar hap a damwain, meddai.
Teulu:
Yn ddibriod.
Dwy chwaer.
Diddordebau:
Pêl-droed - yn enwedig Caerdydd a Chymru.
Hoff o wyddbwyll ac wedi sefydlu clwb gwyddbwyll i Gymry a dysgwyr yn ardal Treffynnon.
Hoff o deithio -yn enwedig, Romania.
Meddai Betsan am yr ornest hyd yn hyn:
"Mae'r ymateb dwi wedi ei gael gan y gwylwyr i'r gyfres hon wedi bod yn anhygoel. Mae'n gyfres sy'n dal y dychymyg ac mae Mastermind Cymru yn dilyn traddodiad sydd wedi hen ennill ei blwyf gan osod stamp a safon arbennig."
Gan gyfeirio at y ffaith nad oes gwobr ariannol ychwanegodd: "Mae'n chwa o awyr iach yn fy marn i fod ennill teitl Mastermind Cymru yn ddigon o anrhydedd ynddo ei hun.
"Mae wedi bod yn wych i allu cyfarfod cymaint o gystadleuwyr deallus a gwybodus o bob cwr o Gymru ac o wahanol alwedigaethau a chefndiroedd.
"Rwyf wedi dysgu llawer wrth holi'r cwestiynau - ond yr unig drafferth yw fy mod yn tueddu i anghofio'r ffeithiau yn fuan wedyn. Dyna pam mai y fi yw'r un sy'n holi ac nid yr un sy'n eistedd yn y gadair ddu enwog!"
|  | |
|