BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Lleisiau

BBC Homepage
»Radio Cymru
Cyflwynwyr
Digwyddiadur
Rhaglenni
Ar y Marc
Bwrw Golwg
C2
Clywch Clywch
Eileen
Geraint Lloyd
Siân Thomas
Talwrn
Taro'r Post
Gwybodaeth am Radio Cymru
BBC Cymru'r Byd
Chwaraeon
Newyddion
Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pwerdy Tanygrisiau - mwy o luniau
Gorsaf Ynni Ffestiniog oedd gorsaf trydan dwr gyntaf gwledydd Prydain.

Cafodd ei hadeiladu i ddarparu trydan yn sydyn pan fyddai'r galw mwyaf amdano.

Mae'r pwerdy wrth droed y Moelwyn ger Tanygrisiau ar ochr y ffordd sy'n arwain o Flaenau Ffestiniog i Borthmadog.

Mae trydan yn cael ei gynhyrchu wrth i ddwr o Lyn Stwlan uwchben gael ei ollwng i droi twrbinau yn y pwerdy islaw. Mae'r dwr wedyn yn cael ei gadw mewn llyn arall a grewyd ger y pwerdy ar gyfer ei bwpio'n ôl i Stwlan.

Llyn naturiol ydi Stwlan ond fe'i heangwyd yn 1898 gan y Yale Electricity Company i gynhyrchu trydan ar gyfer y chwareli.

Cauodd y pwerdy gwreiddiol oedd yn cael ei adnabod fel Dolwen yn 1964.

Ger Stwlan mae olion hen chwarel y Moelwyn a oedd yn eiddo i'r Barwn Rothschild yn wreiddiol.

Oddi ar argae Stwlan gellir gweld craig ag iddi siap wyneb dyn. Yn lleol mae'n cael ei hadnabod fel Hen Ddyn y Moelwyn. Yn anffodus, fodd bynnag, mae'r hen greadur o'r golwg mewn niwl lawer o'r amser.

Ar ddyddiau felly, pan fo'r Moelwyn dan gwmwl, dywedir yn lleol, "Mae'r Moelwyn yn gwisgo'i gap.

Yn 1948 y dechreuwyd meddwl am y cynllun trydan presennol a daeth caniatâd i fynd ymlaen â'r gwaith yn 1955 ond ni ddechreuwyd gweithio ar y safle tan 1957.

Yr oedd yn gynllun enfawr i'r ardal ac yn golygu gwaith i bobl o bell ac agos.

Agorwyd y pwerdy yn swyddogol gan y Frenhines Elizabeth II ar Awst 10, 1963.

Y mae'n bosib ymweld â'r pwerdy a theithio i Lyn Stwlan ac mewn canolfan gyfagos mae arddangosfa o luniau sy'n dangos y gwaith adeiladu.


Mae gan y Pwerdy ei wefan hefyd gyda gwybodaeth am weithgareddau First Hydro Company ac Edison Mission Energy y perchnogion.

Cliciwch ar y lluniau i'w gwneud yn fwy


Adeiladu'r Neuadd Dwrbein
Adeiladu'r Neuadd Dwrbein

Yr ystafell reoli wreiddiol - wedi ei moderneiddio erbyn hyn.
Yr ystafell reoli wreiddiol - wedi ei moderneiddio erbyn hyn.

Bob Charles gyda'r rheolydd sy'n rheoli estyll y twrbein
Bob Charles gyda'r rheolydd sy'n rheoli estyll y twrbein

Tyllu yn nhwnnel rhif 1
Tyllu yn nhwnnel rhif 1

Cynhaliaeth ar gyfer y twnneli concrid
Cynhaliaeth ar gyfer y twnneli concrid

Yr orsaf heddiw
Yr orsaf heddiw

Porth argae Stwlan gyda'r llyn yn wag ar gyfer archwiliad.
Porth argae Stwlan gyda'r llyn yn wag ar gyfer archwiliad.

Yr argae o'r awyr
Yr argae o'r awyr

Agoriad swyddogol Awst 10, 1963.
Agoriad swyddogol Awst 10, 1963.



News image


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy