Yn ôl Iwan Llwyd mae "unrhyw beth yn y bôn" yn farddoniaeth.
"Yr oeddwn yn arfer meddwl fod yn rhaid sgwennu am bethau dwys a difrifol ac emosiynol ond mae barddoniaeth mewn unrhyw beth - yn y glaw sy'n syrthio ar y stryd. Ym mhopeth dwi'n weld mae yna farddoniaeth," meddai'r bardd a enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni 1990.
Iwan Llwyd yn siarad gyda Dei Tomos ar BBC Radio Cymru
Ers hynny mae Iwan Llwyd yn fardd sydd wedi teithio'n eang ac wedi bod yn gysylltiedig â sawl rhaglen deledu.
Mae'r teithio yn arwyddocaol oherwydd dywed mai cerddi taith a gyfansoddodd Syr T H Parry-Williams yn ne America yn 1925 fu'r sbardun iddo sgrifennu.
Dangosodd Parry-Williams, meddai, nad oes raid i rywun sy'n sgrifennu yn y Gymraeg sgrifennu am Gymru yn unig.
Am farddoniaeth dywedodd wrth Dei Tomos ar BBC Radio Cymru:
"Y ddelwedd i mi ydi popeth mewn barddoniaeth."
Trwy ddelweddu dywed y gall y bardd droi rhywbeth cwbl gyffredin - fel gwenoliaid yn yr awyr - yn ddelwedd o rywbeth arall.
Am y llyfr sydd ar restr hir Llyfr y Flwyddyn dywedodd ; "Fuasai hi ddim yn gyfrol heb waith Marian" - gan gyfeirio at y lluniau sydd ynddi wedi eu tynnu gan Marian Delyth.