Trafod cyfnod "anodd iawn" y Tridegau yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol y mae Blynyddoedd y Locustiaid.
Yn ei sgwrs gyda Dei Tomos meddai:
"Doedd y Steddfod ddim yn sefydliad heddychlon iawn yn y cyfnod yna gyda Gorsedd y Beirdd yn credu Mai ni'r beirdd biau'r Steddfod a ni hefyd sy'n defnyddio'r Gymraeg.
"Wedyn mi roedd yna gryn dipyn o wrthdrawiad rhwng caredigion y Gymraeg - y beirdd a'r gorseddigion - a'r ochr gerddorol oedd yn gwahodd beirniaid Saesneg; oedd yn canu caneuon Saesneg a darnau prawf Saesneg.
"Wedyn yr oedd y beirdd yn teimlo fod y cerddorion yn cyflawni rhyw fath o frad ar yr Eisteddfod trwy lusgo'r Saesneg i mewn - a llywyddion y dydd gyda llaw.
"Roedd yr ochr yna i'r Eisteddfod yn nwylo Vincent Evans a'i bencadlys yn Llundain a'r beirdd yn chwyrn iawn fod hwn yn rheoli'r Eisteddfod o Lundain ac ni o Gymru ac wedyn roedd Vincent Evans yn dweud, Fedrwch chi ddim gadael y Steddfod i'r beirdd neu mi wnan nhw lanast ohoni," meddai.
Ychwanegodd nad oedd dim trefn o gwbl.
"Yr oedd hi'n gwbl ddi-lun," meddai gan ychwanegu mai Cynan yn 1925 ddechreuodd gael trefn arni.
Cyn hynny yr oedd y Brifwyl yn "jôc genedlaethol".
Cyfeiriodd at stomp ddifrifol Eisteddfod Llanelli 1930 lle bu bron i Dewi Emrys a gwrthod cael ei gadeirio am nad oedd neb wedi dweud wrtho ei fod wedi ennill - ac yntau ar y llwyfan yn barod i gyfarch y bardd buddugol - sef ef ei hun!
Yng nghystadleuaeth y Goron wedyn doedd gan y bardd buddugol ddim hawl i gystadlu!
Yn 1921 yr oedd coroni Cynan yng Nghaernarfon yn gwbl ddi-lun, meddai, ac ym Mhontypwl 1924 enillodd Cynan gydag awdl nad oedd yn awdl a honno heb ei chynganeddu.
Gyda'i bryddest Mab y bwthyn collodd Cynan y goron oherwydd bod eisteddfodwyr a beirniaid wedi cael "lond bol ar ryfel".
Alan Llwyd yn sgwrsio gyda Dei Tomos am Flynyddoedd y locustiaid ar BBC Radio Cymru.