Bu Caryl Lewis yn sôn wrth Dei Tomos am brofiad digon brawychus oedd tu ôl i'w meddwl pan aeth ati i sgrifenny
Y Gemydd
"Rwy'n cofio pan oeddwn yn groten fach mynd efo hen berthynas i glirio tŷ rhywun yn ganol nos.
"Roedd e'n dy mawr, mawr, eithaf crand a doedd dim trydan yno ac roeddwn i'n gorfod mynd a torts a mynd o gwmpas y tŷ ac roedd popeth wedi ei adael ar ôl yn union fel roedd e pan aeth y fenyw yma i ysbyty felly roedd y gobennydd yn dal a rhyw dolc fach ynddyn nhw lle'r oedd ei phen hi wedi bod.
"Dwr yn dal wrth y gwely a'r gŵn nos yn dal ar waelod y gwely ac yn y blaen ac fe wnaeth hwnnw argraff fawr iawn arnaf i ac roeddwn i'n dechrau cwestiynu beth yn union ydym ni'n ei adael ar ôl beth mae diwylliant yn adael ar ôl, beth mae cymdeithas yn ei adael ar ôl a beth mae unigolion yn ei adael ar ôl.
"A'r un peth efo datgymalu'r eglwys [yn y nofel] - mae cymaint o eglwysi; datgymalu maen nhw; tynnu gymal wrth gymal oddi wrth ei gilydd ac mae rhywbeth barbaric bron yn hynny ac mae'n rhywbeth poenus ofnadwy ac mae e yn hala ni i gwestiynu beth yn union yw'n etifeddiaeth ni," meddai.
Mae hi'n sôn hefyd yn ei sgwrs am ymweliadau â sêls ac arwerthiannau pan yn ifanc i brynu hen ddodrefn a gemau.
"Yr oeddwn i wrth fy modd gyda gemau yn benodol," meddai gan ychwanegu ei bod yn gwybod wrth fynd at y nofel fod ganddi rywbeth i sgrifennu amdano.
"Beth sy'n drawiadol am emau yw eu hirhoedledd . . . [yn cael] eu pasio ymlaen i'r genhedlaeth nesaf felly maen nhw'n ein goroesi ni i gyd," meddai.
Mae'n sôn hefyd am y cyfnod a dreuliodd gyda gemydd fel rhan o'i hymchwil cyn sgrifennu'r nofel a'r syniad mai gemau sy'n ein dewis ni nid ni yn dewis gemau!
Caryl Lewis yn siarad gyda Dei Tomos ar BBC Radio Cymru
Caryl Lewis yn trafod ei gwaith