Yr awydd i roi i Huw T Edwards y sylw yr oedd yn ei haeddu a sbardunodd Gwyn Jenkins i sgrifennu'r cofiant,
Prif Weinidog Answyddogol Cymru.
"Yr oedd angen atgyfodi Huw T Edwards a rgoi iddo y sylw yr oedd yn ei haeddu," meddai wrth Dei Tomos ar BBC Radio Cymru.
Dywedodd i'w ddiddordeb yn yr undebwr llafur a gwleidydd ddeillio o'i ddiddordeb yn y berthynas rhwng Sosialaeth a chenedlaetholdeb.
"Ac yr oedd Huw T yn ffitio hynny wrth gwrs," meddai.
O blaid i blaid Yn undebwr llafur bu'n aelod o'r Blaid Lafur gan symud at Blaid Cymru a dychwelyd wedyn i'r gorlan Lafur.
Ond yn ôl Gareth Jenkins ni fu bod yn aelod o'r ddwy blaid o les iddo gan nad oedd wedyn yn gymeradwy gan y naill blaid neu'r llall.
Disgrifiodd Huw T Edwards fel gŵr gyda chryn grebwyll gwleidyddol naturiol.
"Roedd ganddo dipyn o allu ond gallu dyn gweithiol oedd ganddo - doedd o ddim wedi cael addysg o unrhyw werth [a] greddf y dyn gweithiol galluog, dosbarth gweithiol, ffraeth, clyfar oedd e.
"Doedd e ddim yn feddyliwr dwys . . . ymateb oedd e i sefyllfaoedd ac yn aml mae pobl felly yn fwy effeithiol na phobl sy'n athronyddu," meddai.
Cyfeiriodd ato hefyd fel un oedd yn gallu trafod pobl o bob math yn dda gan gynnwys perchnogion ffatrïoedd a chyflogwyr.
"Yr oedd rhywbeth yn apelgar ynddo fel unigolyn," meddai.
Gwyn Jenkins yn siarad gyda Dei Tomos ar BBC Radio Cymru