Ar ddyn brith a gyfarfu yn Awstralia y sylfaenodd Llwyd Owen un o gymeriadau mwyaf lliwgar ei nofel Yr Ergyd Olaf meddai wrth Dei Tomos ar BBC Radio Cymru.
Dywed iddo yn y nofel hon geisio "camu i ffwrdd oddi wrth yr elfen fywgraffiadol" yn ei waith hyd yn hyn.
"Ac roeddwn yn herio fy hun i sgrifennu ffuglen pur nad oedd yn seiliedig ar unrhyw beth i'w wneud â fy mywyd i," meddai.
Datgelodd fod un cymeriad yn seiliedig ar "ddyn drwg" a gyfarfu yng ngogledd Queensland Awstralia.
"Ffrind i ffrind oedd e ac yn gweithio ar ran y gangen leol o banditos yn gwerthu cyffuriau ledled Queensland ac wnes i gwrdd ag ef ac roeddwn i'n eithaf ofnus ohono fe i ddechrau nes ei fod e'n ffendio mod i o Gaerdydd.
"A'r rheswm oedd ei fod e'n dod o Ddinas Powys yn wreiddiol - fel y cymeriad yn y llyfr - ac ar ôl hynny wnaethom ni ddod yn eithaf cyfeillgar. Ac mae lot o'r straeon yn seiliedig ar ei brofiadau ef," meddai.
"Yr oedd yn amlwg yn byw yr ochr arall i'r gyfraith ond yr oedd e hefyd yn foi mor garedig.
"Pan oeddech chi efo fe doeddech chi ddim yn gorfod rhoi eich llaw yn eich poced - yr oedd e'n prynu diodydd, yn prynu i bawb ac yr oedd e'n llawn storis ac yn llaw hwyl.
"Yr oedd e'n gymeriad Jekyll and Hyde. Yr oedd ei ochr bersonol e yn hollol wahanol i'w bersona broffesiynol a dyna oedd yn ei wneud yn gymeriad mor ddiddorol i mi a'r rheswm yr oeddwn i eisiau seilio cymeriad arno fe."
Dywed mai nofel wedi ei sgrifennu yn nhraddodiad pulp fiction yw hi fel gwaith Elmor Leonard.
"Rwy'n anelu at gynulleidfa o ddarllenwyr yng Nghymru sydd efallai ddim yn darllen llyfrau Cymraeg traddodiadol . . . yn anelu at ddarllenwyr ifancach efallai 18 i 30, dynion, a dwi'n meddwl mod i'n llwyddo i gyrraedd y gynulleidfa honno," meddai.
Bu'n sôn hefyd am yr ymchwil tu ôl i'w nofelau, yr iaith mae'n defnyddio a sut y daeth dan ddylanwad cymeriad yn y ffilm True Romance.
Dywed ei fod yn sgrifennwr sy'n cynllunio'n ofalus iawn o ran plot yn hytrach na chychwyn gyda chynfas wag.
"Rwy'n fanwl iawn o ran cynllunio pethau," meddai.
Llwyd Owen yn siarad gyda Dei Tomos ar BBC Radio Cymru