|  |
  | |
Blaenau Gwilym Euros Gofynnwyd i'r Cynghorydd Gwilym Euros - restru ugain o Bethau'r Blaenau. Dyma'i restr - anfonwch chwithau eich un chi . . .
Tanygrisiau: Y rhan orau o'r dref (a'r hardda....yn ymestyn i fynnu i Ddolrhedyn a Chwmorthin....paradwys ar unrhyw adeg o'r flwyddyn!). Yma cefais fy magu ac o fan yma daw teulu Mam, teulu "Population" fel maen nhw'n cael eu hadnabod gan fod gan fy Nhaid, Wil "Population", 12 o blant!
Ysgol Tanygrisiau: Yno yr es i gael fy addysgu gan athrawon da a charedig. Mae fy nyled yn enfawr i Eifion O Williams, Nesta Evans a Ceryl Davies. Rwyf bellach yn Gadeirydd y Corff Llywodraethol ac i'r ysgol hon mae fy mhlant yn mynd ac mae'r addysg hyd heddiw yr un mor dda ag oedd pryd hynny.
Ysgol y Moelwyn: Er na wrandawais lawer tra roeddwn yno, dyma lle cefais fy addysg uwchradd a gwneud ffrindiau am oes.
Arwel Jones: Athro, Gweinidog, Cynghorydd, Pêl-droediwr, Golffiwr (nid un rhy dda, cofiwch), fy nghyn Brifathro ond mwyaf oll ffrind y byddai'n troi ato yn aml am ei farn a'i gyngor yn enwedig pan fyddai mewn trafferthion!!
Linda Ann Wyn Jones: Cynghorydd, Sylfaenydd Cwmni Seren a ffrind. Dynas llawn egni sydd wedi rhoi cyn gymaint i'r ardal. Mae'n un reit dda am wneud cyri hefyd!
Clwb Pêl-droed Amaturiaid y Blaenau: Clwb pêl-droed y dre. Tebyg iawn i Bryncoch United o'r rhaglen C'Mon Midffîld, yn cael ei redeg gan criw o gymeriadau hynod o ymroddgar a hwyliog. Hen bryd i'r dref dangos mwy o gefnogaeth i'r Clwb yn hytrach na rhedeg i Maenceinion a llefydd tebyg i wylio prima-donnas!
Siop Chips Woolway's, Y Golden Mountain a'r Siop Kebabs: Mae'n amlwg fy mod yn licio fy mwyd a phan na fydd gan Catrin awydd coginio a finna'n methu, i un o'r llefydd yma byddwn yn troi am ein cynhaliaeth.
Y Moelwyn: Byddaf yn ei weld bob bore drwy ffenest y lloft. Byth yn edrych ru'n fath ond yn fy atgoffa pa mor lwcus ydwi i fyw mewn ardal mor hardd.
Cymeriadau sydd wedi llwyddo yn eu maes: Pobl o'r ardal sydd wedi llwyddo yn eu maes a rhoi'r Blaenau a'r Cylch ar y map am resymau da. Pobl fel Bruce Griffiths, Eigra Lewis Roberts, Gwyn Thomas, Geraint Vaughan Jones, Arwel Gruffudd (fy nghefnder), Gwyn Vaughan, Martin Hughes a Iwcs.
Miwsig: Fel un sydd wrth fy modd efo pob math o gerddoriaeth, dwi'n falch o ddeud fy mod yn dod o Stiniog. Edrychwch ar y cyfraniad sydd wedi dod ac yn dal i ddod o'r ardal i'r Sîn Roc Gymraeg - Anweledig, Estella, Mim Twm Llai a'r Anhygoel. Heb son am gyfraniad Band yr Oakley, Côr y Moelwyn a'r Côr Cymysg.
Llechi: Y rheswm am fodolaeth y dref! Wedi cynnal amryw o deuluoedd dros y blynyddoedd ac yn dal i wneud heddiw. Os gwireddir cynlluniau Cwmni Mc Alpine i drin y gwastraff, bydd yn dal i wneud hynny am ddegawdau i ddod.
Cymeriadau lliwgar a hwyliog: Mae nhw i'w cael ym mhob ardal, ond mae gan Blaenau fwy na'i siâr. Dwi ddim am eu henwi, mae gormod ohonynt ond os ydych yn dod o'r ardal dwi'n sicr eich bod yn eu hadnabod.
Siop Anti Esi: I'r fan yma roedd Mam yn mynd a fi i brynu sgidiau pan oeddwn yn hogyn bach. Roedd gan Anti Esi ffordd arbennig o drin plant ac roedd cael mynd yno yn bleser.
Dolrhedyn: Bum yn byw yno rhwng 1976-1986. Lle da i fyw pan yn blentyn - yr afon i nofio yn yr haf, dam Dolrhedyn a Llyn Cwn yn agos hefyd. Llawer o gymeriadau ffeind sydd bellach wedi marw yn rhoi sylfaen go lew i rywun adeiladu arno ar gyfer y dyfodol. Dyddiau da dros ben oedd dyddiau Dolrhedyn.
Cwmni Seren: Prosiect sy'n rhoi cyfle i unigolion gydag anableddau ddysgu gweithio o fewn i'w cymuned. Mae pobl Blaenau wedi croesawu'r prosiect sydd yn cyflogi'n agos i 50 o bobl ac mae'r unigolion sydd yn rhan ohono wedi cyfoethogi'r ardal mewn amryw o ffyrdd.
Pobl y Cylch: Er na fydd pawb yn cytuno a chydfyw yn hapus bob tro, mae hon yn ardal hynod i fyw ynddi. Pan ddaw gofid a galar i'ch rhan does unman yn debyg i 'Stiniog am glosio at y rhai sy'n llygaid y storm.
Teulu a Ffrindiau: Dwi'n ffodus dros ben i fod wedi priodi merch o'r Blaenau - Catrin. Mae swyddi y ddau ohonom wedi caniatau inni aros yma i fyw a magu ein teulu.Mae Eurgain a Morgan yn mynd i ysgol Tanygrisiau ac mae rhieni Catrin a fi yn byw yn agos. Mae llawer iawn o'n ffrindiau yn byw yn y Cylch hefyd felly dwi'n teimlo yn freintiedig iawn, iawn!
Pan fyddai'n teithio adref o Gaerdydd, Llundain neu lle bynnag - mae fy ngwaith yn mynd a fi mi fyddai bob tro yn edrych ymalen at weld Catrin a'r plant ac ar benwythnosau dwi wrth fy modd yn ymlacio gyda fy ffrindiau. Ydw, dwi'n sylweddoli fy mod yn lwcus iawn ac mae bywyd yn braf yn y Blaenau!
|  |
 |  |
|