Nofel am Ryfel Irac oedd hi i fod.
"Ond gwyddwn na fyddai hynny'n gweithio," meddai Tony Bianchi sgwrsio gyda Dei Tomos ar BBC Radio Cymru am ei nofel
Pryfeta a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol sir Y Fflint yn 2007.
O'r herwydd aeth ati i sgrifennu yr hyn a ddisgrifia fel nofel am dwyll ar lefel bersonol.
Disgrifiodd hi fel nofel sy'n "troi o gwmpas y meddwl" gyda'r prif gymeriad yn ynmgolli mewn pryfeta er mwyn dianc rhag yr hyn yw.
Disgrifiodd ei brif gymeriad fel un sy'n "gwybod y byd yn hytrach na'i adnabod".
Tony Bianchi yn siarad gyda Dei Tomos ar BBC Radio Cymru