Trannoeth dyfarnu Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2008 galwodd Gwyn Griffiths yn swyddfa sgwennu Gareth Miles, awdur y llyfr Cymraeg buddugol.
Bu cysylltiad cynnar Gareth Miles gydag adar brith y dynion papur newydd yn allweddol yn natblygiad ei nofel, Y Proffwyd a'i Ddwy Jesebel a enillodd wobr Llyfr Cymraeg y Flwyddyn 2008.
Casglu deunydd
"Yr oeddwn wedi cael pres datblygu gan Cambrensis i gynllunio stori fyddai'n sail ffilm deledu ar gyfer S4C i nodi canmlwyddiant diwygiad 1904 Evan Roberts," meddai.
"Rhoddodd hyn gyfle imi ymchwilio a chasglu llwyth o ddeunydd am y digwyddiad.
"Pan, yn y diwedd, y penderfynodd S4C nad oedden am ffilm o'r fath bûm yn pendroni beth i'w wneud gyda ffrwyth fy ymchwil.
"I ddechrau bûm yn meddwl am osod y stori yng ngenau seiceiatrydd o Ffrainc, J. Rogues d'Fursac, awdur y gyfrol orau am ddiwygiad Evan Roberts.
"Ond wedyn, roeddwn i wedi darllen pennod gan y newyddiadurwr E. Morgan Humphreys ar Evan Roberts yn ei lyfr Gwŷr Mawr Gynt.
"Roedd Humphreys wedi cyfarfod ac yn adnabod Evan Roberts ac yn amlwg roedd ganddo barch mawr tuag ato. Fe'i clywodd yn siarad yn gall a rhesymol mewn oedfa ym Mhen Llŷn, cyn iddo gyfarfod Jessie Penn-Lewis a mwydro'i ben."
Oni bai am ddylanwad y wasg dorfol Gymraeg a Chymreig go brin y buasai'r diwygiad wedi digwydd, yn sicr ni fuasai wedi lledaenu fel y gwnaeth, ym marn Gareth.
Sgrifennodd Picton Davies - awdur Atgofion Dyn Papur Newydd a newyddiadurwr o Sir Gaerfyrddin a fu'n gweithio i bapurau dyddiol y de yn ogystal â'r wasg Gymraeg wythnosol yng Nghaernarfon - hefyd am y cyfnod.
Cafwyd cofnod o ymateb gŵr ifanc arall o'r de a deimlodd rym y diwygiad cyn mynd rhagddo i fod yn un o newyddiadurwyr enwocaf ei gyfnod. Cadwodd Anthony Davies - Llygad Llwchwr - Ddyddiadur gydol ei oes ac fe'i cyhoeddwyd yn y Chwedegau.
"Roeddwn i, hefyd, yn cofio llyfr enwog Truman Capote, In Cold Blood, stori wir am nifer o lofruddiaethau di-gyswllt yn America," meddai Gareth.
"Mae'r awdur yn mynd ar drywydd yr hanes, daeth i adnabod y ddau lofrudd gan ymdrin â'r stori fel nofel - a dod a'i hun mewn iddi. Dyna sail y dechneg a ddefnyddiais i yn Y Proffwyd a'i Ddwy Jesebel.
Dynion papur newydd
Ond tra roedd y rhain, ac adroddiadau newyddiadurwyr fel Beriah Gwynfe Evans, yn gofnod hanesyddol gwerthfawr o'r diwygiad, bu'r adnabyddiaeth gynnar a gafodd o ddulliau - ac ystrywiau! - dynion papur newydd o fudd, hefyd.
"Adeg dyddiau cynnar Cymdeithas yr Iaith roeddwn i'n ymwneud â phobol fel Gwilym Roberts, fyddai'n sgrifennu colofn ddyddiol yn y Daily Post - newyddiadurwyr radical, sinigaidd, eto'n Gymry gwlatgar," meddai.
"Dynion y medrwn eu trystio - yn wahanol i'r newyddiadurwyr ddeuai ar dro o Lundain i sgrifennu am yr hyn oedd yn digwydd yng Nghymru'r Chwedegau."
Felly, wrth feddwl am ffordd i droi'r wybodaeth a gasglwyd ar gyfer y ffilm na chafodd ei gwneud y daeth y syniad o lunio nofel a rhoi'r stori yng ngenau'r newyddiadurwr W. T. Davies.
Cynllun a fu wrth fodd beirniaid Llyfr y Flwyddyn.
Yn ddiamau, mae ennill y wobr yn benllanw, hyd yn hyn, yrfa'r sgrifennwr llawn-amser a'r comiwnydd a fu'n byw ym Mhontypridd er y Saithdegau.
I Bontypridd
Wedi cyfnod yn athro Ffrangeg a Saesneg yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, lle seilir Treffin, ei ail gyfrol o straeon byrion, yn dilyn Cymru ar Wasgar,a chyfnod yn athro Saesneg yn Nyffryn Nantlle fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC a hynny ddaeth ag e i fyw yn y de.
"Hwn oedd fy nghyfle cynta i weithio bron yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg," meddai'r ymgyrchydd iaith a oedd yno ar gychwyn Cymdeithas yr Iaith.
Ond pan benderfynodd yr undeb symud ei bencadlys i Aberystwyth, nid oedd Gareth yn awyddus i adael Pontypridd.
"Roedd y plant yn hapus yn yr ysgol Gymraeg a fe gês i gyngor gan Gwyn Alf Williams - 'Aberystwyth? That's like internal exile, boy'."
Yn ogystal â gwaith cyfieithu un o ddramâu Ionesco a gafodd cyn hynny gan Emyr Humphreys, cafodd waith addasu Storiau'r Henllys Fawrar gyfer S4C oedd ar fin cychwyn.
Daeth gwaith wedyn yn sgrifennu i Pobol y Cwm, Coleg, a Dinas ynghyd â gwaith theatr gan Hwyl a Fflag a Dalier Sylw.
Swyddfa sgwennu
Mae sgrifennu yn swydd go iawn iddo gyda 'gweithdy' ar gyfer gwneud y gwaith gan fod ganddo swyddfa yng nghanol Pontypridd lle mae'n mynd yn ddyddiol i sgrifennu.
Fel unrhyw weithiwr arall ond bod y gwaith ychydig yn wahanol i'r arfer.
Bellach, wedi cyrraedd oed yr addewid, mae'n parhau i fynychu'r swyddfa bob dydd i addasu a chyfieithu ar gyfer y theatr a chynhyrchu bron iawn un nofel y flwyddyn.
Felly, a yw'r ffigur eiconaidd â'i wreiddiau'n ddwfn yn nyddiau terfysglyd cynnar Cymdeithas yr Iaith, a Phlaid Cymru cyn troi at y Blaid Gomiwnyddol, bellach wedi ymbarchuso a dod yn rhan o'r 'Sefydliad'?
"Buasai'n braf meddwl, ond dwi ddim yn meddwl gwna nhw fy nhrystio i cyn belled a hynny."
Ac eto, ac yntau wedi'i dderbyn yn ei Wisg Wen i'r Orsedd, siawns nad yw'r hen dderyn drycin yn agosau at y sefydliad erbyn hyn . . .