BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru - Llyfr y FlwyddynBBC Cymru - Llyfr y Flwyddyn

BBC Homepage
Cymru home

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y tri

Dwy nofel a chyfrol o farddoniaeth ar y brig - Sylwadau Kate Crockett, cyflwynydd Stiwdio

"Tair cyfrol wahanol iawn," oedd disgrifiad un o feirniaid cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni, Aled Islwyn, wrth gyhoeddi enwau'r tri llyfr ar y rhestr fer mewn seremoni ar faes Gŵyl y Gelli.

Dwy nofel ac un gyfrol o farddoniaeth ydyn nhw: Pryfeta gan Tony Bianchi ac Y Proffwyd a'i Ddwy Jesebel gan Gareth Miles yw'r nofelau, a Dauwynebog gan Ceri Wyn Jones yw'r gyfrol o farddoniaeth.

Dau awdur

Diwygiad 1904-05 yw testun Y Proffwyd a'i Ddwy Jesebel, nofel sydd wedi'i chyhoeddi o dan ddau enw: "W.T.Davies a Gareth Miles" - er mai Gareth Miles yw'r ddau mewn gwirionedd.

Mae gan yr awdur profiadol hwn "alergedd" meddai at gael traethodydd holl wybodus mewn nofel - felly dyma greu cymeriad o newyddiadurwr i adrodd yr hanes ar ei ran.

Os oes dau "awdur" yn gyfrifol am lyfr Gareth Miles, dau wyneb sy'n cael eu dangos gan Ceri Wyn Jones - cydnabyddiaeth mai paradocsau yw pethau'r bardd hwn, ac nad yw'n honni bod ei farn yn gyson rhwng cerddi a'i gilydd na hyd yn oed o fewn yr un gerdd.

Yr ail dro

Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd oedd Pryfeta gan Tony Bianchi - ail nofel y dyn sy'n dod yn wreiddiol o North Shields - a'r ail dro yn olynol iddo ymddangos ar restr hir y gystadleuaeth hon.

Yn agos

Cyhoeddi'r tri llyfr ar y rhestr fer o'r deg gwreiddiol ar y rhestr hir oedd gwaith y beirniaid yn y Gelli - ond unwaith eto fel y llynedd enwyd y cyfrolau oedd yn agos at y rhestr fer: Y Gemydd gan Caryl Lewis, Prif Weinidog Answyddogol Cymru gan Gwyn Jenkins, a Hanner Cant gan Iwan Llwyd.

Efallai bod y dymuniad hwn am dŷ hanner ffordd yn adlewyrchu'r benbleth flynyddol mae'r beirniaid yn ei hwynebu wrth geisio pennu'r wobr. Eto eleni daeth i'r amlwg nad oedd cytundeb rhwng y tri (Aled Islwyn, Siân Thomas a Huw Meirion Edwards) ac mai mater o gyfaddawd rhyngddyn nhw yw'r rhestr fer.

Ar faes Gŵyl y Gelli dywedodd nifer o ddarllenwyr brwd nad oedd eu ffefrynnau nhw ar y rhestr hir hyd yn oed - a diddorol nodi bod un o'r beirniaid, Huw Meirion Edwards, hefyd wedi nodi nad oedd pob o'i ffefrynnau ef wedi cyrraedd y rhestr honno chwaith.

Dyma gynnig dau esboniad posib: mae cymaint o lyfrau da'n cael eu cyhoeddi'n Gymraeg ar hyn o bryd nad oes modd cydnabod pob llyfr teilwng; neu, mae chwaeth darllenwyr mor amrywiol y gall ffefryn un fod yn annarllenadwy ym marn un arall. Byddai sinig yn dweud mai'r ail esboniad sy'n wir: hoffwn feddwl bod yna elfen o wirionedd yn y cyntaf hefyd.

Yn Saesneg

Yn y Gelli hefyd enwyd y tri llyfr Saesneg llwyddiannus: nofel am ddau blentyn yn sir Faesyfed amaethyddol yn 1980au yw The Claude Glass gan awdur ifanc o'r enw Tom Bullough; a chyfrol o fyfyrdodau wedi iddo golli ei wraig mewn damwain car yw The Presence gan y bardd Dannie Abse. Mae Blue Sky July gan Nia Wyn eisoes yn gyfarwydd i nifer ar ôl ennill clod mawr yn y wasg trwy Brydain - llyfr gan fam am ei mab sydd â pharlys yr ymennydd.

Cafwyd clod mawr i'r tri yma gan y beirniad Trevor Fishlock ond ar ôl darllen dros 200 o lyfrau ar gyfer y gystadleuaeth roedd ganddo yntau a'i gyd-feirniaid, Mavis Nicholson a Damian Walford Davies, ble ar awduron a gweisg - mwy o olygu gofalus os gwelwch yn dda.

"Os ydych chi'n mynd i'r ddawns rydych chi eisiau edrych ar eich gorau," oedd cyngor cofiadwy Trevor Fishlock.

Holi'r chwech

Neithiwr cafwyd cyfle i holi'r chwe awdur a chlywed darnau o'r chwe llyfr llwyddiannus - hynny ar ben cyfraniadau gan ddau o'r beirniaid, a gan Rhodri Glyn Thomas AC, y Gweinidog Treftadaeth.

Am yr ail flwyddyn yn olynol yr oerni llethol ac nid y llyfrau llwyddiannus oedd testun trafod y gynulleidfa fu'n eistedd yn amyneddgar drwy'r holl gyfraniadau hyn mewn pafiliwn gwyntog, swnllyd.

Mae yna rai sy'n holi ai Gŵyl y Gelli yw'r lleoliad mwyaf addas ar gyfer y cyhoeddiad hwn - efallai ei bod yn werth gofyn ai saith y nos yw'r amser mwyaf addas?

Byddai cynnal y seremoni'n gynt yn y dydd ar Ŵyl y Banc yn denu rhagor o gynulleidfa ac yn rhoi mwy o chwarae teg i'r awduron llwyddiannus, gan sicrhau maen nhw, ac nid yr elfennau, fyddai'n hawlio'r sylw.

  • Bydd Kate Crockett yn trafod y Rhestr Fer gyda'r beirniaid a'r tri awdur llwyddiannus ar rifyn arbennig o'r rhaglen Stiwdio ar BBC Radio Cymru am 6 o'r gloch heno, nos Fawrth Mai 27.


  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy